foddio person Dwyfol arall; oblegid, fel y dywedai Emrys ap Iwan, "Nid mab mwyn i dad dreng ydyw Iesu Grist." Y mae ystyr yr aberth ym Mherson y Mab erioed; ac y mae'r Tad a'r Ysbryd yn gyfrannog ynddo. Yn nwylaw'r Ysbryd Glân yn wir y mae'r cariad a ymaberthodd drosom ni yng Nghrist yn troi'n gariad i'w dywallt yn ein calonnau ni. "Efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi." Bellach y mae cawodydd y fendith, sy'n dyhidlo ar etifeddiaeth yr Arglwydd, i'w gwrteithio hi wedi ei blino, yn gawodydd y Dwyfol Glwyf.
PENNOD III.
Y CYMOD A'R GREADIGAETH.
GAN fod y drefn i faddeu i bechaduriaid yn datguddio bywyd tragwyddol Duw, ni a ddisgwyliem iddi fod ar lwybr cynefin Duw yn ei holl waith. Os yw sylfeini natur a gras yn y bywyd hwnnw, rhyfedd fuasai bod y ddau heb ryw gyfathrach ddofn â'i gilydd. Disgwyliem gael, wrth chwilio, ryw wirionedd pwysig yn cyfateb i deitl Llyfr Wiliam James, Aberdar, Cristnogaeth yn Coron Creadigaeth, "Christianity the Goal of Nature.'"'
Ac ar doriad cyntaf gwawr athroniaeth grefyddol dan yr Efengyl dyna a gawn ni, yr Apostolion yn dechreu gweled perthynas gudd rhwng yr Efengyl oedd yn achub pechaduriaid a gwaith Duw mewn natur. Os dywedir mai go brin yw'r llinell yma yn y Testament Newydd, yr ateb yw mai prin yw athroniaeth o gwbl yn yr oesoedd cyntaf oll, ac nad yw'r llinell yma ddim prinnach. Y mae'r cyfeiriadau byrion a geir, pa fodd bynnag, yn awgrymu bod