Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywed Dr. W. O. Pughe am y Dyfi—"The name of several rivers, descriptive of a gentle, or smooth current." Ac y mae Ieuan Dyfi, yn ei Hanes Machynlleth, yn egluro yr enw yn dof-wy neu hylif—dof, tawel a llyfnredol. Y mae ieithegwyr diweddar o'r farn fod y terfyniadau hyn, megys ag a geir yn Dyfrdwy, Elwy, Conwy, Mawddwy, Dyfi, Teifi, Tywy, Tawy, &c., yn golygu dwyfol neu gyssegredig, a'u bod yn awgrymu i ni am yr amser yr oedd trigolion ein gwlad yn addoli elfenau natur, fel y gwna cenhedloedd eraill mewn gwahanol ranau o'r byd yn awr. Esbonia Dr. John Rhys yr enw "Dyfrdwy" neu "Dyfr Dwyf" yn "ddwfr y dduwies." Mewn anerchiad o'i eiddo yn Eisteddfod Gadeiriol Corwen, Awst, 1895, ar "Enwau Lleoedd," dywed fel y canlyn:

"Deallaf mai Caer Drewyn, neu Gaer Drywyn, y gelwir hi; a swnia'r gair hwnw'n debyg i rif unigol y gair Drywon am dderwyddon, megis yn y llinellau a ganodd rhyw hen fardd am afon Dyfrdwy:—

Drwyodd er dyddiau'r drywon
Y rhwyf y Dwfr dwyf ei don.

Dyna'r hen fardd wedi esbonio i chwi yr enw Dyfrdwy yn Ddwfr dwyf, hyny yw, y Dwfr dwyfol. Ffurf hynach yr enw oedd Dwfr dwyw, a hen ffurf yr ansoddair dwyfol oedd dwywol neu ddwywawl; er hyny, ceir rhywun yn awr ac eilwaith yn ysgrifenu y'nghyflawnder ei anwybodaeth i brofi mai Dwfr dwy afon yw yr ystyr; nid wyf yn cofio pa ddwy, ond nid oes nemawr afon nas gellid dyweud ei bod yn ddwfr dwy, neu ddwy ar hugain, o ran hyny, neu ragor. Myn rhywun arall,—canys y mae dwy ochr hyd yn oed i fympwyon fel hyn hefyd,—mai Dwfr Du yw'r Dyfrdwy, am fod Glyndyfrdwy yn cael ei gwtogi weithiau yn Glyndwrdu. Ond ni waeth hynyna nag ychwaneg, hen enw yr afon oedd Dyfrdwyw; a golygai'r dwyw hwnw a wna'r bardd yn ddwyf yn y llinellau a grybwyllais eisioes dduw neu dduwies; a cheir yr un gair mewn ffurf mwy henafol yn y Déva a arferai y Rhufeiniaid am yr afon. Gan ryw lwyth Celtig y dysg-