Tudalen:Ysten Sioned.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TWMPATHAU ARTHUR.

——————

PAN oedd Sioned ym Morganwg ar ei thro, rhoddwyd a ganlyn, ym mhlith pethau derbyniol ereill, yn ei Hystên.

Y mae rhes o fynyddau yn rhedeg drwy Ddeheubarth o'r dwyrain i'r gorllewin, ag arnynt dwmpathan neu wyddfaoedd, a elwir Twmpathau Arthur, neu Neidiau Arthur; yr hwn, meddir, a'u cododd, gan osod dewisedigion o'i filwyr mewn lleoedd cyfaddas arnynt i wylied ymgyrch gelynion o for ao o dir; a phan welid y cyfryw yn agosäu, neidiai yr un a'u gwelai gyntaf o dwmpath i dwmpath, oni ddelai ef â'r newydd i Gaerlleon ar Wysg, lle yr oedd y milwyr dan arfau yn barod i fyned yn erbyn y gelynion. Y nesaf i Gaerlleon o'r Twmpathau hyn sydd ar ben Twyn Barlwm, yng Ngwaenllwg; yr ail, ar Arth Llanilltud Faerdref; y trydydd, ar Arth Maelwg; y pedwerydd, ar Fynydd y Gaer, Llangrallo; y pummed, ar Fynydd Morgeila, yn Nhir Iarll; y chweched, ar Fynydd y Gaer, Glyn Nedd; y seithfed, ar y druman rhwng Nedd a Thawy; yr wythted yw'r wyddfa ar y mynydd uwch ben Trewyddfa, yn Llangyfelach; a'r nawfed, yr hon yw y naid fwyaf oll, ac yn drigain milltir o leiaf, ar y Frenni Fawr, yn Nyfed. Nid aml y gwelir Cymro y dydd heddyw a ddichon neidio cyn belled; a phrin y gallasai Sioned gyflawni yr orchest pan oedd yn ei hamser goreu.