Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei warthaf, olion o ba un sydd yn aros eto ar ffurf y domen neu y crug crybwylledig, pa un a gyflunwyd mewn rhan drwy dori y tir oddeutu pen y bryn a gosodiad yr ysbwrial ar yr ymylon.

"Yn agos i'r bryn hwn saif amaethdy o'r enw Cynfal, ac ymddengys mai Castell Cynfal neu Cynfael oedd enw y Castell a safai ar y fan y mae y domen neu y crug a nodwyd."—Cantref Meirionydd, 542.

Bryn y Cistiau, neu Fryn y Cistfeini=the hill of the stone chest or coffer. Y mae yn amlwg mai beddrodau oedd y cistfeini; canys ceir hwynt gan amlaf o fewn i garneddau, ac yn cynwys esgyrn ac arwyddion ereill o gladdedigaethau. Saif y fan a elwir Bryn y Cistiau ar fynydd cydranog Coed y Go a Thyddyn y Berllan, yn Nghwm Dolgoch. Tua 34 mlynedd yn ol i'r flwy ddyn 1880, yn ol fel y dywedir, yr oedd tair o gistfeini, neu a dilyn enw y fan, dair o gistiau, yn agos i'w gilydd tua phen y bryn, yn fwy neu lai cyfain. Gorchuddid un o honynt, o leiaf, gan garnedd, ac erys dwy o geryg un o'r cistiau hyn ar eu cyllyll yn eu manau, fel cofarwyddion o'i bodolaeth. Ac ymddengys y gorwedd careg orchudd un o'r cistfeini gerllaw. Dygwyd y garnedd ymaith tua'r adeg a nodwyd er mwyn cynorthwyo i wneyd corlan o hen Hafotty—Hafotty'r Waen,— Waen Dasau, yr hon a saif gerllaw wrth odreu dwyrain ogledd y bryn. Cafodd y garnedd ei harchwilio ryw dro yn flaenorol i'w symudiad. Y mae safle dwy gistfaen yn lled agos i'r cistfeini a nodwyd, ac ar uchaf yr unrhyw fryn, ac i'r de oddiwrthynt, y mae hefyd ddwy eraill tua godreu de orllewin y bryn.—Cantref Meirionydd, t.d. 548.

Bryn Crug.—"Crug" yw twmpath, bryncyn, neu chwyddiant tirol, a dywedir mai ar godiadau tirol o'r fath yr arferai yr hen Gymry gynal eu gorseddau barnol, fel yr oedd "crug" a gorsedd yn myned yn aml am yr un peth. Hefyd, cynwysa gistfeini ac arwyddion claddedigaethau, ac yn gyffredin, bydd amryw o gistfeini yn yr un crug.