Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V
"FFYDD YMOFYN."
GAN SYR HENRY JONES.

A Faith that Enquires. The Gifford Lectures delivered in the University of Glasgow in the years 1920 and 1921, by Sir Henry Jones. Macmillan &Co., Ltd., St. Martin's Street, London. Price 18/—

DYMA gyfrol o'r Darlithiau Gifford—cynhaeaf llafur Syr Henry Jones. Yr oedd yn gred ganddo, yn ei gystudd caled a maith, na fyddai farw nes gorffen y gwaith hwn; a chyflawnwyd ei hyder; oblegid ymddangosodd y gyfrol ym mhen ychydig iawn o wythnosau ar ol ei ymadawiad. Ffydd Ymofyn" yw teit y llyfr, sef y gyfryw ffydd ag a fynno chwilio i fewn i seiliau ei hyder, y fath hynny ar grefydd a fedro roddi rheswm am y gobaith sydd ynddi. Mewn gwirionedd fe gynnwys y gyfrol hon athroniaeth grefyddol Syr Henry Jones.

Ni ellir cael gwell braslun o'i rhediad hi na'r un a ddyry ef ei hun yn y ddarlith ddiweddaf. "Y mae'r cwrs yn rhyw dair rhan. Yn y rhan gyntaf fe ymwnaethpwyd â'r rhwystrau sydd i ymorol am rym ein credôau crefyddol wrth ddulliau di-gêl, diarbed, a diwarafun gwyddoniaeth. Yn yr ail, mi ddatgenais me ddi-arbed ag y medrwn y gwrthgyferbyniad rhwng bywyd crefydd a'r bywyd cyffredin. Mi ystyriais yn fanwl y gwrthdarawiad rhwng moesoldeb a chrefydd, sy'n edrych tu hwnt i'w gysoni o groes, dangos y syniad cyfeiliornus y cododd y gwrthwynebiad ohono, a