Tudalen:Ysten Sioned.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ym mlaen, a neswch at y bwrdd; gwnewch eich han ya gartrefol;" ac yna, ebai fe wrth y wraig, "fe gymmer y gwr dieithr yma ei foreufwyd gyda ni, ac y mae iddo bob croesaw, fel y mae yma." "Na chaiff yn wir," ebai y wraig serchog; "mi wnaf gwpanaid o de nais iddo mewn mynyd, ac ychydig o foncagau (crempogau); mae ein bara ni yn hen ac yn gryf iawn.' Erfyniais innau arni beidio â myned i ddim trafferth er fy mwyn i; a dywedais y byddwn yn ddiolchgar am rywbeth oedd ar gerdded. "Dim trafferth o gwbl," ebai'r wraig, "pleser i gyd." "Mari," gwaeddai ar y forwyn, "dos â'r badell ffrio yma, a dyro hi ar y tân." Gwnaed hynny; ac ar y tân y bu am ychydig nes oedd yn wynias. Erbyn hyn yr oedd pawb wedi gorphen en boreufwyd; yna dygodd y wraig ystôl fechan dair troed, a dododd hi ar lawr yn fy ymyl, a chymmerodd y badell oddi ar y tân ac a'i rhoddes ar yr ystôl; a chyn i mi ystyried dim, ymaflwyd ynof gan y tri dyn oedd wrth y bwrdd mawr, a rhoddwyd fi i cistedd ar y badell ffrio; a chadwasant fi yno! Ysgrechais, bygythiais, rhegais, ac o'r diwedd ymbiliais am ymwared; ond ofer fu y cwbl; yr oeddynt yn rhy drech i mi. Nis gall y darllenydd ddychymmygu yr arteithiau yr oeddwn yn eu dioddef, a phawb oedd yn bresennol yn chwerthin fel ellyllon! Ym mhen ychydig —yr hyn a ymddangosai i mi yn oriau—"dyna," ebai gwr y tŷ, "gadewch iddo; fe allai na fydd mor barod i ddyfod yma i frecwest yn fuan ar ol hyn." Ceisiais ymlusgo rywfodd oddi yno wedi fy anafu; a da oedd i mi gyfarfod â rhyw Samariad ag oedd yn casglu carpiau gyda mul a throl ar hyd y wlad, i'm dwyn adref. Bûm am wythnosau yn gorwedd cyn i mi wella; o blegid yr oedd eistedd allan o'r pwnc.

{{nop}