Prawfddarllenwyd y dudalen hon
awd fel y daethant i law. Byddai yr ail-adroddiadau yn rhy luosog i fod yn ddyddorol, ac achosai i bris y llyfr fod yn ormodol. Dan yr amgylchiadau gwnaeth y Golygwyr eu goreu.
Yr ydym yn ddyledus i Mr. Pryse H. Hughes am awgrymu y testyn ac am gasglu tuag at y wobr, ac hefyd am addewid o gynorthwy yn nglyn ag argraphu y llyfr.
Hyderwn y bydd i'r ardal roddi ei dyledus gefnogaeth i'r ymdrech hon o eiddo Pwyllgor yr Eisteddfod. Os nad yw y traethodau yn bobpeth ellid ddymuno o ran safon ac ysgolheigdod eto mae ynddynt doraeth o wybodaeth fydd yn gynorthwy i'r athrylithgar i ysgrifenu yr hanes pan gyfyd at ei orchwyl.