Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adnabyddid hwynt, a pha faint bynag o wahaniaeth, os. oedd gwahaniaeth rhyngddynt o gwbl, yr oeddynt yn dal eu tiroedd yn ol ewyllys y brenin, os byddent ar ddiffaethdir y brenin, neu yn ol ewyllys arglwydd y cwmmwd, os yn y maenolydd caethion. Ymddengys mai y "dawn bwyd"[1] oedd ardreth wirioneddol y tir, ond er hyny yr oedd yn rhaid i'r gwŷr aillt gyflawnu amryw o ddylesdwyddau ereill er mwyn sicrhau ewyllys da eu harglwyddi.

Carreg Cadfan.—Gorwedd y garreg hon ar ei gorwedd ar lawr Eglwys St. Cadfan, Tywyn. Ond bu a'i safle gynt yn y fynwent berthynol; eithr dywedir iddi gael ei chymeryd o'r fynwent hono, a'i gosod yn bost llidiart un o gaeau Bodtalog, lle yn y gymydogaeth. Dywedir hefyd ddarfod i deulu Ynys Maengwyn, wedi cwympo o honynt allan a theulu Bod Talog, fynu iddi gael ei dwyn yn ol i'r fynwent hono drachefn. Am hanes. cyflawn o'r garreg hon, gwel Cantref Meirionydd, 531—539.

Castell Dyfi.—Daw y gair castell o'r Lladin castellum, a golyga gaer, neu amddiffynfa gymhwys i wrthsefyll ymosodiadau gelynion.

"Castell pawb ei dy."—Diareb.

  1. Yr oedd yr ardreth hon yn cael ei rhanu yn ddwy; un ran i gael ei thalu yn y gauaf, a'r llall yn yr haf. Yr oedd "Dawn- bwyd y gauaf yn gynwysedig o hwch deir-blwydd; llestraid o ymenyn, yn dair dyrnfedd o ddyfnder, a thair o led; Ilonaid cerwyn o frâg yn naw dyrnfedd o drawsfesur; a threfa o ŷd (ceirch) yn ebran; chwe' torth ar hugain o'r bara goreu a dyfai ar y tir. Yr oedd y bara i fod can lleted fel ag i gyrhaedd o'r penelin i'r garddwn, a chan dewed fel na phlygent wrth eu dal gerfydd eu hymylon. Yr oedd yr arglwydd hefyd i gael dyn i gyneu tân yn y neuadd y noson y byddai yno, neu yr oedd yn rhaid talu ceiniog i'r hwn a wnai y gwasanaeth hwnw. Yr oedd "Dawn-bwyd yr haf yn gynwysedig o fyharen teir-blwydd dysglaid o ymenyn can lletted a'r un yn y dref, ac yn ddwy ddyrnfedd o drwch; chwe torth ar hugain o fara fel o'r blaen; yr oeddynt hefyd i gasglu cynifer o anifeiliaid blithion a fyddai yn y dref a'u godro unwaith bob dydd, a gwneuthur caws o'r llaeth hwnw i'w meistriaid."