Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un o'r "meini hirion" yw y Gareg Lwyd, ac y mae oddeutu pedair troedfedd uwchlaw gwyneb y tir. Di- ameu nad oedd enw ei safle, namyn Bryn y Gareg Lwyd, ar un adeg, y rhan gyntaf wedi ei gymeryd oddiwrth ddullwedd y fan lle y saif, a'r llall o herwydd y gareg ei hun.

Berthlwyd.—Wrth Berth, neu yn hytrach "perth," y golygir llwyn o ddrain, prysgl, neu ddrysni (a grove). "Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth" Exodus iii. 2. Y mae'r rhan olaf o'r enw hwn yn gyfystyr a'r gair Seisnig gray.

Bettws.—Bettws, lle canolig rhwng dyffryn ac uwch mynydd. Felly y dywed rhai. Ni a ddaethom yr owan [yr awran] i Fettws, hynny yw, lle cynhes tymmoraidd. Y mae hyn yn fwy tebygol fyth wrth osodiad ac agwedd y llanau sy mewn amryw fanau yng Nghymru yn dwyn yr enw hwnw.
—Dr. J. Davies (Arch. Brit. 214).

Ereill a ddywedant y perthynai pob Bettws i ryw fanachlog, ac mai oddiwrth y gair Lladin abbatis y daeth.
—Edw. Llwyd (Arch. Brit. 214).

Ymddengys fod yr enw Bettws yn un o'r geiriau hyny ag y mae ein dysgedigion yn methu cytuno yn nghylch yr hyn a olyga. Y dyb gyffredin, modd bynag erbyn heddyw, ydyw mai Cymreigiad ydyw o'r geiriad Saxonaidd "bed hus" (bead house), sef tŷ gweddïau, o herwydd ei fod yn arferiad yn y sefydliadau hyn a'r cyffelyb i ddefnyddio peleni bychain tyllog, y rhai a elwir yn "beads," i gyfrif paderau. Credir mai math o elusendai oeddynt, wedi eu sefydlu yma a thraw ar hyd y wlad, yn y rhai y croesawid pererinion a ymwelent a'r mynachdai, y rhai, yn dâl am yr ymgeledd a dderbynient, a elent dros restr o baderau Pabyddol ar ran y meirw duwiolfrydig a adawsant feddianau at y cyfryw sefydliadau elusengar."