Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na thalai fwy o sylw i'r modd y seinir enwau ar lafar gwlad gan drigolion yr ardal. Nid oes a fynno Machynlleth a'r gair Bach, a'r un modd eto nis gellir tarddu Dysyrnant o Drwsynant, Dysynni o Desynwy, Efail Feurig o Gafael Feurig, Gwyddelod o Gwyddhelod, Pantidal o Pantyrhaul neu "Pant y dail," Coed y gweddill o Coed y gwyddgyll, Bryn y Froches o Bryn y Fuches, Rhydygrin o Rhydyrhiw, Cwmgila o Cwmcilan.

Mae traethawd Aneurin yn dangos ol gwaith ac astudiaeth, ond oherwydd fod yr awdwr yn rhy anfeirniadol ar lawer pryd wrth ymdrin ag esboniad enwau teimlwn nas gallwn ei gyfrif yn deilwng o'r holl wobr, a theimlwn hefyd fod ymdrechion yr ymgeiswyr ereill yn deilwng o gydnabyddiaeth, felly ein dyfarniad ydyw rhanu'r wobr fel y canlyn,—

I Aneurin, y goreu, Pum punt £5

I Plus Ultra, yr ail oreu, Dwy bunt £2

I Ceredig, y trydydd, Punt£1

=£8

E. ANWYL,Beirniad.