Tudalen:Ysten Sioned.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ni feddylient ar y pryd am nac angladd na drychiolaeth angladd, am doeli, am fendith eu mamau, nac am un peth annaiarol arall, ond am rwymo yr yd ag oedd eisoes wedi goddef yn drwm oddi wrth wlybaniaoth y tywydd, a'i osod, os oedd modd, yn ei sopyn erbyn y bore. Gwelodd a chlywodd y ddau y cyfan oll yr un wedd â'u gilydd; a siaradent a'u gilydd am yr hyn oedd yn myned heibio ger bron eu llygaid; ni redasant i ffwrdd, yn ol braint ac arfer gweledyddion drychioliaethau; ac nid oeddynt yn breuddwydio am ddim cyffelyb pan glywsant y siffrwd, ac y gwelsant yr angladdwyr yn dynesn tuag atynt ar hyd y ffordd eglwys.

Gofynir i'r chwedlofyddion pa beth a welodd y ddau ddyn hyn, neu pa beth y tybiasant iddynt ei weled. Ai dyfeisio chwedl anwir a wnaethant er mwyn fy nhwyllo i ac ereill? Nid oedd yn un fantais iddynt dwyllo neb pwy bynnag, heb law eu bod yn ddynion llawer rhy onest i wneuthur hynny. Yr wyf yn credu eu tystiolaeth, fel dynion geirwir, syml, dihoced, mor gadarn a phe buaswn wedi gweled yr olygfa fy hun. Adroddent y peth a welsent, nen a gredent eu bod wedi ei weled. Yr oedd ffugio chwedl ddychymmygol o'r fath yn hollol allan o'u cyrhaedd. Nid llenorion na chrach-lenorion mo honynt, ond amaethyddion gwledig syml. Ni allent lanio chwedl o'r cyffelyb, ac ni wnaethent pe gallasent. Nid oedd dim i'w cymhell a'u hannog i ddyfalu anwiredd noeth, a cheisio gan ddynion ei gredu yn lle gwirionedd. Nid wyf yn gwybod iddynt adrodd y weledigaeth wrth neb ond wrthyf fi, a dau neu dri arall o'u cydnabod. Rhaid cael rhyw gynhyrfydd nen ysgogydd i bob gweithred. Adroddent i mi yr hanes fel gwirionedd syml, gwir-