Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)/Pedair Colofn Gwladwriaeth

Oddi ar Wicidestun
Y Galon Ddrwg Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)
Corff y llyfr
gan Twm o'r Nant

Corff y llyfr
Cyffes y Bardd

PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.

BRENIN, USTUS, ESGOB,HWSMON.

Rhyfela, Cyfreithio, Efengylu, Lluniaethu.

Awyr, Tân, Dwfr, Daear.

Anadl, Cyfraith, Efengyl, Cnawd

.

YN gymaint ag i mi ryfygu argraffu y cyfryw waith distadl ag yw hwn, oblegyd ei fod yn myned tan yr enw Chwaryddiaeth fe geir amrywiol yn ei wrthwynebu, canys ni allant oddef i ddim da ddyfod o Nazareth. Fe fydd y farn arnaf fi, yn enwedig ymhlith dynion ffroen uchel Phariseaidd, a hidlant wybedyn, ac a lyncant gamel.

Ond yn fwy neillduol, mewn ffordd o amddiffyniad i'm gorchwyl, mi a ddymunwn ar bob un esgusodi barnu cyn profi y dystiolaeth. Gwaith pawb a brofir; felly mi a ddymunaf ar y rhai sydd barotach i farnu nag ystyried, i ddarllen neu wrando yr hyn sy'n gynwysedig; ac yna hwy a gânt adnabod fod pob gair yn wir at ei achos.

Yn gyntaf, fe ddaw un i adrodd y testyn, ac un dan enw Brenin; ac at hwnnw, un i ddatguddio amrywiol o'r twyll sydd yn y deyrnas; yn ol hynny, yr Hwsmon (sef y Cybydd); ac at hwn fe ddaw hen fenyw ddiog. A daw un dan enw Esgob; ac at hwnnw fe ddaw un i gellwair am le i fyned yn offeiriad; yn hyn y datguddir y trueni a'r llygredd sydd mewn gosodiadau eglwysig. Ac yn ganlynol daw yr Ustus, ac ato ef yr Hwsmon, ym mha le y dangosir dull y cam-gyfreithiau a'r creulondeb sydd yn y wladwriaeth. A daw yr Hwsmon i'w ddyrchafu ei hun, mai efe sy'n cynnal pawb; i ba un yr atebir, na all un alwedigaeth ei chynnal ei hun,—fod sefyllfa ddynol yn gyffelyb i un dyn, y pen a'r holl aelodau yn gyfatebol i un corff. Daw yr Hwsmon, wedi ei ofidio gan glefyd, yn ymofyn Doctor, ac yn addunedu, os cai hoedl hwy, y byddai yn ddyn duwiol; ac y mae yn ymddarostwng i ychydig o enw diwygiad; ond pan gyntaf y gwellhaodd o'i glefyd, y mae yn myned waeth nag o'r blaen, ac yn y diwedd yn marw yn druenus. Yn y modd hyn y mae'r llyfr hwn yn treiglo.

Nid oes gennyf ond ei adael i'ch barn chwi oll, gan obeithio nad oes neb mor foethus na allant "brofi pob peth, a dal yr hyn sydd dda."

Yr eiddoch oll, &c.,

THOMAS EDWARDS.

[Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon.

Syr Rhys.
Gostegwch bawb, gostegwch,
Os ydych am wrando, rowndiwch,
Y fi ydyw'r crier ffraethber ffri,
Ddaeth yma i gyhoeddi heddwch.

Fy enw sydd hynod ddigon,
Syr Rhys y Geirie Duon,
Gŵr wyf a fedr ddweyd eu bai,
Drwy deg, i rai cymdogion.

Ond mi glywes fy nain yn ownio,
Mai gore ydyw'n lleia' siarato;
O ran fe gynhyrfa llawer un swrth,
Mae'n debygol, wrth ei bigo.

Ni fu erioed gynlleidfa luosog,
Na bydde rhyw rai yn euog;
Rhag ofn cenfigennu am hynny ymhell,
Mae llawenydd yn well i'w annog.

Mae gennym ni fath ar chwaryddieth,
Yn pwnio 'nghylch y pedwar penneth;
Sef Brenin, ac Ustus, ac Esgob llon,
A'r Hwsmon hoewlon heleth.

Y Brenin i wneyd llywodreth,
A'r Ustus i reoli cyfreth;
A'r Esgob i bregethu'r gwir,
Wrth reol clir athrawieth.:


Ac ynte'n Hwsmon manwl,
Sy'n talu tros y cwbwl,
Trwy'i waith a'i lafur, drafferthus lun,
Wrth drin ei dyddyn diddwl.

Dyna'r testun oll mewn dwyster,
Mae amryw drafaeliwr tyner
A welodd sign ALL FOURS mewn tre
A'i lyged yn rhyw le yn Lloeger.

Ond ar hanes a dull y rheiny,
Mae sail ein hact ni 'leni,
Ond bod ynddi hi Gybydd, ac amryw o gêr,
'Ran pleser i'r cwmpeini.

'Doedd waeth dweyd ar fyr ei threfen,
Na mynd i bregethu rhyw hir brygowthen,
Mae hanner gair yn fwy i gall.
Na dweyd i ddi-gall ddeugen.

Y sawl sydd am brofi sylwedd,
Gwrandawed hyn i'r diwedd,
Os nad oes iddi ond dechre bach,
Mae'n ffurfach yn ei pherfedd.

Tyrd dithe'r cerddor tene,
Cais dynnu rhyw sŵn o'th danne,
Fel y gallwyf ddawnsio tro,
Yn bur-ddewr i dreio'r byrdde.

Ffarwel i chwi dro go fychan,
Daw'r Brenin yma'n fuan;
Ond mi ddof fi ato fe eto yn hy,
'Ran siawns na thuedda'i ymddiddan.

[Diflanna.

[Ymddengys Brenin.

Brenin.
'Nawr o'ch blaene'r hawddgar fyddin,
Mi ddes ger bron dan enw Brenin,
I adrodd i chwi fy mhwer addas,
A'm cadernid uwch y deyrnas.

Gan faint fy mraint, a'm parch, a'm honor,
Twf eurdeg harddwych, tyrd, y cerddor,
'Rwy'n chwennych datgan cân blethedig,
Hyf a moesol, hefo miwsig,—

(Alaw,—"DYDD LLUN Y BORE.")

"Wel, gwelwch i gyd,
Trwy'r byd yn wybodol y rheol sy'm rhan,
I mi mae anrhydedd, a mawredd pob man;
I'r Brenin mae'r braint,
Wir gywraint ragorieth, yn benneth mawr barch,
A phob ryw reoleth trwy'i daleth hyd arch;
I mi mae'r awdurdod, a mawr air Emerod,
I mi mae'n bri hynod yn barod mewn byd,
I mi mae'r gair uchaf, beth bynnag a archaf,
Mae'n dynion sydd danaf, mi brofaf i'm bryd,
Hwy wnant fel y mynnwyf pan alwyf yn nghyd;
Os archaf eu hanfon i ryfel echryslon,
Yn erbyn gelynion, yn union hwy an',
Hwy laddant, hwy leddir, gorchfygant, gorchfygir,
Trwy ddyfroedd y mentrir, nid ofnir mawr dân,
Dangosant eu cryfdwr iawn ledwr yn lân.

"Fy awdurdod sydd gry',
Mewn gallu teg 'wyllys yn ddawnus tan Dduw,
I mi mae gor'chafieth, rheoleth pob rhyw,
I mi mae mawrhâd,
Pob gwlad enwog lydan sy'n rhwyddlan i'm rhan,
Mae'r deyrnged i'm gafael, er mael o bob man;
Mae danaf, nod union, arglwyddi a marchogion,
Pob math ar wŷr mawrion, sydd ffraethlon swydd ffri,
Pob offisers diwad, pawb gwiwlan, pob galwad,
Pob cyfoeth, pob cofiad, mewn rhad mwy na rhi',
Sy'n dirwyn o diroedd a mofoedd i mi;
Gan hynny gwybyddwch, heb gilwg, o gwelwch,
'Rwy'n cario'r hawddgarwch ar degwch pob dyn,
I mi mae'n holl arwydd, a'r goron deg wiwrwydd,
Tan fraint ardderchawgrwydd, nef hylwydd ei hun,
Dylwn gael i'm cyfarch bur barch gan bob un."

[Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon.

Wel, mi ddalia beint o ddiod,
Fod yma ryw un wedi yfed gormod,
'Ran ni chlywes i yn sobr odid ddyn,
Yn ei frolio ei hun yn fwy hynod.
Bren. Beth, ai ni wyddoch yma'n ddiwad
A phwy, syre, 'r y'ch chwi'n siarad?
Rhys. Gwn, debyga'i, ond considro yma beth,
Mae'n llegach rhyw feth ar fy llygad.


——————————————

YR ESGOB

(Darlun gan A E Elias)

'Mi ddois o'ch blaen, y cwmni hylwydd,
Dan enw tad yr holl eglwysydd.

——————————————

Corff ag a dynges, ond 'rwy'n lled angall,
'Does dim ddwlach na dyn cibddall;
Onid gyda'r Roli'r tincer y gweles chwi'n glau,
Wrth gofio, fel dau gyfell?

Bren. Ewch oddiyma yn sydyn, lipryn,
Ai dyna'r parch a r'owch i'r Bnenin?

Rhys. Wel, pwy fuase'n ame eich bod chwi'n siwr
Wedi mynd yn wr gan gymin?
Ond brenin pwy ydych chwi o ddifri?
Mi glywes rai'n son am Frenin y Diogi,
Ac mae rhyw beth ar fy meddwl yn peri i mi
Adel mai chwi ydy'.

