Tudalen:Ysten Sioned.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Teg olud o gyfiawnder yw
A ddaw o'i syw orchwylion;
Gan fyw'n ddi-gribddail a di-dwyll,
Fe ddilyn bwyll yn gysson:
Doeth a diniwed yw ei swydd,
Mae'n gyfaill rhwydd ei galon;
Y dyn a fo fal hyn yn byw,
Fe gaiff gan Dduw ei ddigon.

Ar bob diwydrwydd rhown ein bryd,
A'n campau i gyd yn rhadlon,
Cawn gan Ior nef ei rad i'n plith,
Rif defni gwlith y meillion;
Gwelir digonedd ym mhob cell-
A pheth sydd well gan ddoethion,
Cydwybod lân, pob awr yn hedd,
Dim gwell ni fedd nefolion.

1801

TYLWYTHOG WR TREGAIAN.

——————

AR yr unfed dydd ar ddeg o Fawrth, yn y bedwaredd flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Frenines Elisabeth, ym mhlwyf Tregaian, ym Mon, bu farw Wiliam Dafydd Powel Ierwerth, yn gan mlwydd a phamp oed. Bu iddo dair gwraig briod: cyntaf, Elin ach Wiliam; o ba nn y bu iddo ddau ar hugain o blant; ail, Catrin ach Rhisiart; o honno cafodd ddeg o blant; trydedd, Elin ach Wiliam; o'r hon y cafodd bedwar o blant. Bu iddo hefyd, yn ei amser, ddwy gariad. wraig: un, Sioned ach Wiliam; y llall, Lleucu