Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyffredin a llafurwyr. Y mae'r nodiad ynddo'i hun bron yn ddigon i benderfynu'r pwnc y mae cryn ysgrifennu wedi bod arno, am y ddau dro y cynygiwyd diod i'r Arglwydd Iesu ar y groes. Fe wrthododd y ddiod a gynygiwyd iddo i farweiddio'r boen, ond fe dderbyniodd y ddiod a rodded i'w ddisychedu.

Afraid dywedyd ddarfod dangos y gofal llwyraf ar gael y testun gwreiddiol cyn gywired ag yr oedd posibl wrth y goleuni diweddaraf. Ac fel y cafodd yr isfeirniadaeth beirniadaeth destynol y Llyfr bob chwarae teg, felly hefyd ceir yma gryn help i ffurfio barn ar brif gwestiwn beirniadaeth hanesyddol, neu uwch-feirniadaeth Efengyl Marc. Gŵyr llawer o ddisgyblion yr Ysgol Sul fod amheuaeth am y deuddeg adnod olaf o'r Efengyl hon. Nid na allant hwy fod yn eithaf dilys fel cynnyrch yr oes Apostolaidd; ond lled sicr ydyw nad ŷnt yn rhan o'r Efengyl fel yr ysgrifennwyd hi ar y cyntaf. Yn y cyfieithiad hwn cawn gyfle i ffurfio barn drosom ein hunain. Y prif brawf ydyw bod y llawysgrifau yn amrywio yn yr adnodau hyn; a rhoddir yma ddau atodiad gwahanol a geir yn y copïau, yr un cyffredin ac un arall. Fe â hyn ym mhell i brofi fod y ffurf gyntaf ar Efengyl Marc yn dibennu ar ddiwedd xvi. 8.

Ysgrifennais hyd yma heb ymgyngori ag adolygiad gwych a manwl Mr. Tecwyn Evans. O fwriad yr oedd hynny, rhag i'm barn gael ei hystumio gan ddylanwad gŵr y mae gennyf gymaint meddwl o hono. Gwelir fy mod innau wedi disgyn ar amryw o'r un pynciau â Thecwyn; a phe printiaswn yma bopeth oedd yn fy mrasnodion cyntaf, buasai'r tebygrwydd rhyngom yn nes fyth. Ar bwnc y modd dibynnol petruso gormod yr oeddwn i ddywedyd dim yn rhyw hyderus felly. Am amserau'r ferf, gwelir nad yw Tecwyn a minnau yn gwbl unair; ond ar bopeth arall, hyd y sylwais, yr ŷm wedi dyfod i'r un fan. Yr unig newid a wneuthum ar ol darllen Tecwyn oedd tynnu'r r o'r