Tudalen:Ysten Sioned.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tra yr oeddynt fel hyn yn syllu ar yr orymdaith, ac yn ceisio meddwl beth a allasai hi fod, gwelent yn eithaf amlwg arch ac elor yn cael eu dwyn ar ysgwyddau rhai o'r bobl, ac ereill yn cyfnewid â hwynt, yn ol fel y mae arfer angladd. "Dyma angladd," ebai'r naill wrth y llall, gan anghofio ar y mynydyn nad yw claddedigaethau i'w gweled yn y nos. Parhasant i syllu ar y dorf, yr hon oedd bellach yn gyflawn gyferbyn â hwynt; a chan nad oedd na chlawdd na gorclawdd rhwng y ffordd a'r cae, daeth amryw o bobl yr orymdaith allan o'r ffordd, a cherddasant y cae gydag ochr y ffordd , fel y gwelir lluaws o ddynion yn gwneuthur yn fynych pan na bo na chlawdd na chledrau, na dim o'r cyfryw, i'w cadw o fewn terfynau priodol. Mewn gair, cerddent ar hyd rhan o'r yd oedd yn gorwedd wedi ei dori ger llaw y ffordd. Clywai y ddau rwymydd y siarad a'r sibrwd , y trwst a'r berw, fel pe buasai yno gynnifer o bobl yn myned heibio mewn gwirionedd, ond ni ddeallent gymmaint a gair a leferid gan neb. Clywent drwst a hustyng y dyrfa yn myned heibio, ond ni ddeallent yr un sill, ac nid adwaenent un wyneb. Daliasant i edrych ar y nosawl orymdaith angladdol hon hyd oni chyrhaeddodd gwr arall y cae, a myned allan o'u golwg, ar hyd y ffordd a arweiniai tuag eglwys y plwyf.

Wedi myned o'r olygfa drosodd , clywai y gwr a'r wraig ryw gymmaint o chwithdod a diflasder yn dyfod drostynt; edrychasant ar eu gilydd; gadawsant y rhwymo, ac aethant tua'r tŷ, gan obeithio cael hin a hwyl i gynnull yr yd ar ryw adeg arall.

Daeth angladd i waered y ffordd honno o barthau uchaf y plwyf ym mhen rhyw dair wythnos.