Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadernid ef. A'r grym yma fydd ar waith yn eu cyfodi hwythau o'r bedd. Yr un un ydyw drwodd draw. Gwnewch chwi drydydd dydd Mab Duw yn ddigwyddiad gwyrthiol am unwaith, a chwi a'i hyspeiliwch o'i werth i ni. Fe gafodd Ellis Wyn hyd i galon yr adnod wrth ei haralleirio hi:

"Myfi yw'r atgyfodiad mawr;
Myfi yw gwawr y bywyd."

Nid yn unig y mae ganddo addewid o fywyd tragwyddol, ond dyma fo'r bywyd tragwyddol ei hun. Nid addewid mo hono, ond dechreuad y peth ei hun. Y sawl a gaffo brofiad o rym ei atgyfodiad ef, y mae eu ffydd hwy a'u gobaith yn Nuw. Y bywyd a roddwyd, ac a gymerwyd drachefn, y mae yn Iesu Grist yn awr, yn drysor dihysbydd o gariad i'r neb a gredo ynddo.

Yr ydym weithian ar dir i roddi ystyr deg i'r hen ffigyrau masnachol, a fu'n achos cymaint o gamddysgu. Y mae prynu trwy waed yr Oen yn beth dealladwy ar yr ystyriaeth hon. Y mae maddeuant yn costio i Dduw; ond y mae hefyd yn talu am dano'i Trwy ddwyn y draul o faddeu i'r afradlon y mae Tadolaeth Duw, yn ei pherthynas â ni ddynion, yn medru cael ei ffordd ei hun. Pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei hâd; efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef.[1] Wrth ddilyn y llinell yma ni gawn ymadael â lliaws o wyrdroadau sydd wedi blino'r Eglwys. Ni fydd mwyach achos gwneud rhwyg yn y Duwdod, na rhwng y personau Dwyfol, na rhwng y priodoleddau Dwyfol chwaith. Ni bydd cariad mwyach yn cynnyg un peth, a chyfiawnder yn cynnyg peth arall. Ni fydd person Dwyfol yn marw by arrangement, chwedl John Roberts o'r Tai Hen, i

  1. Esai. lii. 10.