Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gair llewyrch. Gobeithio na ddyd yr argraffydd hi i mewn.

Ymhen blynyddoedd, wedi llawer o chwilio a darllen y gwelwn ni gymaint o ychwanegiad oedd y Cyfieithiad yma at ein llenyddiaeth Ysgol Sul ni. Nid bychan o beth yw bod gennym weithian flaenffrwyth ymchwil annibynnol. Popeth oedd gennym yn Gymraeg o'r blaen, oddigerth a geid mewn esboniadau, efelychiad addefedig o'r Cyfieithiad Saesneg Diwygiedig ydoedd. Dyna oedd Cyfieithiad Owen Williams, a chyfieithiad y Dr. Edwards o Gaerdydd y ddau yn dilyn y Saesneg yn rhy gaeth o lawer; ond dyna hefyd oedd gwaith rhagorol Mr. Phillips, ond bod hwnnw yn efelychiad rhyddach a gwell o gymaint a hynny. Eithr o'r diwedd dyma waith yn Gymraeg gan rai a hawl ganddynt i farnu, a medr eithriadol iawn i ddodi ffrwyth eu hastudiaeth i ni "yn ein hiaith ein hun yn yr hon y'n ganwyd." Y maent wedi mentro newid mwy na'r Saesneg Diwygiedig, heb fynd mor ddibris o chwildroadol a'r Dr. Moffat. Nid ŷnt fel efe, yn cymryd y cyfrifoldeb o symud paragraff neu adnod o'u lle cynefin, a'u dodi lle y gwnaethent, yn eu barn hwy, amgenach synnwyr. Nid oes dim pen-draw i waith felly, unwaith y dechreuer cael hwyl arno.

Y cyfieithiadau tebycaf i hwn yn Saesneg yw rhai y Dr. Agar Beet o Epistolau Paul. Y mae ef, fel ein cyfieithwyr newydd ninnau, yn credu mewn dilyn trefn y Groeg. Yr oedd yn burion cael gwybod y drefn honno; ond anodd iawn ydyw ei chadw hi yn Gymraeg heb golli peth ar y pwyslais. Tuedd yr iaith Roeg yw gyrru'r gair pwysleisiog yn ol agosaf y medrer i ddechreu'r frawddeg, lle y mae aml i bwyslais yn Gymraeg i'w ddangos drwy yrru'r gair cyn nesed ag y byddo modd i'w diwedd hi. Dyna a bair fod eisiau newid curiad y llais wrth ddarllen. Ond er bod hyn yn ymyrraeth peth a hwyl a rhuglder y darlleniad, wrth ddarllen yn hyglyw, y mae yn help i alw sylw at