Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

asant hwy y gair hwnw gyntaf; ac o'r enw Deva, debyg, yn hytrach nag o un ffurf Cymraeg fwy diweddar, y daw Dee y Saeson. A rhyw debyg, feddyliaf fi, yw hanes yr enw Dee ar afonydd eraill mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol."

Abergroes, neu yn hytrach Aber-y-groes.—Deillia yr enw oddiwrth yr arferiad o osod croesau i fyny mewn gwahanol fanau ar hyd a lled ein gwlad, er cyfarwyddyd i deithwyr cyn gweithio ffyrdd. Byddid yn addoli wrth y croesau hyn hefyd yn y canol oesoedd. Ceid croesau gynt mewn mynwentydd, ac ar hyd lleoedd a ystyrid yn gysegredig, lle y gallasai yr euog ffoi a bod yn ddiogel rhag ei erlyniwr.

Argoed. Y mae yr enw hwn yn arwyddo lle cysgodol oddiar neu yn mysg y coed. Sylwa un awdwr ar y rhan gyntaf ohono fel y canlyn. Ar or ard, a primitive root diffused throughout many languages, generally signifying a height." In Welsh names it is usually found with the 'd' suppressed or the 'r' substituting it, as in Argoed in Cardiganshire; Arddur in Carnarvonshire. It has the same meaning in the following names:—Ardach, Ardglass, Ardrossan, Dysart, Lizard Point, and Arran Islands.

Bachyrhew. Golyga bach "le cysgodol" neu "ddiogelfa" (a nook, corner, or angle). Ceir ef yn Y Fach, yn Lleyn; Y Fach Ddeiliog, yn Mhenllyn; Y Fach Goch, a Bach y Saint yn Eifionydd: Bachygwyddyl yn Sir Gaerfyrddin, ac yn yr enw Machynlleth. Ystyr Bachyrhew yw "Cilfach y rhew."

Banc Bryn y Gareg Lwyd sydd enw ar faes perthynol i'r Dolau Gwyn. BANC=bank. Ar y bancau, Ar y bencydd, on the hills.

Hen ystyr y gair llwyd ydoedd bendigedig (blessed).

Llwydion fu'r saint, geraint gu,
Disyml, a llwyd yw lesu.
—Rhys Goch Eryri.

A chywyddau i Dduw lwyd,
Yw Llaswyr, Dafydd Brophwyd.
—Dafydd ab Gwilym.