Bren. Taw, taw, â'th ynfyd chwedle diflas,
'Rwy'n deip o Frenin yr holl deyrnas;
Mi allwn alw milwyr gwaedlyd
I wneyd dy frad mewn llai na munud.

Rhys. Wele, arglwydd melin Henllan
A'n catwo ni rhag y barcutan;
Yr oedd fy hoedl i yrwan, dinwan dw',
Ar ei winedd e yn arw anian.

Wel, begio'ch pardwn, Mr. Brenin,
Onid oeddych chwi'n ffrynd i modryb Catrin?
'Ran mi clywes yn gweddio gyda chwi'n daer,
Efo Alis fy chwaer, ac Elin.

Bren. Taw a'th swn gwan, onid oes ar gynnydd
Weddio gyda myfi yn yr eglwysydd?


Rhys. Wel, pan oedd crio'r tâl mawr o'ch achos chwi,
Mi glywes i regu ar ogwydd.

Ond yn wir, meistir, 'rwy'n ymestyn yn hoew,
I weddio gyda chwi'n gadarn arw,
Os gallwch chwi wneuthur rhyw ddyfeis,
I roi llai o excise ar y cwrw.

Bren. Onid ydyw pawb trwy'r byd yn ddibrin,
Yn rhwym i dalu duty i'r Brenin?

Rhys. Wel, fe fydde gwell, er hynny i gyd,
Pe b'ai chwi heb gymryd cymin'.

Bren. Wel, ond rhaid bod ymhob perthynas
Goste mawrion ar y deyrnas,
Cyn y cadwer pob rheole
Tuag at gynhalieth gwyr ac arfe.

Rhys. Wel, begio'ch pardwn chwi, Frenin tirion,
Pa beth y dewisech gyment o weision?
Ni fu erioed yn y byd,—ni wiw ddisgwyl bod,—
Ddaioni lle bo gormod ddynion.

'Ran lle bo llawer o weindogion bydd y diogi mwya',
'Cerdd di,' 'cerdd dithe,' ni wyddir pa 'run anystwytha;
A gyrru'r llanc lleia' wnant hwy stil,
Trwy'r pwll i 'nol y ceffyl pella'.


A'r rhai sy'n cael y cyflog penna',
Ymhob lleoedd, sy'n gwneuthur lleia';
Maent hwy'n mynnu rhan. Mi dd'wedaf i,
Dan fy nwylo, mai chwi sy'n ola'.

Bren. Taw a son dy ffol gamsynieth,
Onid rhaid i bawb gael eu bywolieth?

Rhys. Wel, maent hwy'n gwneuthur ymhob man,
Hynny fedront o anllywodreth.

Beth am y gwŷr sy'n derbyn trethi,
A'r superfisors sy'n rhai pur fisi?
Nid y'ch chwi'n cael, i'ch traul a'ch tro,
Mo'r hanner o ddwylo rhei'ny.

A phe gwelech chwi mewn dirgelion,
Y gwas esmwyth ydy fo'r ecseismon,
Mynd at wraig y dafarn yn ambell dŷ,
Man arall ymgwerylu'n greulon.

Ni waeth i dafarnwr lledwan
Fod rhwng y tân a'r pentan;
Ni chaiff un o'r rhei'ny fywiolieth dda,
Heb hwrio, neu fenthyca'u harian.

Ac mae gennych chwi wych o weision,
Tua glanne'r moroedd mawrion;
Pan fo smyglo ar y traeth fe fyddan' hwy yn y tŷ,
'R hen faeddod, yn rhy feddwon.


A dyna i chwi'r modd yn loew,
Mae'ch offisers chwi yma ac acw,
Ni chewch chwi oddiwrthynt hwy, lawer tro,
Ddim 'chwaneg nag iws i'ch enw.

Bren. Mae teyrnged gyfion i mi'n digwydd
O gefn y môr a chefn y mynydd.

Rhys. Os oes i chwi'n digwydd beth i'ch shâr,
Mae fo'n glynu gyda'r glennydd.

Ni bydd i chwi ond rhan go wannedd,
Erbyn y llyfo pawb eu bysedd;
Mae gwmpas y môr, a glywa'i son,
A'r mynydd, i chwi weision mwynedd.

Eu gwaith mwyaf ydyw gwaitio
Ar eu gilydd, ac ymwenwyno;
Dwyn y naill oddiar y llall tan gadw swn,
Yr un fath a'r cwn 'rol cinio.

Os caiff rhai unweth godi fyny
Yn enw'r Brenin, dyna hwy'n lladd ac yn braenu,
Yn twyllo, ac yn robio mwy na'u rhan,
Ni chaiff y gwan le i gwnnu.

A phe gwyddech chwi weithian fel bu, rhyfel diwaetha,
Rhwng admirals a chaptenied, bawb am y tynna',
Yn derbyn breibs ac yn gwasgaru'r gweinied,
Mil mwy nag y gellir byth adrodd y golled.


'Roedd llawer o dwyll oddeutu'r milisie,
Rhwng y sergeants a'r corporals, a phob carpie,
Ond nid oedd twyll y rhei'ny ddim degwm yr hanner,
Ag oedd rhwng gwŷr y môr ac offisers Lloeger.

Nid oes ond y twyll a'r celwydd
Ymhob man, o'r môr i'r mynydd;
Lle byddo rhyw swyddog ar blwyf neu sir,
Ni fydd dim d'ioni hir o'i herwydd.

Dyma hyd y mynydd amser sheti,
Os bydd ceffyl neu heffer y b'on' hwy'n ei hoffi,
Waeth p'le ynte am ddefed bo node na llw,
Na'r hanes, y nhw' pia rhei'ny.


Ac felly nid oes ymhob rhyw fasnach,
Ond y trecha treisied, a phawb drawsach, drawsach;
Maent hwy'n symud eu cloddie, eu caue, a'u cêr,
Onid yw'r mynydd yn llawer meinach.

Bren. Er bod i'm llaw i bob rheoleth,
Nid ellir wrth rai ffals wasaneth,
Ond Duw a gadwo Frenin Lloeger,
Mewn iach fendith a chyfiawnder.

[Diflanna.

Rhys. Amen yn fwynedd! Dymunaf finne,
Boed llwyddiant yn ddoniol i'w ras a'i feddianne;

A hir oes i'r Brenin mewn cywir fryd,
Er maint sydd yn y byd o goste.

Ond mae llawer o gnafon atgas,
Yn cymryd arnynt yn y deyrnas,
Fod yn bur i'r Brenin yn ei ŵydd,
Ac eu hynny yr un swydd a Suddas.

Mae rhai mor liwdeg yn ymledu,
Fel llyged y dydd pan fo haul yn tywynnu,
A phan elo hi'n hwyredd, serthedd sain,
Hwy gauant yn fain i fyny.

Felly mae ffalster mewn rhai penaethied,
A ffalster ddialedd mewn amryw ddeilied;
Ffalster wrth gario cwrw a gwin,
A ffalster wrth drin merched.

Ffalsder, anlladrwydd llidiog,
Ydyw godro heibio'r gunog;
'Run fath a rhoi gwenwyn rhag lladd â chledd,
Er hynny 'run diwedd euog.

Yr un boene a'r un dibenion,
Ydyw boddi mewn llyn neu foddi mewn afon;
Neb na wnelo'r peth, na wnaed debyg chwaith,
Mae'r meddwl a'r gwaith 'run moddion.

Gan hynny'n glân ferchede,
Yn wych weithian, ond gwell i chwithe
Arfer yn ieuanc wneyd pob peth yn glên,
Na mynd i glegar yn hen bengloge.


Ac i gadw'r ffasiwn i fyny'n ddiball,
Rhag bod yn aflerach na ffol arall,
Mae gen inne ganiad wastad wedd,
A ddengys i chwi'ch agwedd anghall.

Mi a'i canaf hi mewn cysondeb,
Ar GODIAD YR EHEDYDD, os ca i rwydd-deb,
Chwi gewch yma glywed y gwir am y peth
Heb ddim gwenieth, yn eich gwyneb,—

"Y manwl ferched mwynion
Gwamal feddal foddion,
Gwych yw gennych dan y rhod
Mewn iechyd fod yn wychion;
Yswagrio'n fawr eich glendid,
A rhodio mwy na'ch rhydid,
Ac am y brafia'ch gwisgiad brith
I fynd i blith ieuenctid;
Pob ymddygiad balch fonddigedd,
Pob rhyw agwedd curedd cariad
Pob rhyw siarad hen gras eirie,
A phob ystraie, troe trwyad',
Ymhob rhyw ffals naturieth ffol
Mae'ch llawn arferol fwriad.
Ond yn eich ienctid mae i chwi ddysgu,
Heb angharu, cael cynghorion;
Er eich bod chwi heddyw'n ddibris,
Chwi ddowch yn ledis boche llwydion;
Cewch brynnu'ch dysg a'ch pen mewn dôl,
Am fod yn ffol ynfydion."

Nid yw cynghori merched, archied erchyll,
Ond 'run fath a dwfr yn mynd hyd gafn pistyll,

Trwy un pen i mewn, ac allan trwy'r llall,
Ac felly mae'r gwall yn sefyll.

[Ymddengys Arthur Drafferthus, y Cybydd.

Arthur. A glywch chwi, pa beth sydd yma heddyw?
Nad elw'i fyth i goed erill, on'd oes cryn dwrw.

Rhys. Wel dyma ymofyn moel yn siwr,
Onid aeth yr hen ŵr yn arw?
Considr'wch wrth natur dipyn eto,
Mae yn o fawedd i chwi feio
Ar ferched ieuenc, a llancie, a phlant,
Sy'n cadw gwylmabsant gwallgo'.

Arth. Wele'r achlod i garpie rhechlyd,
Ai nid oes gan rai ddim i'w wneuthyd?
Oni wela'i fod yma fawr a bach,
A rhai hen boblach biblyd?

