Tudalen:Ysten Sioned.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

17 am lawer o flynyddoedd, a thrwy i mi brofi fod genyf gryn lawer o athrylith yn cyflawni y swydd, dyrchafwyd fi bob yn ychydig i fod yn ben-ceispwl. Bûm yn llwyddiannus dros ben am lawer o flynyddoedd, ac mewn parch ac ymddiried gan fy meistriaid, P. ac A. Gwell yn ddiau gan y cyffredin fydd clywed am rai o'r troion trwstan a ddygwyddasant i mi, gan mai gwrthddrych i'w gasän ac i'w erlid, y rhan amlaf, yw y swyddog a adwaenir wrth yr enw Bwm-beili.

Cefais fy ngalw ryw brydnawn ym mis Tachwedd, yn y flwyddyn a'r flwyddyn, i'r swyddfa, pryd y rhoddid ar ddeall fod yn rhaid i mi fyned yn fore iawn drannoeth i Ffos y Cranc, i wasanaethu gwr y tyddyn hwnnw â gwrit am arian oedd yn ddyledus arno i fasnachwr yn nhref A——. Gan fod genyf gryn bymtheg milltir o ffordd cychwynais yn fuan ar ol hanner nos, a chyrhaeddais y lle o gylch saith o'r gloch y bore; aethym i mewn, pryd y canfum y teulu, sef y gwr a'r wraig, a dau neu dri o blant, yn cymmeryd eu boreufwyd yn y gegin fawr, o gwmpas y bwrdd crwn o flaen y tân; a dau was, dwy forwyn, a thri o ddynion mewn oed, y rhai, fel y gallaswn feddwl, oeddynt weithwyr wrth y dydd, yn cymmeryd eu boreufwyd hwythau wrth y bwrdd mawr o flaen y ffenestr. Amneidiais ar y gwr i ddyfod allan am fynyd; fe ddaeth yn ddioedi. "Mae yn ddrwg iawn genyf," ebai fi, "fod yn rhaid i mi roi y papyr hwn i chwi am ddyled i———" "Peidiwch ag yngan gair yn awr," ebai yntau, "rhoddwch ef yn yn eich llogell, nes yr â pawb allan ar ol eu boreufwyd." Gwnaethym innau felly. "Dewch i mewn," ebai yntau, "rhaid eich bod yn flinedig, ac eisieu rhywbeth i'w fwyta erbyn hyn." I mewn yr aethym. "Dewch