Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ymddiried i'r Mab am ddwyn ei fwriadau tragwyddol i ben. Arfaethau Duw am fywyd y byd sydd ganddo i'w cwblhau; a chan mai Buddugoliaeth Duw ydyw Buddugoliaeth Iesu Grist, nid yw amser ddim yr un peth iddo ef ag ydyw i ddynion. Mae amser yn gryn bwnc i ni. Pe baech yn mynd at siopwr yfory, ond odid na chymer lai na'i ofyn gennych os ydyw'r bill yn fawr am i chwi dalu yn ddiymdroi. Mae'n well ganddo, ac yn well iddo, droi rhyw gymaint yn ol o'r peth y mae yn ei ofyn er mwyn cael ei arian yn awr na disgwyl chwe mis a chael y cwbl. Gyda pharch y dymunwn i ddywedyd, raid i Dduw ddim discountio ei hawliau er neb, raid iddo Ef ostwng dim ar delerau'r fuddugoliaeth er mwyn byrhau'r amser. Y mae mil o flynyddoedd yn ei olwg Ef fel un dydd, ac un dydd fel mil o flynyddoedd. Nid ydyw'r peth sydd yn edrych i ni fel arafwch ddim yn arafwch iddo Ef. "Nid yw'r Arglwydd yn oedi ei addewid fel y mae rhai yn cyfrif oed, eithr hir ymarhous yw Efe, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch." Chyll o mo'r cyfle i achub un enaid er mwyn cael ei waredigion adref yn gynt.

Heb law hynny hefyd, gan fod hon yn fuddugoliaeth Duw, y mae ei hystyr hi yn rhy eang i ni fedru ei beirniadu hi, pe gweddai i ni geisio gwneud. Beth ydyw cysylltiad Buddugoliaeth Pen Calfaria a'r bydoedd eraill sydd yn Llywodraeth Duw? Wyddom ni ddim. Nid yw hi ddim heb ei hystyr yn ddiau i holl greaduriaid moesol y Brenin Mawr.

"Pam bydd poen, addfwyn Oen, Am dano yn eitha'r byd heb son?"

Ie, pam bydd eithafoedd creadigaeth Duw heb brofi grym y marw a fu ar y Groes mewn rhyw wedd,—ym mha wedd nis gallwn ddeud. Pwy ŵyr nad ydyw'r gwaith sydd yn cerdded yn araf i'n golwg ni, mewn rhai o'i gysylltiadau eraill yn prysuro yn gyflym i ben?