Dyma Sion ac Ann, Dafydd ac Elis'beth,
Na bo'n son na chrybwyll, na wnai chwi rywbeth,
Yn lle bod fel hyn, mae'n rhyfedd gen' i,
Na fydde g'wilydd gennych chwi ymgoleth.

Wel, yn siwr, hi aeth yn fyd anaele,
Nid eiff dyn yrwan i dre' nac i bentre',
Na bo interliwd i'w chware wrth eu chwant,
Yn rhigwm rhwng y plant a'r hogie.

Rhys. O, tewch a son a'ch barnu,
Mae llawer peth waeth na hynny,

Gwell gen i chwareu, mae'n llai bai,
Na'r genfigen mae rhai'n ei fagu.

Arth. Wel, mi glywes fy mam yn dweyd, 'rwy'n cofio,
Mai po teca fo'r chware, gore ydyw peidio,
Lle bo gormod o wagedd, egredd wg,
Nid oes ond drwg yn trigo.

Rhys. Wel, oni chlywsoch chwi draethu'n fanwl
Hen benbwl cebyst, mai gwagedd ydyw'r cwbwl?
Gwagedd o wagedd llygredd a llid,
Yw'n moddion i gyd, 'rwy'n meddwl.

Nid oes ond y twyll a'r ddichell ddiffeth,
Yn mhob rhyw alwedigeth trwy'r gymdogeth;
'Does odid un yn dilyn gwedd
Gwirionedd yn ddiwenieth.

Arth. O ni waeth i ti dewi, mi glywes rai'n siarad
Fod pregethwyr duwiol yn mynd ac yn dwad,
Mae'n dda fod rhein'y, gan ddarfod iddi hi,
Eglwys Loegr, golli ei llygad.

Rhys. Mae mwy o buteinied eglwysig,
Nag a ddirnad un dyn gwledig;
Ac mae yng nghysgod crefydd, beunydd trwy bwyll,
Beth rhyfedd o dwyll a rhyfyg.

Arth. Wel gwir a ddywed yr hen wr doetha,
Llygriad y peth gore yw'r llygriad gwaetha;
Pa goleua bo'r ganwyll cyn ei diffoddi,
Mwya' yn y byd bydd ei mŵg hi yn drewi.

Rhys. Mae'n wlad wedi goleuo ben bwy gilydd,
Waith cyment sy o daeru ac ymgrafu am grefydd,
A llawer ohonynt hwy'n llwyr heno,
'Run ffordd a Lusiffer a Pharo.

Hwy farnant rai gwirion mewn digofent,
'Run fath a Judas am y blwch enent;
Degymu'r mintys o'r gerddi gwâr,
A gwneyd camwedd y pedwar cyment.

Arth. Mi a glywes wr yn barnu
Mai drwg ydyw dawnsio a chanu.

Rhys. Gwir mai drwg yw, os cymer dyn
Ei ogoniant ei hun o hynny.

Mae'n gofyn i ddyn â'i ddonie,
Roi'i synwyr a'i holl aelode,
Ym mhob peth, er clod yn siwr,
Yn gyhoeddus i'r Gŵr a haedde.

Arth. Ni waeth i ti dewi a dadlu,
Nid oes fawr yn gwneuthur felly.

Rhys. Wel, y neb na wnelo hynny'n ddi stwr,
Ym mhob achos mae'n siwr o bechu.

Arth. Onid ydynt hwy'n dweyd mai'r brenin
Yw amddiffynwr y ffydd gyffredin?

Rhys. Mae'n wir ei fod oddiar ei fainc,
Am faeddu pab Ffrainc a'i fyddin.

Arth. Onid oes rhai o feibion brenin Pryden,
Mi glywes yn y post-house, yn caru pabisten;
Ond am ystraeon nid wyf ddim yn ffond,
Mae drwg eu llond hwy yn Llunden.

Rhys. Wel, yr oeddwn i ar fy ngore
Yn ymddiddan â'r brenin gynne,
Fe basiodd rhyngom tu yma i'r Hob,
Beth gerwin o bob geirie.

Arth. Ymddiddan â'r brenin! Tybed
Ei fod ef cyn ddifalched;
A glywch chwi, medda'i, mae fe'n siwr,
Dan awyr, yn wr diniwed.

Rhys. O, ydyw'n siwr, mae'r gŵr o'r gore,
Yn ddiniwed a gonest, am a ddealles i gynne,
Onibai gnafon a lladron sy ar ei gefn,
Ni gaem ni yma well trefn 'rwy'n ame.

Arth. Er mwyn dyn, pe soniasit ti dipyn
Ynghylch y Dreth Fawr a'r Ardreth Brenin,
Maent hwy ar eu deilied ym mhob lle
Yn gyrru yma goste gerwin.

Rhys. Nid all y brenin sydd â dull breiniol
Ddim wrth hynny o warth wahanol,

Pobl erill sy'n difa ym mhob man,
O'r trethi, beth anhraethol.

Arth. Pwy bynnag sy'n dyfetha'n foethus,
Y brenin a'i rwysg yw'r esgus;
Mae'n mynd yn ei enw trwy'r wlad hon,
Gynifer o ddynion cnafus.

Rhys. Wel, mae llawer pren teg brig-lydan
Yn cysgodi bwystfilod aflan,
Ac adar drwg yn nythu ynddo fry,
Nid all e' ddim wrth hynny ei hunan.

A chwi wyddoch na ŵyr bon derwen,
Pa ffordd y gwinga un gangen,
Ac felly ni all brenin, er trin pob treth,
Wrth ei ddeilied wneyd peth na ddylen'.

Arth. Wel, dywed ai'r brenin a ddarfu ordro
Rhoi treth ar bob ceffyl, fel mae rhai yn caffio;
Ond am dreth y gole ar bob rhyw gut,
Mae'r gair mai Pitt sy'n pwtio.

Rhys. Nis gwn i heno am un da ohonyn,
Maent fel cene llwynog, a'i ddichell wenwyn.
Yn ymroi i gyd-yspeilio'n gâs
Ein teyrnas, rhad Huw arnyn.

Arth. Wel, mae'n chwith gan hen bobl weled
Gyment o bob cyfnewidied;
A phe doi rhai fu feirw; mi wrantaf fi,
Bydde synnach gan rhei'ny synied.


Mae'r bonddigion wedi'u witsio,
Yn mesur eu tiroedd, yr aflwydd a'u torro;
Ni ddaeth dim i'r byd, er maint y swn,
Mon wenwynig a'r ffasiwn honno.

Hwy fesurant y ffordd, y coed, a'r caue,
Ac fel mae'n g'wilyddus, y perthi a'r cloddie,
A'u tidau heiyrn a'u celfi chwyrn,—
Pe b'ai hi am gyrn eu gyddfe.

Rhys. Wel, mesuran 'nhw am y siwra,
Eu tiroedd, mewn moddion taera;
Daw'r dydd na roir fawr fwy o hon
Na dwylath, i'r dynion tala.

Ond natur y byd yw cadw twrw,
Hir y onoin y tamed chwerw;
Mi redaf fi draw ar hyn o dro,
Mewn cariad i geisio cwrw.

[Diflanna

Arth. Wel, rheded pawb lle gallon',
Hi aeth yn fyd echryslon;
Rhaid i denantied ymhob rhyw,
Ar f'einioes i, fyw yn feinion.

Dyma'r tiroedd, mae pawb yn taeru
Y byddan' hwy i gyd yn codi;
Ac ni wiw i ni siarad a gwneyd trwyn sur,
Mae'r stiwardied yn wŷr stwrdi.

Rhaid i ddyn ddysgu pratio,
Tynnu het, a mynych fowio,
Ac edrych pa sut yr agorir ceg,
A dweyd yn deg, rhag eu digio.


Ac ni chaniateir mynd i'w gwynebe
I siarad, ond ar rai amsere,
A rhyfedd mor syth, oni leiciant chwi'n son,
Yn wŷr tonnog, y tront hwy'u tine.

A rhaid yw eu tendio ar bob achlysur,
A mynd i'w cymhorthe, rhag ofn eu merthyr;
Os gwydde, os cywion, neu berchyll per,
Rhaid eu ceisio hwy i'r gêr ddigysur.

Ac os tyddyn fydd ar osodiad,
Daw yno i ymryson resiad;
Ni cheir na threfn, na threial, na thro,
Heb iro dwylo'r diawlied.

Mae'n rhaid i ystiward yn ei falchder
Gael llawer mwy o barch na'i feister;
Onide ni chaiff dyn gwan ddim lle
Yn agos, os a fe'n eger.

Digiwch ŵr boneddig, cewch bardwn ganddo,
Ond os digiwch ystiward, chwi gewch eich andwyo;
Mae hynny'n druenus ym marn pob dyn,
Fod rhyw helynt fel hyn yn rwlio.

Mae'r byd yn llawn aflwyddiant,
Fe'i llyged tynned ar les pob tenant;
Mae'r bonddigion a'r tlodion, drawsion drefn,
Hefo'u gilydd ar ei gefn yn galant.

[Ymddengys Gwenhwyfar Ddiog.

Gwenhwyfar. Wele, nosdawch, gyda'ch cenned,
Rhad Huw yma; a rowch chwi damed?


Arth. O b'le rwan, hefo'ch cwman ci,
Gwenhwyfar, daethoch chwi cyn hyfed?

Gwen. Dwad ar ddamwen wnes i'r ffordd yma,
O ran fod y byd yn gwasgu arna'.

Arth. Pe buasech chwi er's meityn yn ei wasgu fe'n llym,
Nid aethech chwi ddim fel yna.

Gwen. Nid oes mo'r help, hawdd gennych chwi siarad,
Yr ydwyf fi'n ddigon tlawd ac amddifad.

