Tudalen:Ysten Sioned.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ionedd nas medrent ei egluro; ac ni cheisient nac am ddiffyn cred na chadarnhau ofergoel. Pan glywais hwynt y tro diweddaf yn adrodd y dygwyddiad, yr oeddynt er war eu bedd; i'r hwn y disgynodd y ddau ym mhen ychydig wythnosau ar ol eu gilydd yn gynnar yn y flwyddyn 1852. Hunant eu tawel hun yn y fynwent y gwelsent y toeli yn ymdynnu tuag ati.

Y mae chwedl marchog y nodwydd ddur yn sefyll ar ei phen ei hun, ac yn annibynol ar adroddiad yr amaethwr a'i wraig. Ni wyddai y naill ddim am y llall pan yr adroddasant eu hap a'u hanhap gyntaf. Gwelodd y gwr a'r wraig rywbeth, a bu'r gwnïedydd mewn cryn drybestod o herwydd rhywbeth a'i cyfarfu yntau ar y ffordd.

Dyna'r modd y clywais i hanes y toeli nodedig hwn o ben y rhai a'i gwelsent. Gadawaf i'r athronydd mewn pethau o'r fath egluro a deongli y weledigaeth: ond dymunaf adgofio iddo mai nid dattod cwlwm yw ei dorri.

PROFIAD CEISPWL.

ADDEFA pawb bron yn ddieithriad fod swydd ceispwl neu feili yn un lled waradwyddus; ac eto ar yr un pryd, yr ydys yn barnu ei bod yn hollol angenrheidol. Darfu i mi ymgymmeryd â hi yn unig ar yr ystyriaeth y byddai yn foddion i mi ennill bara i'm gwraig a'm plant; a gwirionedd profedig yw, os bydd dyn yn methu mewn un peth, fod yn bosibl iddo ragori mewn peth arall.

Cefais ddechreu ar fy swydd drwy fy ngalw i gynnorthwyo hen swyddog oedd wedi bod yn y gwaith