Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Credir i Gastell Dyfi gael ei adeiladu gan yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth, mewn lle a elwir yn bresenol Bryncelwydd, ac ymddengys iddo gael ei lwyr ddinystrio tua 1157 gan Robert, Iarll Clare, un o'r arglwyddi cyffindirawl, fel nad oes dim olion o hono i'w weled yn bresenol.

Castell Cynfal, a safai ger amaethdy o'r enw Cynfal ar grug a adnabyddir wrth Tomen Bryn Castell. Ymddengys iddo syrthio tua'r flwyddyn 1145, trwy law Hywel a Chynan, meibion Ywain Gwynedd, wrth ei gymeryd oddiar Cadwaladr, eu hewythr o frawd eu tad, pryd ei delid iddo gan Morfran neu Merfyn, abad y Ty Gwyn ar Daf.

Cefn Coch."—Math o fryncyn yw hwn, sydd yn ymgodi yn gefnen yn Nghwm Dyffryn Gwyn, a saif yn nes i Fwlch Tywyn na'r tyddyndy a elwir Dysyrnant. Ar warthaf y bryncyn hwn erys gweddillion hen gaerfa led fawr; ac o barth ei henilliad, dywedir y safai y gelynion ar ddechreu yr ymosodiad ar ben Mynydd y Llyn— Llyn Barfog, ond y cyrchasant yn ei herbyn, megys o'r tu cefn iddi, sef o ben mynydd Syrnant neu Dysyrnant, y tu arall i'r cwm. Dywedir hefyd y lladdwyd ei hamddiffynwyr bob un; ac i'r cefn y safai y gaer arno gael ei alw Cefn Coch oherwydd ei gochi gan waed y lladdedigion. Ond, yn ngwyneb hyn, er fod yn ddigon tebygol y collwyd llawer o waed mewn cysylltiad a'r hen gaer hon, ac y rhuddgochwyd y llawr ganddo; eto, pa faint bynag a ruddgochodd y gwaed hwnw ar y fan nid gwiw rhoi nemawr o bwys ar y dywediad mai oherwydd. gwaed y lladdedigion y cafodd yr enw, canys ymddengys y cysylltir y dynodiant coch a manau heb fod a fyno gwaed a'r enw o gwbl."—Allan o Cantref Meirionydd, t.d. 545.

Cefncrib. Ystyr CEFN yw "the back or upper part of a hill." Cefn o dir, a ridge of a land. Ystyr CRIB ydyw trûm—a ridge; a top or summit).

Crib mynydd, the crest or ridge of a mountain. Ar grib y mynydd, on the ridge or crest of a mountain. Y mae lle yn dwyn yr enw Alltycrib yn Sir Aberteifi.