Arth. Wele'r hen baunes, ar bwy 'roedd y bai?
Oni all'sech wneyd llai o ddifrad?

Gwen. Pa beth a ddifrodes, gadewch glywed?

Arth. Cyment a gawsoch, ni fu 'run cyn gased;
Ni chymrasoch erioed, mi wn yn dda,
Ddim gofal, ond bwyta ac yfed.

Gwen. Dyma'r peth a geir os eir yn dlawd,
Rhaid dioddef gwawd a choegni.
Arth. Ni oddefwch chwi ond eich haeddiant eich hun,
'Ran ni wnaethoch, gŵyr dyn, mo'r d'ioni.

Gwen. Onid yw'r ddiareb yn dweyd gwir godidog,—
Y neb aned i rôt, nid eiff byth i bum' ceiniog?


Arth. O, hel rhyw esgusion dwl oerion di les,
Mae'r hen Iddewes ddiog.

Oni chawsoch chwi gynysgeth holliach,
Aur ac arian, ac amryw geriach?
Chwi allasech ddwad fel finne'n wisgi,
I berchen digon, onibai'ch diogi.

Gwen. Wel, soniwch chwi am ddiogi eiddigus,
'Roedd y plant yn fychen, a minne'n afiachus;
A pheth a ddisgwylie neb mewn condisiwn,
O waith na phwyse gan fenyw o'm ffasiwn.

Arth. 'Doodd wiw i undyn a'ch adwaene,
Ddisgwyl gennych fawr o wyrthie,
'Ran prin y cynhyrfech chwi i roi tro,
O'ch cornel i ystwytho'ch carne.

O! fel y bydde hi yn un bauled,
Yn eiste'n domen, na chynhyrfe hi damed;
Buase'n dda fod y gwydde'n llawer man,
Yn eistedd gan onested.

Dyna fel y bydde hi mor ddigyffro,
Trin plant yn ei lludded, a difa'r holl eiddo;
Ac ysmocio nes aeth hi 'run lliw a'r gŵr drwg,
Hen boced, gan fwg dybaco.

Gwen. Wel, ond fy mrest i sy'n llawn caethni,
Mae tybaco yn tynnu dwfr ohoni.
Arth. Yr ydwy'n eich gweled chwi, hyll ei gwawr,
Yn yslefrian mewn mawr yslafri.


Gwen. O rhowch i mi gardod yn ddiragrith,
Chwi glywsoch yn bendant mai da ennill bendith.

Arth. Ni feddi di'r un fendith, mwy na gafr neu fwch,
Gwyneb hwch mewn gwenith.

Gwen. Onid ydyw'r gair yn dweyd yn gywren,
Fod bendith i bawb a roddo elusen?

Arth. Y fendith ore fuase mewn pryd,
Eich curo chwi o'r byd, hen garen.

Gwen. Ai meddw ydych? fe fuase'n well dull
Fy lladd!—O erchyll Iddew!

Arth. Buase yn llawer amgen lles,
Gael dibendod y gnawes bendew.

Nage, pe gwyddech chwi'r cwmpeini gweddus,
Fel yr aeth hi yn baelfed mor helbulus;
Mae hi'n ddigon o siampl i bawb trwy'r plwy',
Am fywiolieth, i fod mwy gofalus.

'Roedd ei gŵr hi'n porthmoneth draw ac yma,
A llafn o bwrs melyn, ac yn walch pur ysmala,
A hithe gartre' yn diogi, ac yn ymdroi,
Mor foethus, wedi ymroi i ddyfetha.

Ond o dafarn i dafarn, 'roedd e'r hen borthmon diofal,
Heb fawr edrych at na thir na chatal,

Ond canu efo'r tanne ac ymlid puteinied,
A gwneyd bargeinion a cholli, ni bu'r un cyn erchylled.

Fr dorrodd a'r wlad, ynte mor ddiawledig.
Am filoedd o bunne, mi allaf ddweyd yn ddiarbennig;
Llwyr wfft i borthmyn am dwyllo'r byd,
O! na byddent hwy i gyd yn grogedig.

Dyma hithe, Gwenhwyfar, wrth ei hen gynefin,
Beth bynnag fydde'r ennill, ni hidie hi ronyn,
Hi eistedde mor bwyllus, ac a smocie ei phibelled,
Heb feindio'r un difin mewn gwartheg na defed.

Gwen. Wfft, wfft i'r fath gelwydd, a goeliwch chwi bellach?

Arth. Taw, hen hwr dafotrwg, ni fu erioed dy futrach,
Na'th ddiocach, na'th ffieiddiach, mewn un man,
Hen gwrwm, na'th anhawddgarach.

Gwen. Nid oes mo'r help, mi glywa,
Rhaid i'r gwan ddioddef pob trahausdra,
Ond gobeithio, os colles yn hyn o fyd,
Ca'i'n hawsach y bywyd nesa.

Arth. Wel, dyma fel y bydd rhyw garpie,
Pan elont hwy'n ddinerth, ac yn ol o feddianne;
Maent hwy'n rhoi fod y nef, fel llysendy ar dro,
I bob ceriach fynd yno o'u cyrre.


Rhyfedd fel y dwedant mor odidog,
Yn gysurus eu geirie, fod Duw'n drugarog,
Ond pe bai fo drugarocach, mi wn fy hun,
Na ddewis ef 'run fo ddiog.

Gwen. O! nid oes yn y nef ddim gweithio.

Arth. Wel, nid rhyfedd, gŵyr dyn, i chwi son am fynd yno,
Ond mi wranta na leiciwch chwi byth mo'ch lle,
Onid oes yno de a dybaco.

Gwen. O! mae gennych chwi chwedle drwg ysmala.

Arth. Nis gwn i, pe lleddid fi, pa'r un ysmaleiddia:
Mi aroses gyda chwi, hyll ei gwarr,
I ryw hewian ar yr hwya.

Gwen. Gobeithio y rhowch chwi cyn eich myned,
Fwyd eu lety, a minne cyn dloted.

Arth. Ni chei gennyf, tra b'wyf yn fy nghof,
Y tân a'm twymno, yr un tamed.

[Diflanna.

Gwen. Wele'r glân gwmpeini,
Dyma'r cysur sydd imi;
Cael fy hoetio a 'maetio ym mhob man,
Yn eger o ran fy niogi.


'Rwy'n ofni 'ran diogi dygyn
Mai 'niwedd fydd marw o newyn;
Canys ni cha'i fymryn, y cwmni mwyn,
Yn fy ngwendid, o gŵyn gan undyn.

Ond gan i mi gael fy marnu'n waetha',
Mi ddweda i chwi 'nghyffes, fel y gellwch fy nghoffa,
Os ca'i yma le i eistedd i lawr.
Drwy gwynion mawr mi gana'.—

(Alaw, "SWEET WILLIAM.")

"Pob ladi o ddynes led ddiddeunydd,
Gwrandewch ar gwynion gwrach ddigynnydd;
Y fi sy'n adrodd fy musgrellni,
A maint o aflwydd a ddaeth imi,
Erwina digwydd, o ran diogi.

"Pan es i ddechre donie dinerth,
Trin y byd a phob rhyw drafferth,
Cefais ganwaith, cofus gen'i,
Am ddilyn mynych serthnych swrthni,
Golledion dygyn, o ran diogi.

"Pob trawsneiddwch trist anniddan,
Pob taeog walle yn tŷ ac allan,
Pob rhyw anhap a thrueni,
Pob aruthr ddamwain a ddaeth imi,
Anrhaith dugas; o warth diogi.

"Fy hyswieth doreth dyrus,
Aeth yn ofer waith anafus,
Y cig, y caws, a'r menyn gen'i,

A spwyliai'n aml o ran imi
Wneyd cam-drinogeth yn fy niogi.
"Gan hynny, ferched, 'rwy'n eich annog,
I gym'ryd siampl rhag troi'n ddiog,
Mae un anhwsmon yn well i'w gyfri,
Ac yn gynhesach nag anhyswi,
Lle bo redegog bâr a diogi.
"Mae'r gwr doeth yn rhoi canmolieth
I wraig dda rinweddol berffeth;
'Rwyf finne'n llwyn wrthwyneb iddi,
Cymerwch rybudd o'm trueni,
Ym mhob ymddygiad gwyliwch ddiogi."

[Ymddengys Syr Rhys

Rhys. Pwy sy yma'n crugleisio mor luosog?

Gwen. Y fi sydd yma'n dlawd ac anghenog.

Rhys. O, mi welaf yma'n wâr,
Yr hen Wenhwyfar Ddiog.

Gwen. Wel, 'rwyf fi mewn cyflwr enbyd,
Na wn pa beth i'w wneuthyd.

Rhys. Mi ddysgaf fi, i'ch llonni yn llawn,
Fuddiol iawn gelfyddyd.

Gwen. Ni waeth i ti dewi â'th ddwndwr dibris,
Yr wy'n rhy hen i fynd yn brentis.


Rhys. O na, fe drefnwyd i chwi swydd ger bron,
A wneiff i chwi burion offis.

Gwen. Pe cawn i ryw offis fechan,
Rhag i mi newynu yn anian.

Rhys. Ffoledd newynu a chadw nad,
Tra fyddo'r wlad mor lydan.

A chwithe'n hen fenyw lysti am gerdded
Cewch gystal bywiolieth ag allech chwi weled,
A chwmni merched o le i le,
A'ch gwala o de i yfed.

Ond rhaid i chwi ddysgu'n ddwysgall,
Fedru dangos i fenywod annghall,
Eu ffortun yn dwt, mewn cwpan de,
Fel y gallont hwy'n ddie ddeall.

Gwen. Mae ofn na alia'i ddim oddiwrthi.

