Tudalen:Ysten Sioned.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llwyd; ac o hon bu iddo bump o blant; ac o Sioned ach Wiliam bu iddo ddau o blant.

Rhif plant y gwragedd oedd un ar bymtheg ar hugain, a'i blant o'i gariadwragedd oedd saith; y cwbl yn dri a dengain. Yr oedd ei fab hynaf, Sion ab Wiliam, yn bedwar ugain a phedair oed, â chanddo blant, a phlant i blant, lawer o rifedi; a'i fab isaf, a elwid Gruffydd ab Wiliam, a oedd yn yr amser hwnnw yn ddwyflwydd oed; ac yr oedd y ddau yng nghynhebrwng eu tad. Ei ferch hynaf oedd Alis ach William, yr hon oedd yn ddeuddeg a thrigain oed, ac a fu yn briod ddwywaith, â chanddi blant, a phlant i blant, lawer o rifedi.

Yr oedd yn fyw ym mhlwyf Tregaian yn amser y gwr hwnnw fwy na phedwar ugain o bobl, y rhai a hanent o hono ef yn unig; ac yr oedd o'i hiliogaeth ef yn Sir Fon fwy na thri-chant a naw. Nid oedd ef ond gwr bychan o faintioli, ond o natur gref. Blinid ef yn aml gau y goluddwst a'r garreg; cymmerai luniaeth cymmedrol; yr oedd yn byw wrth hwsmonaeth, ac yn difyrru ei hun wrth bysgota ac adara. Yr oedd ei olwg a'i gof, a'i synwyrau ereill, yn gwbl berffaith hyd at ei ddydd diweddaf.

Y TOELI.

——————

GAN fod toelïod yn myned yn anamlach bob blwyddyn, a bod perygl iddynt lwyr ddiflannu, a bod llawer heb gymmaint a chlywed son am danynt, chweithach eu gweled â'u llygaid eu hun, angenrheidiol wrth gychwyn yw rhoddi rhyw faint o eglurhâd ar y gair, ac ar y peth y mae'r gair yn ei ddynodi.