Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ergyd y gwreiddiol; ac y mae newid gafael y modur wrth fynd i fyny'r rhiw yn help i ddysgu daearyddiaeth, yn gymorth i gofio pa le y mae'r bryniau a'r pantiau. Dylai llyfr fel hwn fod gan bob athro Ysgol Sul. Yn wir, o'i feddu, hwy allant fforddio bod yn lled annibynnol ar esboniadau, bob peth ond y rhaglith. Ac nid y leiaf o gymwynasau'r gwaith yw bod y pwyllgor dysgedig wedi penderfynu rhannu'r llyfrau bob yn baragraff, yn lle bob yn adnod.
[Y Cymro, Gorffennaf 23, 30, 1921