Tudalen:Ysten Sioned.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth hithau i ffordd gydag of dros ryw hyd, ac nis gwyddid pa le yr oeddynt; ond gadawodd yr adyn hi, a hi a fu yn cerdded i lawr ac i fyny o fan i fan, heb neb yn gwybod dim o'i hanes; ond hi a ddenai weithian i ryw un o'r caeau nid neppell o'r tŷ, ac a roddai rywbeth yno i annerch ei gwr, a hynny mor fynych ag y gallai hi gael y peth a garai ac a hoffai ef; eithr nid ai i'r tŷ er dim a geisient ganddi, ond i ffordd drachefn fel chwibleian nas gwyddid i ba le. Hi a fu ddwy neu dair blynedd yn y cyflwr crwydrus hwn, megys wedi cywilyddiaw o herwydd ei hymddygiad, a'i thad (yr hwn a wnelsai y briodas) yn ddig iawn wrthi, ac yn barod i'w tharaw yn ei phen ond cael ei gweled. Ond ym mhen hir a hwyr hi a ddaeth i dŷ ei thad; eithr nid oedd yr hen wr ei thad yn dygwydd bod yn y tŷ y pryd hynny, ond ei chwaer yn pobi wrth y bwrdd. "O! fy chwaer," ebai hi, "i ba beth y doit ti yma? Cymmer fwyd, a dos i ffordd cyn dyfod fy nhad i'r tŷ, rhag ofn iddo dy daraw a'th friwo, o herwydd ei fod yn ddig iawn;" ond hi a arosodd nes dyfod ei thad i mewn. Aeth yntan heibio tuag at y tân heb ei gweled, ac eisteddodd mewn cadair: ond hi a syrthiodd ar ei gliniau o'i flaen ef, gan ofyn ei fendith. Ebai'r hen wr, "Beth wyt ti, a phwy sydd yma?"

Ebai'r chwaer arall wrtho, "Fy chwaer yw hi." Yntau gododd ei ddwylaw ac a'u rhoes ar ei phen, gan ddywedyd, "Duw a'th fendithio, ac a ddiwygio dy fuchedd!" Ar hynny hi a ollyngodd ei phen ar ei linian ef, ac yntau yn ceisio ganddi godi: ond yn ofer. Erbyn edrych yr oedd hi wedi marw! A'r hen wr. pan wybu ei marw, a gododd ei ddwylaw, gan ddiolch i Dduw na roisai ef na chlais na dyrnod iddi, er diced ydoedd.