Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awdurdod i faddeu ac i wrthod maddeu i'w Apostolion, yr oedd ef yn teimlo ei fod yn cyfrannu rhywbeth mawr a phwysig iddynt. " Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a'r eiddo pwy bynnag a atalioch, hwy a ataliwyd."[1] Y maddeuant oedd i'w bregethu yn ei enw ef ym mysg yr holl genhedloedd gan ddechreu yn Jerusalem.[2] Nid rhywbeth y gallai unrhyw enw ei awdurdodi ydoedd. Rhywbeth i'w gael trwy ei gyfryngdod ef oedd hwn; ac yr oedd a wnelai y profiadau mawr yr aeth trwyddynt wrth farw ac atgyfodi rywbeth â'r edifeirwch a'r maddeuant oedd i'w pregethu yn ei enw ef. Pa ddefnydd bynnag a wnaeth Paul a'r Apostolion eraill o ddefodau Iddewig i esbonio'r peth, y mae'r peth ei hun—yr idea o awdurdod i faddeu, ac o berthynas maddeuant a chyfryngdod y Mab—yn rhan o'r Efengyl fel y gadawyd hi gan yr Iesu.

A'r hyn a ddysgodd yr Iesu yn ei fywyd a ddatguddiodd efo'n llawnach fyth yn ei angau. Ac os cawn ni le i feddwl bod y drychfeddwl yma gan yr Apostolion, y drychfeddwl o awdurdod i faddeu, a honno'n seiliedig ar gyfryngdod Crist Iesu, teg ydyw casglu mai dyma oedd yn eu meddyliau yn y cyffredin, pan grybwyllent yn fyr, heb eglurhad pellach, am faddeuant trwy ei waed ef.

Gwir nad yw'r Iesu ei hun yn egluro perthynas maddeuant a'i ddioddefiadau ef; ond y mae'r idea fod maddeu yn beth anawdd yn cael ei thybied yn amlwg yn hanes y claf o'r parlys. "Pa un hawsaf ai dywedyd Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd Cyfod a rhodia?" Fe olyga hyn yn un peth fod y ddau yn anawdd. Yr anhawsaf o'r ddau i'w ddywedyd yw "Cyfod a rhodia "; yr anhawsaf ei wneuthur ydyw "Maddeuwyd i ti dy bechodau." Ond y mae'r ddau yn anawdd; ac i brofi ei awdurdod i wneuthur y naill y dywedodd yr Iesu'r llall. "Fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pech-

  1. Ioan xx. 23.
  2. Luc xxiv. 46, 47.