Tudalen:Ysten Sioned.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Toeli, yng Ngheredigion, sydd yr un peth â tholaeth neu dolath mewn rhai parthau eraill o Ddeheubarth; a thybir fod y naill yn llygriad gwerinaidd o'r gair teulu, a'r llall o'r gair tylwyth; ac felly mae'r ddau yn bur debyg o ran eu hystyr. Yr hyn a olygir wrth y naill a'r llall ydyw yspryd neu ddrychiolaeth angladd, claddadigaeth, neu gynhebrwng. Gelwir yr un ddrychiolaeth hefyd yn gyheuraeth mewn rhai mannau o'r Dywysogaeth. Y mae y toeli bob amser, pan y dygwyddo, yn myned o flaen marwolaeth mewn rhyw deulu neu gilydd. Cychwyn y ddrychiolaeth allan o'r tŷ yr a'r corff marw o hono, ar hyd y ffordd angladd tua'r eglwys, aiff i mewn i'r adail gyssegredig honno, ac wedi aros amser cymmesur yno, daw allan drachefn at y bedd; ac wedi darfod y claddu, ymwasgara y dyrfa ledrithiol, a derfydd am y toeli hwnnw. Mewn gair, y mae'r toeli yn gyffelyb yn mhob dim i'r angladd gwirioneddol, ond yn unig nad oes gan y gwyddfodolion toelïawl gnawd ac esgyrn, nac, hyd y gwyddys, un sylwedd arall. Nid oes, fel yr ymddengys, un amser pennodol i doeli gychwyn o'r tŷ y bydd marwolaeth i ddygwydd ynddo, ac wrth bob tebygolrwydd y mae cryn ryddid wedi ei roddi iddo o ran yr amser. Gall y farwolaeth a ragarwyddir ganddo ddygwydd yn ebrwydd iawn, ond nid oes rhaid iddi ddamweinio am rai wythnosau; eto bernir nad oes un toeli uniongred i'w ganfod am fwy na rhyw fis o amser cyn y gwelir angladd yn teithio ar hyd yr un ffordd. O herwydd yr ansicrwydd a dardd o'r rhyddid hwn, nis gellir gwybod, gyda dilysrwydd, pa bryd y dygwydd y farwolaeth ddisgwyliedig yn y tŷ a'r tŷ, er gweled o honoch y toeli yn dyfnd allan yn ei grynswth o hono. Gwyddoch beth sydd i ganlyn,