Rhys. Ni fu erioed beth hawsach, troi cwpan a'i throsi,
A dweyd peth a'u plesio, wrth eich pen eich hun,
Dyna'r cyfan, fe ŵyr dyn, am dani.

Nid rhaid i chwi fyth mo'r ame
Na ddywedwch y gwir o'r gore,
Ran y cythrel sy'n dysgu, ac yn trefnu'r tro,
Ac y fo sy'n gwirio'r geirie.


Dywedwch chwi y bydd rhyw un farw,
Fe tynn y diawl e' i foddi neu dorri wddw',
Ac i gyflawni'ch dywediad, mewn clymiad clir,
Dyna hynny'n wir am hwnnw.

Gwen. 'Rwy'n ame y dysga'i ar led osgo,
Ond nis gwn i a ydyw'n ddrwg ai peidio.

Rhys. Mae'r arfer honno wedi'i setlo'n syth,
Nid rhaid i chwi byth mo'r hidio.

Nid oes ond y dichell a chyfrysdra,
Yn mynd ymlaen yn y busnes yma,
Cans holi ac ymofyn i ddeall eu ysgwârs
Bydd y fortune-tellers tala.

Lle gweloch wraig ieuanc iachus,
Yn berchen hen ŵr oedranus,
Dywedwch wrthi fod hwnnw ar dranc
Ac y ceiff hi ddyn ieuanc nwyfus.

A lle bo gŵr go ddawnus, a gwraig ddi-dd'ioni,
Dywedwch wrth hwnnw bydd farw'r hen ladi,
Ac y ceiff ail wraig o fenyw dêg,
Fwyneidd-deg, lwysdeg, lysti.

Felly dywedwch wrth bawb trwy wenieth,
Y peth a feddylioch a blesio'u naturieth;
Os plesiwch y merched ar hyd y byd,
Chwi gewch hoff hyfryd ffafreth.

Cerddwch trwy degwch hyd deie'r cymdogion,
Dysgwch ofer-ddadwrdd, a dehongli breuddwydion,

Chwi gewch fywolieth, mi wrantaf fi,
A chysgu a diogi digon.

Gwen. Iechyd i'th galon am fy nysgu,
Mi â'n fortune-teller ore yng Nghymru,
Darllenaf desni mawr a mân,
A threiaf min tân lyg-tynnu.

Mi gaf bellach yn ddiballu,
Ar f'engoch, fywolieth fwyngu;
Mae dywedyd ffortun i ambell ffrynd,
Yn ddigrifach na mynd i grefu.

Yr wyf wedi cynhyrfu'n bendant,
A darn wylltio o ran fy llwyddiant;
Lle caffwy' 'ngwrando'n rhuo'n rhwydd,
Mi bwnia gelwydd galant.

Ac os daw celwydd i beri canlyn
Mae'n hawdd gwneyd esgus cyn bo fo'n disgyn,
A thaflu'r cwbl drwbl drefn
Yn rhywiog ar gefn Rhywun.

Wel, nosdawch heno, cofiwch i mi'ch annog,
I feddwl am ddiwedd menyw ddiog,
Sy'n mynd ar hyd y byd 'ran diogi a bâr.
Yn fortune-teller talog.

[Diflanna

[Ymddengys Esgob

Esgob. Mi ddois o'ch blaen, y cwmni hylwydd,
Dan enw tad yr holl eglwysydd;
Myfi yw swcwr, dyddiwr da,
Sylfaene cryfa crefydd.


Sant Paul gynt a roddodd urdda
I Timotheus, yr esgob cynta,
I oruwchlywodraethu'n siwr,
Yr Ephesied, yn wr hoffusa.

A Thitus hefyd, wynfyd iawnfodd,
Efe yn ddewisol a'i hurddasodd,
Ar y Cretiod yn esgob cryf,
Ei ddonie dwysgu ddysgodd.

Yr wyf finne'n deip o'r alwad honno,
Dan enw'r esgob mewn gwir osgo,
Yn dad eglwysydd odidog liw,
Hoff urddus, i'w hyfforddio.

[Ymddengys Rhys.

Rhys. Wele! Dafydd y Joci, a Thomas, a Jacob,
A Modryb Elin Ty'n 'r Ysgol, edr'wch lle mae'r esgob!
Da geny'n gymhwys gael lle â chwi ymgomio,
A wariwch eich ceiniog os darfu chwi'ch cinio?

Esg. Ewch, rôg impudent, oddiyma,
Gwrando'ch ynfydrwydd chwi ni fedra.

Rhys. Maddeuwch, f'arglwydd, y tramgwydd trwch,
Yn rhodd na ddigiwch wrtha.

Mae gen i ewyllys yn fy nghalon,
Gael lle i fynd yn berson;
'Rwy'n gweled y rhei'ny mewn gwlad a thre'
Yn o glos yn eu cobe gleision.


Esg. Taw, lolyn ynfyd lledffol,
A'th siarad ansynwyrol.

Rhys. Wel, mi wnawn, os oes gen i rhy fach stad,
Ficar neu gurad gwrol.

Mi ddarllena Gymraeg ar redeg,
A thipyn bach o Saesneg;
A pheth, fy meistr, ellwch chwi ddweyd,
Neu chwenych i mi wneyd ychwaneg?

Esg. A gai gennyt ti dewi, dywed,
A swnio dy ffol gamsynied.

Rhys. Wel, mi allaf wnenthur yn ddi lai,
'Run synwyr a rhai personied.

Beth sydd i'w wneyd ond darllen ambell Sulgweth,
A thendio bedydd a chladdedigeth?
Mae'r llane bach yma, lawer pryd,
Heb rigwm yn y byd o bregeth.

Ac os pregethir weithie,
Nid rhaid mo'r poeni ac astudio'r penne;
Fe bryn dyn ddigon at iws y plwy'
Yn hawddgar am ddwy geinioge.

A pheth a nad imi fedru tendio,
A chodi ar y degwm pwy bynnag fo'n digio,
Ac oni thalant hwy bob peth,
Gwneyd iddynt trwy gyfreth gwafro.


Felly mi leiciwn yn fy nghalon,
Gael mynd yn ŵr eglwysig, i wisgo dillad gleision;
Pe t'rawech chwi gyda fi am le da,
Mi fyddwn mewn bara purion.

Esg. Ni fuost ti erioed, un ffol ei ledpen,
O fewn i Cambridge na Rhydychen.

Rhys. Ni chadd y rhai fu yno fawr wellhad,
Ni waeth i ni'n gwlad ein hunen.

Esg. Nid a neb i'r cyfryw swydde,
Heb fod yno'n profi eu donie.

Rhys. Mae'n hawdd medru rheol ddynol ddysg,
Sy'n gyffredin ym mysg yr offeiriade,—

Flowlio a hela, a chware cardie,
Ymladd ceiliogod, a thrin merchede,
Darllen papur newydd, fel y byddan' nhw,
Ac yfed cwrw am y gore.

Mi fedra fyned trwy ddichellion,
'Rhyd plase gwŷr bonddigion;
Dyna'r fan lle ca'i'n ddi feth,
Mewn barieth fywolieth burion.

Mi gaf ddweyd fy helynt a welwyf wrth ffowlio,
Pa fodd y bydd y tenantied yn contreifio;
Pa'r un fo'n dda ei lun, a pha'r un fo'n ddi les,
Fel caffwyf mewn gwres fy nghroeso.

Lle bo denant cryf i'w ganfod,
Rhaid dweyd gellir codi ar hwnnw hylldod;

A lle bo un gwan, eu hwylio 'nhw'
I orffen hwnnw yn hynod.

Esg. Mae'n hawdd gweled, pe cai ti gyfle,
Y gwneit ti'n hwylus ddrwg annele.

Rhys. Pe bawn i yn berson, a fydde bai
Am wneuthur fel y gwnelent hwythe?

Esg. Dos oddiyma i ofer ddwndro.

Rhys. Gobeithio nad ydych chwi ddim yn digio,
Rhag ofn, fy meistr, mewn trawsder trwch,
Y mynnwch fy ysgymuno.

Esg. Hawdd y galla'i wneuthur felly.

Rhys. Wel, beth os bydde arian i dalu?
Pe bai fastardied lond y fro,
Cai fy 'menydd ei safio am hynny.

Mae yn nghyfreth esgob ryw arfaeth osgo,
Bron mwy diawledig na chyfreth Llandeilo,
Mae ganddo gynffonne a blaene blin,
A llawer tin sydd tano.

Hwy ddaliant ychydig bach o fater
O gwrt i gwrt, ac o chwarter i chwarter;
Nid oes un blewyn yn eich plith
O fendith na chyfiawnder.

Ond yr arian sy'n gwneyd pob gwyrthie,
Er bod rhai dynion yn bostio eu donie;

Yr arian sy'n gyrru'r ysgolheigion rhydd,
I gyrredd y llefydd gore.

Ni bydd mab i boblach wladedd lwydion,
Ond ficer neu gurad gwaredd ei foddion;
Nid oes, wedi dysgu pob disgwrs,
Ond y gore ei bwrs am berson.

Esg. Paham y rhoddi di yma'n ddibaid,
Y cyfryw g'wilydd ar fugeiliaid?

Rhys. Ond am eu bod, gwybyddwch pam,
Yn wŷr diofal am eu defed.

Yr wyf fi'n cyff'lebu'n barod
Y rhai drwg i'r hyslau a'r drogod,
Heb hidio'n defed, doed a ddêl,
Nes cant hwy afel yn y cnyfod.

Mae un ysgub ddegwm gan ambell berson,
Yn werthfawrocach nag eneidie'r holl blwyfolion,
'Ran os cant hwy ddim colled yn y degwm cu,
Hwy ant i gwerylu'n greulon.

