Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dra elfennau natur yn cymryd eu llunio at bwrpas eu Crewr.

Ond ar Galfaria y datguddiwyd yr amynedd yma'n llawn. Nid adnabuesid mo hono fel y mae oni buasai am Galfaria. Yr oedd y peth yn Nuw o hyd; ac felly yr oedd ei ddelw ar holl waith dwylaw Duw. Ond wrth brynu dynion y dangoswyd ef yn ei gyflawnder. Ac at hwn y mae'r Apostol yn brysio: "A chwithau, y rhai oeddych ddieithriaid a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, " nid oedd natur ddim felly. Nid oedd ynddi hi ddim gelyniaeth, dim tynnu'n groes i ewyllys Duw, dim ond annibendod. Fe gymerai natur fud bob triniaeth a roddid iddi, er bod y driniaeth weithiau yn lled hir cyn dwyn ffrwyth; ond am bechadur, y mae hwn yn elyn trwy weithredoedd. "A chwithau yr awrhon hefyd a gymododd efe yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef." Do, fe fedrodd y cariad digyffelyb, oedd mor dirion wrth yr amherffaith yn holl waith ei ddwylaw gael ffordd i faddeu i bechadur; ac yn y drefn i faddeu y daeth i'r golwg yr hyn oedd yn bod o'r blaen, a'r hyn yr oedd rhyw eiliw o'i ddylanwad drwy'r greadigaeth oll.

"Pinacl ei fwriad oedd Pen Calfaria."

Yno y cyrhaeddodd creadigaeth ei choron. Y mae'r Oen a laddwyd yn sefyll ar Fynydd Seion, rywle tua chopa creadigaeth ei Dad, ac yn gweiddi ar y pererinion sy'n dringo'r bryn

"Draed luddedig, dowch i fyny, Ymestynnwch, ddwylaw, 'mlaen."

Ni ellir gorffen y cymodi cyffredinol nes i'r ddawn honno yn Nuw sydd yn cymodi pob peth gael ei chyfle goreu i ymddisgleirio. Y mae'r gwaith o gymodi anian yn aros heb ei gwblhau nes cymodi'r hwn oedd