Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i fod yn arglwydd iddi, a'i gyflwyno yn ddiargyhoedd. Gellir dywedyd am alluoedd anian, fel y dywedir am saint yr hen oesoedd, eu bod hwythau heb dderbyn eu haddewidion eto, heb gyrhaeddyd eu man uchaf, heb gyflawni'r peth a osodwyd iddynt, "fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau."

Yr ydym bellach wedi dyfod ris ymlaen o'r lle'r oeddym yn niwedd yr ail bennod. Yno gwelsom fod yr Iawn yn elfen dragwyddol yn y Duwdod. Yma gwelwn fod yr elfen hon wedi gadael ei hôl ar waith Duw mewn creadigaeth. Gwir fod rhaid cael datguddiad mawr i weld y datguddiadau is yn eu gogoniant; eithr nid yw hynny ond y peth a gawn ym mhob man wrth sylwi ar berthynas Trefn yr Efengyl â rhannau eraill o ffyrdd Duw. Dyn wedi adnabod Duw yng Nghrist yn unig a fedr ei adnabod ef yn iawn. mewn natur a Rhagluniaeth. Ond wedi cael y datguddiad mawr y mae yn goleuo pob datguddiad is. Y gwahaniaeth rhwng yr is a'r uwch a'n tery ni gyntaf, nes ymddangos o'r Efengyl yn eithriad yn llywodraeth Duw. Y syndod cyntaf yw, gymaint uwch na'i waith cyffredin yr aeth yn Nhrefn y Cadw; ond pan adnabydder y Drefn yn well, y syndod nesaf yw, mor debyg iddo'i hun, ac mor deilwng ohono'i hun ydyw Duw ym mhob man. Nid rhyw ail-feddwl yn y Duwdod ydyw gras a maddeuant trwy aberth, namyn y peth y disgwyliasech i Dduw ei wneuthur yn amgylchiad pechadur, ped adnabuasech ei gariad mawr yn fwy trwyadl. Po fwyaf a astudiom ni ar ddeddfau ei deyrnas ef, egluraf y gwelwn, mai "gweddus iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy'r hwn y mae pob peth, wrth ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiechydwriaeth hwy trwy ddioddefiadau."