Ac er iddynt weld y plwyfolion yn anaele,
Yn rhedeg yn chwidir ymhob rhyw bechode;
Ac yn mynd tuag uffern o'u blaene yn syth,
Ni chynhyrfant hwy byth mo'r pethe.

Esg. Pa beth all nac esgob na pherson gwisgi,
Aruthr yw'r hanes, wrth y rhei'ny?


Rhys. Beth yw gwaith bugail ond cadw, os gall,
Yr un fo mewn gwall rhag colli.

Esg. Onid ydys yn darllen ac yn gweddio,
Y modd y mae'r eglwys wedi apwyntio?

Rhys. Ni wnaiff gwas cyflog, mi wn yn dda,
Dan gellwer, ond lleia' gallo.

Mae'r ffurfie hen ffasiwn mewn hoffusrwydd,
I borthi'r eneidie, onid aeth hynny'n annedwydd;
Ac fe godwyd llawer ymhob lle
Yn awr o ddegyme newydd.

Mae hynny'n arwydd union
I'r golwg, pa le mae'r galon;
A pha un ai degwm ai eneidie'r praidd
Sy'n gafaelu yng ngwraidd ei galon.

Ond wrth ffrwyth yr adwaenir pob pren a'i dyniad,
A farno a fernir, ni waeth hyn o lar'nad,
Onibai fod rhai'n cael gras Duw yn glir,
I dderbyn y gwir trwy gariad.

Esg. Och! Och druenus boenus bennod,
O feddwl hyn anfuddiol hynod,
Fod cyment llygredd trwy'r ddull hon,
Gall pob rhyw ddynion ddannod.

Mae'r fuchedd ddrwg yn amlwg ymlid,
Fel nod yw'r hyllfarn i ni trwy'r hollfyd,

Drygioni'n gwlad anurdda'n glir
Yr eglwys gywir oglud.

Mae achos mawr trwy deimlad
I ganu prudd alarnad,
Am weinidogion Eglwys Dduw,
Mor hagar yw ei rhwygiad,—

(Alaw—"AMOR ELIS," neu "IANTO'R COED.")

"Clyw, Eglwys Loeger, ffraethber ffri,
Hap lwyra 'stad, pa le 'reist ti,
Yng nghanol d'urddol frawdol fri,
I'r fath drueni anian.
'Nol dwediad Gildas atgas wawr,
Y gwyfaist awr yn gyfan;
Cans dy weinidogion sydd dan sêr,
Yn haeddu eger ogan.

"Trwm achos ofni'n enbyd sy,
Beth wneiff y wlad gyffredin lu,
Tra bo'r blaenoriaid harddblaid hy',
Wedi'u dallu gan dywyllwch;
A'r dall truenus warthus wall,
Yn t'wyso'r dall, dyellwch
Mai yn y ffos, anniddos nerth,
Mewn galar serth, y syrthiwch.

"O! chwi rai deillion llyrfion llawn,
Sy'n sôn am Grist a'i ddidrist ddawn,
Ac heb adnabod eto'n iawn,
Mo'i hollol gyfiawn allu;

Pa fodd y byddwch, tristwch trwm,
Pan ddarfo swm rhesymu?
Ni feddwch geidwad yn eich plith,
Ond melldith, rhagrith rhygry'.

"Gan hynny profwn bawb ger bron,
Beth dâl rhyw enw llanw llon,
Am ffurfiau'r Eglwys hardd-ddwys hon,
Dyst oerion heb ystyried;
Na chael erioed iach oleu-ryw,
Gwirionedd Duw i'r ened,
A chym'ryd ffalster yn lle ffydd,
Bydd prudd y dydd diweddied."

Ffarwel yn awr, yr wy'n mynd ymeth,
Gweddied pawb am wir wybodeth,
Dallineb ysbryd enbyd wawr,
Sy heddyw'n fawr ysyweth.

[Diflanna

[Ymddengys Ustus

Ustus. Mi ddes o'ch blaene,'r cwmni gweddus,
Yn awr ar osteg dan enw'r Ustus;
Gen i mae'r pen awdurdod ffraeth,
I wneyd llywodraeth fedrus.

Mae'r byd mor llawned o elynion,
Sef dynion gwresog o natur groesion,
Yn fawr eu brys mewn tref a bro,
Am ymgyfreithio yn frithion.

Yn ol eu holl gynddaredd erchyll,
A'u naws wenwynig, ni sy n ennill;
Oherwydd hynny mi alla' yn hy,
Hap hynod, ganu pennill,—


——————————————

MARWOLAETH Y CYBYDD

(Darlun gan E. A. Elias)

Hen bechadur heb fod yn iach,
Sydd a'i galon bach yn gwla.

——————————————

(Alaw—"GONSET GRUFFYDD AP CYNAN.")

"Chwychwi gyfreithwyr, barnwyr byd,
Dewch ynghyd, braf yw'n bryd,
Yma ar hyd, mewn mawr anrhydedd.
I ni mae'r mawredd ymhob man,
I ni yma'n awr mae'n fawr y fael,
Gwych a gwael a raid ein cael,
O, mor ddiffael yw mawrdra ffylied!
I ni mewn rhediad yn ein rhan,
Er bod y gyfraith rwyddfaith rad
Yn dda'n ei lle trwy ddawn wellhad;
Nyni'n mhob gwlad sy'n chwanog ledio,
Ffordd bo ni'n leicio, am eiddo a mael,
Wrth fedru chwareu mewn awch hy',
Y gath ddwy gynffon yma'n gu,
'Ry'm ni ymhob llu yn medru moedro
Dan gyfryw gwafro i gogio'r gwael.

"Tan rith cyfiawnder llawnder llwydd,
Yr y'm ni'n rhwydd yn trin ein swydd,
Rhaid in' o'n gŵydd trwy guddio'n dyfes,
Os mynwn fantes yma i fyw,
Wrth ddweyd yn deg a thido'n dost,
O ddelio'n rhydost mae'r mawrhydi,
I gadarn godi, a llonni ein lliw.
Er teced cyfraith ffraethwaith ffri,
Ag arian hardd ni a'i gwyrwn hi,
I brynnu bri neu dorri'r dyrus,
Y wobr drefnus a wna'r tro,
I ni mae'r braint, i ni mae'r bryd,
I ni mae'r parch, i ni mae'r byd,
I ni o hyd mae hyder cywaeth,
Tra dalio cyfraith yn ein co'."


[Ymddengys Arthur

Arthur. A glywch, onid ydych chwi yn llafan lysti,
Ac yn gene pur lodog, i ganu baledi?
Bydde cwilydd gan lawer ddangos ei lun,
Y ffasiwn ddyn ddi-dd'ioni.

Ust. Ond y fi yw'r pen cyfreithiwr eglur,
'Nol rhwym a rheol presennol synwyr,
Sydd yn trefnu i fynnu'n faith
Hynotaf gyfraith natur.

Arth. Os chwi yw'r cyfreithiwr, 'delw'i byth Lanfrothen,
Oni row'n i chwi agos dair a chweigen,
Pe dysgech chwi fine'n dwrne tost,
I ymgred a rhoi côst yn gywren.

'Rwy'n ame pe bawn yn wr o gyfreth,
Y mynnwn diroedd beth didoreth;
Siawns am fod yn gnafus mewn dyrus daith,
Ac ystwrdio, na chawn waith stiwardieth.

Ust. Digon i bawb un busnes parod,
Nid iawn i neb ymgyrredd gormod.

Arth. Wel, dyma'r diawl ei hunan, hai, hwi, hai,
Yn bwrw'r bai ar bechod.

'Does neb fwy'u rhaib a'u barieth,
Na phersonied a gwŷr y gyfreth,
Mi wn y cym'rech pe cae'ch chwi'ch bryd
I'ch rhan yr holl fyd ar unweth.


Dyma chwi â'ch cyfreithie a'ch papure parod,
Wedi dwyn yma'n erwin feddianne mân aerod,
Ac yspeilio llawer gŵr bonheddig da,
Drwy'ch dewrder a'ch awdurdod.

A pheth yw'r ymrysone sy rhwng personied,
Am y degwm a'r eglwysi, nid oes neb mor glosied,
Tri lle neu bedwar gan ambell un sydd,
Fel y mae'n gywilydd gweled.

Ust. Wel, beth am danoch chwithe'r hwsmyn,
Onid y'ch dueddol i fwy nag un tyddyn;
Mae trachwant Adda, trecha' tro,
Ym mhawb, 'rwy'n coelio,'n canlyn.

Arth. Wel, dyma ni heb fedru,
Ond hau, a chau, a phlannu,
A chwi a'ch bath yn hel tir pob man,
I ddwyn ein rhan er hynny.

Y cyfreithwyr a'r personied,
A r siopwyr a'r apothecaried,
Yn dwyn hynny allont o diroedd cu,
I'w gwinedd, gael gwasgu'r gweinied.

Ac os bydd gŵr mawr a chanddo fater,
Fe'i caiff ef mewn gafel ar ei gyfer;
Ond am ddyn tlawd, O! sa' di'n ol,
Mae hwnnw'n rhy ffol o'r hanner.

Och! faint o diroedd sydd wedi myned
Yn union i'r un sianel a thir yr hen Sioned:

.
Ond ni chuddir Dyffryn Clwyd â mŵg y dre',
Daw melldith i'r gole i'w gweled.

Ust. Pechaduried y'm ni o'r taera,
Bob swyddog er oes Adda,
Nid oes di fai a sai' yn dêg
I daflu carreg gynta'.

[Diflanna.

Arth. O, cais fynd mewn cyffro,
At y gyfreth 'rwyt ti'n gwefrio,
Am ysbio mantes a chael gwall
Ar ryw ddyn dall i'w dwyllo.

Chwi a glywsoch yma ar gyfer
Yr esgob a'r ustus yn ffrostio'u gwychder,
Mai nhw sy'n trefnu ac yn plannu i'n plith
Y fendith a'r cyfiawnder.

