Tudalen:Ysten Sioned.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

myned yn awr ac eilwaith dros ei hwyneb gwyl, a hithau drachefn pan ddeuai i'r golwg, a ymddangosai "fal yn brysiaw ar ei hwyl. " Yr oedd maes yr yd â ffordd fawr y plwyf yn myned gydag un ochr iddo, heb na chlawdd na gwrych rhyngddi a'r cae, ond yr oedd clawdd gweddol uchel yn rhedeg finfin â'r ffordd yr ochr arall iddi; neu , mewn geiriau ereill, nid oedd clawdd ond un ochr i'r ffordd, a'r ochr honno y bellaf oddi wrth y cae. Yr oedd y ffordd fawr felly yn myned drwy'r cae, ond ei bod yn cadw gydag un ochr iddo. Pan gyrhaeddasant y cae, cawsant yr yd wedi sychu yn bur wych; dechreuasant ar unwaith ar eu gwaith o rwymo; ac ymddiddanent yn siriol ddigon yng nghylch yr yd, yr hin, a phethau cyffelyb. Aent rhagddynt yn hwylus gyda'u gwaith. Eithr pan yr oeddynt wedi bod ryw yspaid hanner awr, neu ychydig yn chwaneg, yn diwyd gylymu yr ysgubau, dygwyddasant glywed, ar eu llaw chwith, tua phen uchaf y ffordd oedd yn arwain i'r cae, ryw swn a sisial megys o bell, megys fel pe buasai bagad o ddynion yn dyfod y ffordd honno. Safasant ennyd a'u tuswyau yd yn eu dwylaw, ac erbyn edrych tua'r lle y clywent y swn yn dyfod o hono, gwelent, wrth lewyrch y lloer, haid o bobl yn dyfod i'r golwg, ac yn symmud yn y blaen tuag atynt. Plygasant drachefn at eu gwaith heb feddwl nemawr yn chwaneg am a welsent ac a glywsent. Tybiasent fod rhywrai yr oedd y nos wedi eu dal yn tynnu rhagddynt tua'r pentref, yr hwn ydoedd tua milltir oddi yno. Ond cynnyddu a wnaeth y si, a chwanegu a wnaeth y godwrdd; ac wedi ymunioni a chraffu, gwelent fod yno dyrfa fawr; ac erbyn hyn yr oedd wedi dyfod yn agos ar eu cyfer ar y ffordd, ac o fewn ychydig bellder oddi wrthynt.