Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bryn Celwydd sydd gerllaw Aberdyfi, a thybir mai ar hwn y safai Castell Dyfi. Llygriad yw yr enw o Bryn y Cilwydd, sef bryn coediog mewn cesail gysgodol. Dechreuir amryw enwau lleol a'r gair "cil"; ei ystyr yw, "lle neillduedig i encilio iddo." Cyfarfyddir enwau a'r gair hwn yn eu dechreu yn fynych iawn mewn enwau lleoedd yn yr Iwerddon, ac ymddengys ei fod yn cyfateb i'n "llan" ni yn y wlad hon. Cilcennin, Cil y Maen—llwyd, Cilcain, Cilgwyn, Cilgwrwg, Cil Sant, Cilbebyll, Cil y Cwm, Cilgynydd, ydynt rai o enwau ein gwlad a'r gair "Cil" yn eu dechreu. Ystyr "gwydd" yw man—goed, "clyn," prysglwyni. Sonia Dafydd ab Gwilym y dirgel wyddeli" (the solitary brakes). Ceir lleoedd o'r enwau Nantgwyddyl, Aber Gwyddyl, Blaen Gwyddyl, a Choed y Gwyddyl.

Bwlch Glas.—Bwlch a gymhwysir yn fynych mewn enwau lleoedd at agoriad mewn llinell o fryniau a mynyddoedd. Bwlch dau fynydd, a pass, a passage, or opening between two mountains. Y gair Saesneg cyferbyniol i glas yw blue; ond y mae y Gymraeg yn ei gymeryd weithiau yn gyfystyr a gwyrdd. Ceir amryw leoedd gyda'r gair hwn, megys Pwllglas, Glasgoed, Brynglas, Maesglas, &c. Gwel Eglwysi y Gwyddelod.

Bwlch y Maen.—Maen mewn ystyr briodol ydyw sylwedd caled, ac a ddefnyddir at wahanol bethau, yn enwedig at adeiladu. Yr oedd maen" weithiau yn yr oesoedd gynt yn golygu y grefydd Dderwyddol. "Da'r maen gyda'r Efengyl," hyny yw, "Da pob dysg rinweddol ag oedd yn perthyn i'r Derwyddon gyda'r Efengyl." Galwyd y lle hwn yn Bwlch y Maen oherwydd fod un o'r meini hirion gerllaw.

Caeceinach. Cae mewn ystyr briodol ydyw y gwrych (a hedge[1]) a fyddo yn amgylchynu y maes; ond yn gyff-

  1. A thros gae drain cyfain call,
    A thraws oedd, a thros arall.
    —Dafydd ab Gwilym
    March a wŷl yr yd, ac ni wŷl y cae.—Diareb.

    Gwr a blanodd winllan, ac a osododd gae o'i hamgylch.—Marc xii. 1.