'Roedd un yn bostio'i weddi a'i bregeth,
A'r llall mor gyfrwys yn bostio 'i gyfreth;
Ond y fi raid weithio a ffwndro'n ffest,
Gael talu am eu gorchest heleth.

Er eu bod hwy yn ymddyrchafu,
Bob un yn hollawl yn ei swydd a'i allu;
Gwaith yr hwsmyn sydd ar dwyn
Yn eu dal hwy'n fwyn i fyny.

Beth bynnag a fyddo beunydd
O g'ledi arnynt hwy trwy'r gwledydd,
Yr hwsmon truan ym mhob tre'
Raid ddiodde'r coste a'r cystudd.


Os digwydd bod rhyw helyntion,
Neu ymddigwd rhwng boneddigion;
Hwy daflant y cwbwl drwbwl drefn,
Mor esmwyth, ar gefn yn hwsmon.

[Ymddengys Rhys

Rhys. Pwy sydd yma mor ddigysur,
Yn erthwch, ai chwi yr hen Arthur?

Arth. O! dos oddiyma, a thaw a son,
Mae'n swga gen i ddynion segur.

Rhys. Och fi! wr, pa beth a'ch cynhyrfodd?
Mae rhywbeth yn eich moedro chwi yn eich ymadrodd.

Arth. O! gofid y byd ac amryw beth,
Yn lanweth a'm creulonodd.

Och! pe clywsit ti gan daclused,
'Roedd yr esgob a'r ustus yn ymffrostio'u gweithred,
Ac yn dweyd mai nhw, trwy'r byd yn glau,
Sy'n ethol, y ddau benaethied.

Ond y fi'r hwsmon gwirion goryn
Sydd ddydd a nos mewn gofid dygyn,
Yn gorfod, er maint eu braint a'u bri,
A'u trawsder hwy, dalu trostyn'.

Rhys. Wel, nid wrth ei phig mae prynnu cyffylog,
Ac ni wiw gyrru buwch i ddal ysgyfarnog;
Gwell i bawb y drwg a wypo'n llwyr
Na'r drwg nis gŵyr yn wasgarog.


Gan hynny, 'r hen wr hoew,
Gadewch gael chwart o gwrw;
Ni gawn ymgomio a swnio heb sen
Yn hynod uwch ben hwnnw.

Arth. Nid ydyw'r byd yn fforddio
Yr awrhon i mi fawr wario;
Ond nid a'i am beintyn sydyn syth
Yn ddigalon byth i gilio.

Rhys. Ni phrisiwn i ddraen fy hunan
Er eich tretio o werth un rotan.

Arth. 'Does dim i'w ddweyd, 'rwyt ti'n ddi feth,
Rhaid adde, 'n gydymeth diddan.

Rhys. Dyma at eich iechyd da chwi a minne.

Arth. Diolch yn fawr, mi yfa' 'ngore;
Fel y gallwy' ddisgwyl rhwydd-deb cry,'
Yn rhwyddach i werthu'r heiddie.

Mae gennyf dros gan' hobed
O haidd wedi rhuddo, nid eiff byth cyn rhwydded:
Oni fedra'i'n rhywle gael cyfle cu
I lechian, a'i werthu'n wlychied.

Rhys. Hawyr bach! ni fu 'rioed beth hawsach,
Cym'ryd llafur da'n batrwm, pe b'ai'r llall butrach.

Arth. O, mi wn y cast er's meityn byd,
I ymadel âg yd afiach.


'Ran felly y gwela'i mewn tywyll a gole,
Bawb ag a allo'n twyllo'n mhob tylle;
Maent hwy'n gweled hynny'n fusnes da,
Ar f'einioes, mi gogiaf finne.

Rhys. O! tric nêt iawn i gogio'r ecseismon,
Rhoi'r sache a'r haidd wrth raffe yn yr afon,
Nid ydyw gwyr y North am dwyllo'n wir
Wrth y Deheudir ond rhyw hedion.

Mae nhw yno ddydd Sul mor berffeth,
O gwrdd i gwrdd, o bregeth i bregeth;
Ar fore ddydd Llun, nid oes dim a'u gwellha,
Hwy fyddant yn gafra am gyfreth.

Mae rhai yn dwyn defed, a'r lleill yn bragu,
Rhai erill yn infformio, ac yn swnio achos hynny;
'Does dim o'r fath ladron croesion crach
A gwyr Mynydd Bach am bechu.

Arth. Maen' nhw'n ymhob man, 'rwy'n coelio,
A'u hewyllys bawb 'nol a allo;
Anfynych y ffeindir un glân di-feth,
Wrth ddirnad, heb rywbeth arno.

Rhys. Wel, yfwch i gadw'ch calon,
At iechyd da pob hwsmon.

Arth. Onibai'n bywyd a'n hiechyd ni,
Mi wn, byddech chwi'n o feinion.


Rhys. Gadewch heb rwystr eiste,
Mae digon o godiad ar gatal ac yde;
Chwychwi a'ch ffasiwn, hyn o dro,
All fforddio gwario o'r gore.

Arth. O, rhaid i mi edrych beth a wnelw',
Pe gwydde 'meistr tir 'mod i yn cadw twrw,
Fealle y code fo bum punt yn y man
Ar fy nhyddyn o ran heddyw.

Rhys. Ha fab, rhag c'wilydd, 'dwy'i ddim yn coelio,
Mae amser i alaru ac amser i ddawnsio.

Arth. Oes, amser i bob amcan, mi wn fy hun,
Ond doeth ydyw'r dyn a'i hadwaeno.

Rhys. A oes ini amser beth yn ngweddill,
Y gallem ni heb anair ganu yma bennill?

Arth. Neb a wnelo heb anair un ffafr yn ffest,
Fe fydd iddo orchest erchyll.

Rhys. Wel, canwch chai gerdd i ddechre,
Ac yna'n fwynedd mi ganaf inne.

Arth. Dyna ben, mi ganaf gerdd fy hun,
Ni wn i fawr, fe ŵyr dyn, ar danne.

Rhys. Wrth gofio, dewch ac yfwch,
Ac yna'n well chwi genwch.

Arth. Dyma at ein hiechyd ni bob un,
Yr hwsmyn dygyn degwch.


Mi ganaf yma bennill cryno,
O glod i ni'n hunen heno,
Nyni yw'r dynion dewrion dw',
Er maint maen' nhw'n ei frolio,—


(Alaw—"PRINCE RUPERT.")

"Yr hwsmon mwyn rhadlon hyfrydlon ei fryd,
Sy'n haeddu'i ddyrchafu a'i barchu trwy'r byd,
Er bod i'r brenin barch a braint,
A'r esgob enwog swyddog saint,
Mewn pwer foddus pwy ŵyr faint, pur fantes eu byd;
A'r ustus mawr ei ystyr,
A'r cownslors a'r cyfreithwyr, sy'n brysur eu bryd,
Trwy'r hwsmon a'i drafel mae'u gafel nhwy i gyd.

"Ond llafur yr hwsmon, wr esmwyth ei ryw,
Sy'n cynnal y brenin a'i fyddin yn fyw,
Efe sy'n llanw eu dannedd dig,
A'r bara, a'r caws, a'r bir a'r cig,
Pob lleidr balch â'n llwyd ei big, heb aredig i'r ŷd,
Gan yr hwsmon mae trinogeth,
Llin, gwlân, a holl raglunieth bywiolieth y byd,
Trwy'r hwsmon a'i drafel mae'u gafel nhwy i gyd.

"Yr esgob a rwysgant a'i ogoniant i'w gôt,
Rown i, onibai'r degwm, am ei reswm ef rôt,
Ac yntau'r deon fwynlon fant,
A'r offeiriadon chwerwon chwant,

Ar gefn y plwyf maen' hwy a'u plant, a'u holiant o hyd,
Mae'n rhaid i'r gweilch bon'ddigedd,
Gael bara dan eu dannedd o rinwedd yr ŷd,
Trwy'r hwsmon a'i drafel mae'u gafel nhwy i gyd.

"Efe yw tad-bedydd pob gwledydd yn glir,
A phen pob celfyddyd rhai diwyd ar dir,
Rhaid i bob crefftwr gweithiwr gwan,
Ymofyn yr hwsmon iddo'n rhan,
Ni all neb fyw mewn tref neu lan, heb lunieth mewn pryd,
Digonedd o haidd a gwenith,
Sy'n porthi pob athrylith â bendith mewn pryd,
Trwy'r hwsmon a'i drafel mae'u gafel nhwy i gyd."

Rhys. Wele, moliant i hwch Bryn Mulan,
Oni thawodd y gŵr a geran,
Pwy fuase'n disgwyl ei fod o,
Mor hynod am ei frolio'i hunan?

Arth. Wel, brolied pawb ei ore,
Mi ddywedes i'r gwir bob geirie.

Rhys. Os oes i bawb ganmol ei waith ei hun,
Rhaid i minne'n ddiddychryn ddechre,—

(Alaw—"SPAIN WENDDYDD.")

"Wel, teimled a barned pob un,
'Rwy'n chwennych gwneyd heddwch cytun,
Pa fodd y gall hwsmon gael lles,
Er cymaint ei rinwedd a'i wres,

Beth fydd e'n nes wrth feddu'n wir
Anrhydedd teg o ffrwythau tir,
Onibae fod gwlad faith râd a thref
Yn treulio'i foddion unicn ef?

A pheth a wnai'r hwsmon dan 'rhod,
Heb frenin a byddin yn bod,
Dysgawdwyr a sawdwyr i'w swydd,
Rhag blinion elynion di lwydd?
Y rhei'ny'n rhwydd wnai aflwydd noeth,
Yn neutu'r byd â'u natur boeth,
Onibai penaethied nerthol glau,
Ni fydde un heddwch î'w fwynhau.

