Neidio i'r cynnwys

Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)/Cyffes y Bardd

Oddi ar Wicidestun
Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)/Pedair Colofn Gwladwriaeth Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)
Corff y llyfr
gan Twm o'r Nant

Corff y llyfr
Hanes Henaint. 1799

CYFFES Y BARDD.

WRTH edrych, aruthr adrodd,
Fy ystum, fel bum o'm bodd,
O hyd fy oes, di-foes daith,
Fyw yn ben-rhydd, fab anhaith
Ymledu 'n annheimladwy
I fynnu 'mâr, fwy na mwy,
Dilynais, a diawl ynnwyf,
Bob cnawdol annuwiol nwyf,—
Nid oedd un o du ei ddiawl,
Am a allai, mwy hollawl,
Nag odid mewn rhyddid rhwydd,
Mwy'n fedrus am ynfydrwydd.

O! mor hylithr y llithrwn
I bob gwagedd serthedd swn
Ymhlith meddwon aflonydd,
A naws i'w dal, nos a dydd.

Fy chwedlau fu fach hudlawn,
Yn abwyd, neu rwyd yr awn;
Hualau, ar hyd heolydd,
Garw ei sain, o'm geiriau sydd;
Cig a physgod, i'm nodi,
Am foddio' nwyf fyddwn i;
Mynych y bum ddymunol,
Am wneyd ffair menywod ffol;
Gweniaith a phob drygioni
Fu fy mhleser ofer i.

Och feddwl afiach foddion,
Ffieiddrwydd hynt y ffordd hon;
Mi ledais fel malwoden,
Lŷsg o'm hol i lesghau 'mhen;

A'm calon pan f'wi'n coelio,
Fy llysg drwg fydd yn llesg dro:
Nyth ydwyf, annoeth adail,
Deml y fall, nid aml ty ail;
Daear afluniaidd dywyll,
A llyn du, yn llawn o dwyll:
Tŵr annedd pob trueni
Yw ty nghalon eigion i.

A pha mwyaf gaf heb gudd,
O fwriad eu llaferydd,
Mwy-fwy mawr-ddrwg amlwg wŷn,
A swn dialedd sy'n dilyn;
Cyfyd cof, amryw brofiad,
O'm heuog, afrywiog frad;
Gan mor drwm yn y clwm clau
A chadarn fy mhechodau.

Och edrych eglur-ddrych glau
Helyntion y talentau;
Fy nhalent erbyn holi,
Gwaedd yw son, a guddiais i,
Tan fy llygraidd ffiaidd ffol,
Yn fy naear annuwiol.
Duw a roes, da yw ei rad,
Fy awenydd, fyw Ynad;
Minnau troes, mewn enaid rhydd,
I'r gelyn, er oer g'wilydd.

'Mroddais, eisteddais yn stol
Gwatwarwyr, gnawd daearol;
Yn lle bod, hynod wiw hawl,
Ar lan afon, le nefawl,
Yn dwyn ffrwyth, at esmwythder,
Fel y pren plan, purlan pêr.


Ond Och! Ydwyf bechadur,
Fel llwyn sarff, neu 'fallen sur:
Ffigys-bren, neu wernen wyf,
Ddi-ffrwyth, hyd oni ddeffr'wyf;
Chwith yw'r farn, fy chwythu fydd,
Fel mân ûs ar fol mynydd,
Oni chaf, iawn awch ufydd,
Rym i ffoi trwy rwymau ffydd,
A chalon gwir ddychweliad,
I'm troi at faddeuant rhad.

I'r hyn Duw, o'm rhan dywyll
Rhwymau barn, rho i mi bwyll
I gydnabod mewn tlodi,
'Th ras haeddiannol doniol Di,
Yn troi'r hadl, rai afradlon,
At well, er mor bell y b'on.

Duw i'th ras yn urddas ne',
Er mwyn fy enaid myn finne',
Yn ollawl, gyflawn allan,
Fel pentewyn, tynn o'r tân,
Wael bechadur dolur dig,
A llesg adyn llosgedig.
Trywana fi o'm trueni,
Gwel dy fab gwael ydwy' fi;
Dwg f' enaid i'th drigfanne,
O fy Nuw, er ei fwyn E'.


Nodiadau

[golygu]