Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odau, yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys, Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ." Yn ei fryd a'i fwriad ef sacrament ei awdurdod i faddeu oedd ei awdurdod i gyflawni'r wyrth. Os felly, y mae maddeu pechodau mor bell o fod yn beth hawdd, rhwydd, digost, fel y mae'n perthyn i'r un urdd o weithredoedd a gwyrthiau ym myd natur. Ni charai dyn ddim pwyso gormod ar gasgliadau anuniongyrch; ond nid oes fodd gwrthwynebu'r casgliad hwn beth bynnag, fod maddeuant gwerth ei gael, a gwerth ei roi, i feddwl yr Iesu, yn rhywbeth difrif a phwysig iawn, nid o gwbl yn rhyw gardod i'w daflu'n ddifeddwl heb wybod oddiwrtho. Beth bynnag oedd maddeuant ganddo ef, yr oedd yn bob peth ond hynny.

Ond yn ei angau ef y datguddiwyd pa beth ydoedd. Y Groes a ddangosodd pa sut faddeuant a gyhoeddid yn ei enw ef, maddeuant rhad i'r pechadur, ond drud i'r maddeuwr, a dehongli maddeuant yn y wedd yma oedd un o brif negesau'r apostolion.

Ac er mwyn cael allwedd hwylus i'w dysgeidiaeth hwy, ni gymerwn ysgrythyr y bydd braidd bob llyfr o bwys ar yr Iawn yn traethu rhywfaint arni, Rhufeiniaid iii., 25—26. "Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Ymddengys i mi, er na ellir, mewn cyn lleied a hyn o gwmpas, geisio profi hynny bob yn rhan, 'mai meddyliau'r ysgrythyr hon sy tu cefn i liaws o adnodau ar y pwnc, nid yn epistolau Paul yn unig, ond trwy'r Testament Newydd i gyd. Nid na ellir, yng ngwaith Paul a'r apostolion. eraill, ystumio llawer adnod a'u hesbonio fel ag i droi'r ystyr hon heibio, a dywedyd fod Rhuf. iii., 25—26 yn eglurhad eithriadol ar yr athrawiaeth, o'r naill du i'r llifeiriant cyffredin o addysg—eglurhad a