Ystyron Enwau.
1.—PLWYF TOWYN.
Aberdyfi.—Y mae y rhan gyntaf o'r enw hwn, sef ABER, yr un yn y Lydaweg a'r Gernywaeg, ac yn y Gymraeg. Y mae iddo bump o wahanol ystyron,—
1. Ymarllwysfan un afon i'r llall, megys yn Aber—corris, lle mae'r afon Corris yn ymarllwys i'r Dulas.
2. Ymarllwysfan afon i fôr. Derbynia Aberdyfi, Aberystwyth, Aberaeron, Abermaw, Aberffraw, eu henwau am eu bod yn sefyll lle y mae yr afonydd Dyfi, Ystwyth, Aeron, Maw, a Ffraw, yn ymarllwys i'r môr.
3. Dylifiad llanw'r môr (the flow or flux of the tide).
- Ef a wnaeth uch traeth trei ac aber. —Gruffydd ab Meredydd.
4. Porthladd (a port or harbour).
- [Soffala] aber ar ochr dwyrain Affrica.—W. O. Pughe.
5. Ffrwd redegog o ddwfr croyw; afonig, nant (a brook).
Nid rhaid march buan danad,
Neu bont ar aber, na bad.
—Dafydd ab Gwilym.
DYFI.— Y syniad cyffredin, hyd yn ddiweddar, ar lafar gwlad, ac yn mysg dysgedigion ydoedd, fod y terfyniad wy yn afonydd ein gwlad yn golygu dwfr (water).