Tudalen:Ystyron Enwau ym Mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn etc.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhaglith y Golygwyr.

AR gyfer Eisteddfod Gadeiriol Towyn, Mehefin 21ain, 1907, cynygiwyd gwobr arbenig o 8p. am y traethawd goreu ar Ystyron enwau trefi, pentrefi, tai, meusydd, mynyddoedd, afonydd, llynoedd, &c., ym mhlwyfi Towyn, Llangelynin, Llanegryn, Llanfihangel-y-Pennant, Talyllyn, a Phennal." Cymerai yr ardalwyr yn gyffredinol ddyddordeb mawr yn y gystadleuaeth, a gobeithid gan lawer y byddai i gyfansoddiad teilwng o'r testyn ac o'r wobr ddyfod i law, ac hefyd un a fyddai o werth parhaol.

Derbyniodd y Proff. Edward Anwyl, M.A., o Brifysgol Aberystwyth, dri o draethodau, a phenderfynodd ranu y wobr cydrhwng y tri ymgeisydd. I'r cyntaf, "Aneurin," dyfarnodd £5: i'r ail, "Plus Ultra," £2; ac i'r trydydd, Ceredig," £1 Rheswm y Proffeswr dros ranu y wobr oedd fod yn y tri traethawd ragoriaethau arbenigol iddynt eu hunain. Gwêl ar hyn feirniadaeth y Proffeswr. "Aneurin yw Mr. Wm. Davies, Talybont, Ceredigion; "Plus Ultra," y Parch. D. S. Thomas, Berwyn House, Towyn; a " Ceredig," Mr. J. G. Jones, ysgolfeistr, Llansilin.

Penderfynodd Pwyllgor Eisteddfod Towyn mai doeth oedd argraphu y traethodau, a chredwn y cvtuna yr ardalwyr â ni fod defnyddio cyfran o elw yr Eisteddfod i'r amcan hwn— lles cyffredinol yr ardal—yn ffordd deilwng o drefnu yr arian gweddill. Dewiswyd Pwyllgor cynwysedig o'r Mri. Pryse H. Hughes, John Maethlon James, Parch. D. S. Thomas, a'r Parch. Robert R. Roberts i olygu a threfnu y traethodau. Cyfarfyddodd y Pwyllgor amryw weithiau. Gwedi ystyriaeth ofalus penderfynwyd mai y cynllun doethaf oedd argraphu y traethodau ar wahan yn yr un llyfr. Têg tuagat yr ymgeiswyr yw egluro fod y golygwyr wedi tori allan luaws o nodiadau o'r tri thraethawd, yn enwedig yn y mannau hyny lle y canfyddid fod yr esboniadaeth ar yr enwau yn gymhwys o'r un nodwedd. Tra yn addef fod y tri chyfansoddiad wedi cael triniaeth gyffelyb yn yr ystyr yna, eto cydnabyddwn mai traethawd Mr. J. G. Jones sydd wedi dioddef dostaf oddiwrth yr oruchwyliaeth. Yr oedd allan o'r cwestiwn i argraphu y tri traeth-