Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Feirniadaeth.

EISTEDDFOD TOWYN, 1907.

TESTYN: YSTYRON ENWAU LLEOEDD, &c.

DAETH tri o draethodau i law ar y testyn uchod, a charwn longyfarch yr Eisteddfod ar ei llwyddiant yn cael cystadleuaeth mor dda. Gwnaeth y tri ymgeisydd waith gwir addawol, ond nid ydynt oll o'r un teilyngdod. Eu henwau yw Ceredig, Plus Ultra, ac Aneurin.

Ceredig. Un o ragoriaethau Ceredig ydyw ddarfod iddo chwilio mewn amryw engreifftiau am hen ffurfiau yr enwau, ond o'r tu arall nid yw yn ddigon gofalus ynghylch y modd y seinir yr enwau yn bresenol ar lafar gwlad. Edrycha ar lawer enw fel llygriad hollol anghyson â rheolau cyfnewidiad ffurfiau yr iaith Gymraeg er engraifit, Brynerwest o Brynerwcest, Dŷsynni o Diswnwy, Dyfi o Dofwy, Llwynwccus o Llwyn uwch y gwys, Pant yr owen o Pantyrerwen, Penyryrfa o Penyraerfa, Arthog o Garthog, Coed y gweddill o Coed y Gwyddel, Dysefin o Maeshefin. Eto, mae amryw bethau pur addawol yng ngwaith Ceredig, a chyda gofal gall ddyfod yn draethodwr da.

Plus Ultra.—Mae gan Plus Ultra draethawd llawn a threfnus, ac amcana fod yn feirniadol a chywir, ond syrth yntau yn aml i'r un amryfusedd a'r rhai a feirniedir ganddo. Er engraifft cysyllta Dyfi a Dwfr; ysgrifena "Isle of White am Isle y Wight; Meusam am Museum. Hefyd tardda Dysynni o'r ferf "synu;" Gynolwyn o Canol a gwyn; Bera o enw'r Iberiaid ac yn yr enw "Y Domen Las cysyllta "Las" a'r gair "lladd." Tybia hefyd mai llygriad o Bradwen yw Bredyn. Gresyn na buasai ysgrifenydd ac ymchwilydd mor addawol yn fwy gofalus.

Aneurin—Dyma'r llawnaf, y manylaf a'r trefnusaf o'r tri chyfansoddiad, eto mae yntau yn aml yn hollol anfeirniadol yn ei ddull o darddu enwau. Oherwydd y terfyniad "dwy" yn y gair Dyfrdwy cymer yn ganiataol mai ystyr y terfyniad —wy yw perthynas enw afon a rhywbeth cysegredig. Gresyn hefyd