Tudalen:Ysten Sioned.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

igaeth Angeu yn ei Freninllys Uchaf, a hefyd o Weledigaeth y Farn Ddiweddaf; ond bu farw (gwae ni!) cyn gorphen un o'r tair Gweledigaeth hyn. Dywedir i Ffowc Prys, offeiriad Llanllyfni, yn Arfon, ofyn iddo unwaith pa bryd y gorphenai ef Weledigaeth y Nef. "Dim," eb yntau, "cyn myned yno, Duw yn ei dragaredd a'm dwg yno; am fod yn angenrheidiol myned yno, cyn y gellir gwybod a son yn gyfiawn am yr hyn ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth erioed ar feddwl a deall dyn ei amgyffred yn y byd hwn. Ond am Weledigaeth Uffern, hawdd oedd i mi ei hysgrifenu, am fy mod yn gweled Ufferu o'm blaen yn amlwg yn y byd hwn, i ba le bynnag yr elwyf."


CAN Y FFERMWR.

——————

O'R holl alwadau sy'n y byd,
A'u rhifo i gyd yn gysson,
Pen arnynt oll yw'r ffermwr call
Sy'n attal gwall ar ddynion;
Heb hwn fe fyddai'r byd bob awr
Dan lwythi mawr anghenion;
Iawn iddaw barch a chlod ar gân
Am ffrwythau'i lân orchwylion.

Llafurio'n ddiwall tir ein gwlad
Yw pen pob mad amcanion;
Cawn amledd gwenith, ceirch, a haidd,
Cawn bawr i'r praidd eu digon;
Rhydd âr ei chnwd o'r erfin gwych,
Dwg lwyth o'r bresych breision;
Ymborth o'n holl gorlannau cawn,
A'n dyddiau'n llawn cysuron.