Tudalen:Ysten Sioned.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YSTEN SIONED.

——————

Y FERCH ANFFODUS.

——————

CEFAIS yr hanesyn canlynol mewn papyryn a ysgrifenwyd er ys mwy na chan mlynedd yn ol; a geilw yr ysgrifenydd ef yn "Ystori Wirioneddol." Yr wyf yn ei adrodd yn lled agos yng ngeiriau yr ysgrifen gyntefig.

Yr oedd yn trigiannu yng Ngwern Hywel, yn agos i Yspytty Ifan, wr yn byw ar ei dir ei hun, ag iddo ddau fab; ond nid oedd yr hynaf o honynt, sef yr etifedd, mor ffetus a dynion ereill; eithr gwirion a phlentynaidd ydoedd; ac nid oedd rhianedd mewn un modd yn wrthddrychau deniadol yn ei gyfrif ef. Y tad, wrth weled ei gynfab felly, a feddyliodd wneuthur y mab arall yn etifedd yn ei le. Yn yr un gymmydogaeth yr oedd yn byw wr arall â dwy ferch ganddo; ac yr oedd ef yn ddyn o gryn feddiannau a gwerth. Beth a wnaeth y gwr yma ond ceisio gwthio un o'i ferched, o chwant y tir, ar yr etifedd gwirion, a rhoddi cryn dwysgen o eiddo gyda hi yn gynnysgaeth. Ac felly gwnaed cytundeb, a hwy a briodwyd, ac aethant i fyw yng nghyd ar y tyddyn a berthynai i'r gwr egwanbwyll. Dros flwyddyn neu ragor ymddygodd y ferch yn wraig go wastad; ond ar dro daeth rhyw hen gydymaith iddi heibio, a hudodd hi i'w ganlyn ef.