Tudalen:Ysten Sioned.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cystal a phe baasai yno gelain eisoes yn gorwedd dan ei chrwys, ond y toeli yn unig sydd yn gwybod yr amser, os gŵyr hwnnw hefyd.

Nid oes toeli, yn ol barn y dysgedigion, yn rhagflaenu pob claddedigaeth; ond y mae rhywbeth yn gyffredin i'w weled o flaen pawb. Efallai mai canwyll gorff sydd i fod yn ragredegydd i ambell un, neu gwn wybr, neu gwn annwn, neu wrach y rhibin, neu ryw ysprêd ereill. Y mae y ganwyll gorff, fel y gwyddys, yn gyfyngedig i Esgobaeth Tŷ Ddewi; ac nid wyf yn deall fod toeli o'r iawn ryw i'w weled byth yng Ngwynedd a Phowys; er bod yno ddigon o ryw fân ysprydion a drychiolaethau.

Ond â'r toeli, ac â dim ond un enghraifft neillduol o'r toeli, y mae a wnelwyf ar hyn o bryd. Yr oedd cynhauaf y flwyddyn 1816 yn un o'r rhai gwlypaf, os nid y gwlypaf oll, y mae genym gof am dano yng nghorff y can mlynedd diweddaf. Dydd ar ol dydd, ac wythnos ar ol wythnos, nid oedd dim ond

"Gwlaw, gwlaw, ar bob llaw yn llwyd."

Eginai yr yd ar ei draed, a phydrai yr hyn a fedasid. Nid oedd modd cael cymmaint a diwrnod sych i achub sopyn o hono. Yng ngeiriau Gwallter Mechain, gellid dywedyd am y flwyddyn honno:

"Leni ni bu hardd-gu hin,
Mai hafaidd na Mehefin;
Ni ffynnodd ein Gorphenaf,
Pob dyffryn a glyn yn glaf;
Yn Awst gwlyb wair mewn ystod,
Medi heb fedi i fod
Pydra, egina'n gwenith,
Ceiroh a haidd mewn cywair chwith;
Daiar ni bu'n deori
Hanner ffrwyth, o'i hadwyth hi;
Ffrwythau ac eginau gant,
Anhawdd fyd, ni addfedant."