Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

redin iawn, oddiwrth hyny, gelwir y maes amgauedig gan y fath wrych yn gae, megis "cae o wair" (a field of hay), "cae o yd" (a field of corn). Ceinach yw ysgyfarnog (a hare).

Llunio ei gwâl yn llwyn y gog
Draw, y geinach d'rogenog.
—Dafydd ab Gwilym.

Clychau y naint, clywch yn iach,
A ganant glul y geinach.
—Risiart Cynwal, i Fytheuaid.

Natur a wnaeth, iawn ytyw,
Ei rhan ar bob anian byw.
Mwythder i'r ceinych mwyth—dew,
Daint hirion llymion i'r llew.
—Goronwy Owen.

Cae Cynolwyn sydd enw ar faes ar dir Glygyrog Wen, yn nghymydogaeth Aberdyfi. Ymddengys mai enw neu ffugenw perthynol i rywun neu gilydd ydyw y dynodiant Cynolwyn a geir ar y fan hon. Gall mai ffugenw yw yn herwydd rhyw gysylltiad o eiddo yr unrhyw âg Abergynolwyn.

Cae Glas. Perthynol i fferm Bodtalog. Yr oedd cromlech yn sefyll gynt ar y maes hwn, ond cafodd ei dinystrio. Hefyd, mewn cae o'r enw Cae'r Brenin, cafwyd rhai priddfeini Rhufeinig, a gweddillion o weithiau Rhufeinig eraill.

Caethle, O CAETH (a bondman, a slave), a LLE, yn golygu cartref y caethion neu'r gwyr aillt. Caeth gweinyddol, a domestic bondman or slave. Yr oedd pedair maenol yn mhob cwmmwd yn perthyn i'r gwŷr aillt, neu y caethion. Nid oedd gan y rhai hyn unrhyw hawl gyfreithlawn yn eu tiroedd: ond yr oedd eu deiliadaeth yn ymddibynu yn hollol ar ewyllys yr uchelwr, neu y tywysog. Y mae y gwŷr aillt yn myned o dan yr enw taeogion" a "gwŷr nôd," ond o dan ba enw bynag yr