Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bodfor.Bod yn cyfateb i'r Saesonaeg abode (an abode, a dwelling or abiding—place), a cheir yr un ystyr yn y geiriau cyfansawdd, preswylfod, trigfod, hafod, a gauafod.

Yn yr hen amser, pan fyddai blaenor neu arglwydd yn dechreu preswylio mewn man anhygyrch o'r wlad, byddai yn adeiladu preswylfod, a byddai yr annedd yn cael yr enw bod, ac enw yr adeiladydd yn gysylltiedig ag ef, megys Bod Edern, Bod Organ, Bod Idris, ac ambell waith cyssylltid ef ag enw gwrthrych a fyddai gerllaw, a galwent ef yn Bod Afon, Bod Ysgallen, &c. Ar ol adeiladu bod, byddai y penaeth yn adeiladu tai i'w anifeiliaid a'i bobl; ac ar ol gorphen hyn, a chael pethau i ryw raddau yn gyfleus at fyw, byddai y cyfan o'r tai yn cael yr enw tref; megys Tref Caswallon, Tref Hedyn, Tref Cadwgan, a Thref Garon.

Y mae y rhan olaf o'r enw Bodfor yn cael ei wneyd i fyny o'r gair môr (the sea), neu lygriad o'r enw priodol Ifor. Tueddir ni i gredu mai ystyr yr enw yw preswylfa neu gartref ger neu ar fin y môr.

Bodtalog, sef cartref person yn dwyn yr enw Talog (a person having a large forehead).

Braichgwyn.—Ystyr braich yma yw ochr mynydd (an arm or ridge of a mountain), ac y mae y rhan olaf o'r enw, sef gwyn, yn dangos ansawdd y lle. Ceir y fath enwau a Braich Coch, Braich Garw, Braich Melyn, Cefn y Braich, Ty'n y Braich, Braich y Pwll. Enwau ereill yn mhlwyf Towyn ydynt Braichyrhenllys, Braich y Caerau, Braichycelyn, a Braichycilyn.

Bronprys, neu yn hytrach Bron-y-prysg. Prysg yw y gair Cymraeg am brushwood.

Bryn y Castell, neu Bryn Castell, sydd enw yn awr ar amaethdy yn nghymdogaeth Bryncrug. Saif y ty hwn yn nghysgod bryn, ar uchaf pa un y mae crug a elwir Tomen Bryn Castell. Diamheu mai y bryn hwn a elwid ar y cyntaf yn Fryn y Castell, ond ymhen am— ser, ddarfod i'r amaethdy gael ei alw ar ei enw. Cyssylltwyd yr enw Castell a'r bryn am y safai un gynt ar