Tudalen:Ysten Sioned.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoer diog mewn anialwch gwyllt,
Ac yno hyllt ei galon;
Bydd farw o newyn cyn bo hir,
Er meddu tir o gylchon:
Ond ffermwr gwych, sy'n caru gwaith,
Gwna'r gwylltoedd maith yn ddofion;
A'i offer llym, a'i eidion gwâr,
Fe dyn o'r âr ei ddigon.

Tra bo'r uchelwyr yn eu rhwysg
Yn dirwyn twysg ynfydion,
Ymarfer o bob drwg yn syth
Heb weled byth eu digon;
Mae'r ffermwr doeth sy'n trin ei dir,
Yn meddu gwir fendithion;
O'i gylch mae llwyddiant ym mhob rhith,
A'i barch ym mhlith y doethion.

Fe god o'i wely ar glais dydd
I rodio'r meusydd tirion,
I drefnu'r gwair, i drin yr yd,
Gan alw yng nghyd ei weision;
Gwr llawn ei dŷ, nid oes un gell
Yn meddu gwell danteithion;
Heb arno ddiffyg mewn un modd,
Pob peth wrth fodd ei galon.

Mae'n canfod llwyddiant ar bob llaw,
Ni theimla fraw'n ei ddwyfron;
Mae tâl diwydrwydd yn ddifeth,
Mae ym mhob peth yn gyfion:
Caiff flith o'r ddôl, o gesail bryn
Caiff wenith gwyn ei ddigon;
Ffy'r newyn gwelw hyd eithaf coll
O blith ei holl blwyfogion.