Tudalen:Ysten Sioned.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ystod yr amser hwn yr oedd gwr a gwraig o amaethyddion yn byw mewn un o'r plwyfau helaethaf o fewn cantref Moeddyn, yng Ngheredigion. Dalient dyddyn canolig o ran maint, a chyfrifid hwynt yn ddynion synwyrol, gonest, geirwir, ac yr oeddynt yn barchus yn y gymmydogaeth y preswylent ynddi. Yr ydwyf yn eu cofio yn dda ddigon, a byddwn dra hoff o ymgomio â hwynt yng nghylch y pethau a welsent ac a glywsent. Benyw dal lathraidd oedd y wraig, ac o ran cynneddfau meddwl, helaethrwydd gwybodaeth, a pharodrwydd ateb, yr oedd hi ym mhell iawn o flaen ei chymmydogesau a droent mewn cylch cyffelyb. Yr oedd y ddau yn llygad eu hamser, ac yng ngrym en dyddiau.

Un prydnawn tua diwedd mis Medi peidiasai y gwlaw, cododd y gwynt yn lled uchel, a dechreuodd yr yd a dorresid gryn bythefnos o'r blaen ysgafnu a sychu. Aeth y gwr allan ym min yr hwyr i un o'r caeau llafur cyfagos; gwelodd fod yr yd yno bron â bod yn barod i'w rwymo; dychwelodd i'r ty, gan ddywedyd wrth ei wraig fod yr yd ar y Banc Uchaf (canys dyna oedd enw y cae) yn lled sych, a bod chwant arno ef fyned a'i rwymo; gan chwanegu y byddai achub cymmaint a sopyn o hono yu gryn beth, gan na wyddid ar glawr daiar pa bryd y ceid ef mor sych a hynuy drachefn. "Aroswch i mi weled rhoi'r plant yn y gwely, a mi a ddeuaf allan gyda chwi," ebai'r wraig. Dodi y plant yn y gwely, a'u gadael hwy a'r tŷ dan ofal llances o forwyn. Cychwyn a wnaethant allan i'r cae, yr hwn nid oedd ond rhyw hyttir o ffordd oddi wrth y tŷ. Yr oedd y lleuad Fedi yn llawn, neu yn agos i'w llawn faint, ac yn goleuo yn danbaid, ond bod ambell gwmwl tywyll yn