Tudalen:Ysten Sioned.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni welsant ac ni chlywsant hwy chwaneg o'r ddrychiolaeth; ond yr un noson, ychydig yn ddiweddarach, ac yn nes ym mlaen ar y ffordd, yr oedd dilledydd o'r gymmydogaeth yn dyfod adref oddi wrth ei waith o'r pentref y cyfeiriwyd ato. Cyfarfu a thyrfa fawr o bobl yn lleinwi y ffordd yn dyn o glawdd bwygilydd. Ni ddeallai ddim o'u siarad. Methodd mewn an modd wthio ei ffordd trwyddynt; a chymmaint oedd gwasg y dorf fel y bu gorfod iddo fyned dros y clawdd allan o'r ffordd, cyn gallu o hono fyned rhagddo tua'i gartref; canys yn y cyfryw fan yr oedd y ffordd yn lled gul, a chlawdd ar bob ystlys iddi.

Y mae ar hyd a lled y wlad ddigon o chwedlau am doeliod, a digon dros ben: ond y mae rhywbeth yn y chwedl hon yn wahanol i bob un arall a glywais i erioed yn en cylch; a dyna rheswm neillduol sy genyf am ei chyhoeddi yn Ystên Sioned. Gallaf egluro, o leiaf i'm boddlonrwydd fy hun, y rhan fwyaf o'r ffreglau a adroddir yng nghylch ysprydion, canwyllau cyrff, a bwciod; ond y mae hon yn gwahaniaethu mewn amryw bethau pwysig oddi wrth bob un o'i cheraint a ddygwyddodd ddyfod dan fy sylw i; a byddaf ddiolchgar dros ben i esponwyr llên gwerin gwlad a gorwlad am eglurhâd ar y ddrychiolaeth.

Dyna ddau ddyn yn en hamser goreu gyda'u gilydd yn ddyfal ddiwyd wrth eu gwaith mewn cae llafar o'r eiddynt ger llaw'r tŷ, a'r awr o'r nos heb fod yn an- amserol; canys nid oedd y noson mewn un modd yn noson fwcïaidd. Nid oeddynt ddynion ofergoelus, o'u cymharu â'a cyfoedion; yn hytrach dynion oeddynt ryw gymaint o flaen eu hoes. Nid oeddynt ofnog, ac felly yn creu bwganod o bob llwyn a thwmpath; canys yr oeddynt, fel y gwelsom, ill dau gyda'a gilydd;