"A'r ustus, ŵr trefnus bob tro,
Sydd berffeth a'i gyfreth i'w go',
Yn taeru, ac yn rhannu 'mhob rhith,
Gyfiawnder, mewn plainder i'n plith:
Neu bydde melldith ym mhob man,
Lledrata a lladd trwy dref a llan,
Oni bai fod cyfraith araith wir,
Hi ai'n anrhaith hwyl ar fôr a thir.

"Mae pob galwedigeth ar dwyn,
Wedi'i threfnu a'i sefydllu'n bur fwyn
Fel cerrig mewn adail hwy wnan',
Yn y murie rai mawrion a mân,
Pob un yn lân a geidw le,
I glod a thrinieth gwlad a thre',
Pob swydd, pob sail, pob dail, pob dyn
Sy'n dda'n ei hardd sefyllfa'i hun.


"Mae'r deyrnas mewn urddas a nerth,
Gwedi'i rhol fel un corff lanw certh,
Yn y pen y mae'r synwyr a'r pwyll,
A'r galon yw'r golwg ar dwyll;
Y pen yw canwyll, cynnydd maeth,
Aelodau'r corff a'u lediwr caeth,
Mae'r dwylo a'r traed mewn daliad drud,
A'r bysedd bach tan bwyse'r byd.

"Nid alliff, deallwch, un dyn,
Fyw'n gryno yma heno arno'i hun,
Rhai'n barchus, neu drefnus iawn draw,
Rhai'n weinied yslafied islaw,
Pob un a ddaw a'i ben i'r ddôl,
Yn ol sefyllfa rhedfa rhol,
Fel cocys melin wedi rhoi
Rhwng ffyn y droell i'w phwnio i droi.

"Gan hynny 'rwy'n deisyf ar bob dyn,
Na ymffrostied yn ei alwad ei hun,
Ni ellir byw'n ddifyr ddi-wall
Mewn llwyddiant, y naill heb y llall;
Ow! barna'n gall, pwy bynnag wyd,
Fod rhaid i'r adar mân gael bwyd,
Mae pob sefyllfa a'i gyrfa'n gaeth,
I ogoneddu'r Hwn a'i gwnaeth."

Arth. Wel, iechyd i'th goryn gwrol,
On'd oedd gennyt ti gerdd ryfeddol?
Ni wn i, pe buase hi yn llawer lle,
Na wnaethe o'r gore yn garol.

Rhys. Wel, barned pawb o'r ddeutu,
Na chures i chwr ar ganu.

Arth. Ie, canmol dy waith wnei di yn dy wŷn
Nis gwn i fy hun mo hynny.

Rhys. Dyma at eich iechyd da chwi a minne,
Ni a yfwn gwrw, pwy bynnag oedd y gore.

Arth. Yn wir, mae arna i syched glân
Wrth wrando ar dy gân di gynne.

Rhys. Yfwch ddracht yn harti,
Hi wneiff i chwi ddinam dd'ioni.

Arth. Pe'r yfwn i gwrw cryf y King's Head,
'Wnai damed o niwed imi.

Rhys. 'Wnai gwrw yn y byd i chwi mo'r meddwi,
A chwithe'n wr â chorff cry' lysti.

Arth. Wel, ni phrisiwn i byth yma flewyn pen,
Pe gwariwn heb gynnen gini.

Rhys. Pam y rhaid i chwi mo'r hidio,
A chennych ar eich tyddyn gyment eiddo?

Arth. Oes, mae gen i stoc dda, ac aur yn fy nghod.
Moes i mi ddiod eto!

Och! Beth fyddis nes er rhyw ddyferyn,
Dewch a dau chwart ar unweth, ni phery hyn ronyn;
Beth, codi i dendio'r ydych chwi,
Mae Cadi neu Fari'r forwyn?


Gan ddarfod i mi fynd i'm hafieth,
Mi fynna' wneyd yma ryw lywodreth,
Yr awr geir yn llawen, 'cheir mo honno'n brudd,
Mi fynnaf inne lawenydd unweth.

Beth glywes i ddweyd wrth gofio,
Ond fyddi di weithie yn dawnsio?
'Rwy'n ame dy weld gyda Neli'r Clôs
Ryw gyda'r nos yn hasio.

A ga'i gennyt roi yma dro go fychan,
Mi a fum yn ddawnsiwr glew fy hunan,
Ond mae'r byd yma'n sobri dyn ym mhob swydd,
Fe ddarfu'r awydd rwan.

Rhys. Wel, i'ch plesio chwi, mi ddawnsia i ngore,
Tyred y cerddor, hwylia dithe.

Arth. O! iechyd i'r galon, dyna wych o step,
Ow! tewch â'ch clep, f' eneidie.

Bendith dy fam i ti, 'r Cymro hoew,
Gwaed y garreg! hwde gwrw,
Ac yfa'r cwbwl, y Cymro cu,
Ran 'rwyt yn ei haeddu heddyw.

Rhys. Oni fydde'n ffeind i chwithe'n fwyngu,
Ddawnsio tro, a chwithe'n medru?

Arth. Yr ydw'i am dani hi yn union dul,
Dechreued e'n gynnil ganu.

Dewch â'r hors peip i'ch ewythr Arthur,
A pheidiwch a'i chware hi'n rhy brysur.

Rhys. Dyna i chwi ddyn, awch wydyn chwant,
Yn canlyn y tant yn gywir.
O! iechyd i galon yr hen geiliog,
Dyna step yn c'lymu'n gynddeiriog.

Arth. Ni chlywai'n iawn gan faint y swn,
Mo'r tanne gan y clepgwn tonnog.

* * *

Yn dangos ei fod yn feddw,yn
cysgu,a thoc yn siarad drwy ei hun.

Rhys. Gorweddwch ar lawr y parlwr,
Dyna wely llawer oferwr.

Arth. Wel, cysgu yn y funud a wnaf fi,
Dondia nhw'i dewi â'u dwndwr.

Rhys. Ust! tewch, fy 'neidie, a nadu,
'Dewch lonydd i'r gwr gael cysgu;
O! na wrandewch beth ddwed e', gŵyr dyn,
Mae fe'n siarad trwy'i hun, mi wn hynny.
Wel, ni weles i erioed, mi allaf dyngu,
Un mor afreolus yn ei wely.

Arth. Hai, Robin, dilyn y da yn glos,
Dacw'r eidion yn mynd dros yr adwy.

Rhys. Wel, gan fod yr hen froliwr mor anodd ei riwlio,
Mi a'i gadawaf ar gyfer, boed rhyngddynt âg efo,

Ac a ddiangaf yn siwr heb dalu dim siot,
Fe geiff yr hen got ymgytio.

[Diflanna Rhys.

Arth. Wel, mae gen i feddwl, os byw fydda',
Ddygyd caue Sion Ty Nesa';
Mi gaf yno ddigonedd o frig ŷd,
Fe eiff y farchnad yn ddrud, mi wranta.
Mi gadwa'r ddas lafur hyd Wyl Ifan
Heb ei thorri, mae hi'n gryn werth arian,
Ac mae llofft yr ŷd cyn llawned a dalio;
I ddiawl, oni chasgla'i gan'punt eto.
Holo! gwaed canmil o gythreulied,
Dacw ddrws yr ysgubor yn llydan agored,
A'r moch a'r gwydde'n y llafur glân,
Hai, soch, hwy lyncan sached,
Gaenor, Cadi, Susan,
Dyma helynt hyllig, ceisiwch ddod allan.

[Ymddengys Tafarnwr.

Taf. Hold, 'rhoswch, peidiwch a thorri'r bwrdd,
Ydych yn chwenych mynd i ffwrdd ttw'ch hunan?

Arth. O! bendith fy mam am fy stopio'i dipyn,
Yr oeddwn i wedi gwylltio'n erwin.

Taf. Yr oeddych yu llywio'n ddrwg eich llun,
Ac yn siarad trwy'ch hun er's meityn;
Fe ddarfu i chwi daflu a thorri cadeirie,
Dowch, ceisiwch hwylio i gychwyn adre.


Arth. O, dweyd y gwir i ti sy'n ffrynd,
Mae bwriad gen i fynd y bore.

Taf. Cawsoch bymtheg chwart yn gyson
O gwrw, mae hynny'n goron,
A'ch bwyd hefyd yn costio swllt,
Dyna chwe' swllt yn union.

Talwch y siot heb hir ymdaeru.

Arth. Aroswch, gadewch imi edrych o'm deutu:
Mae'r dyn oedd gyda fi yn hyn o le?
Bydde yn deilwng iddo ynte dalu.

Taf. Os darfu hwnnw ddianc allan,
Y chwi geiff ateb am y cyfan.

Arth. Dyna esiampl i bawb lle bynnag y bo,
I edrych ato'i hunan.

Taf. Dewch, oni thelwch chwi yn y funud,
Cewch dalu rhagor ar fyrr ennyd.
'Da'i ddim i ddadle â chwychwi,
Ond diolch i chwi am eich coegni.

[Diflanna Tafarnwr.

Arth. Diolch i tithe, chwilgi tôst,
Am fwgwth cost mor wisgi.

Nage, glywsoch chwi, bobl glysion,
Goeced oedd yr hangmon:
Mi glywswn arnaf, pan oedd e'n flin,
Roi cic yn ei din e, 'r dynion.


A welwch chwi, dyma'r peth geiff dyn truan,
Ar ol colli'i gôf, a gwario'i arian;
Tafod drwg, a'i alw'n fochyn bo lol,
A'i bacio'n hollol allan.

A phe gyrrwn y wraig neu rywun o'm cartre
I geisio llwyed o'u burum hwy fory'r bore;
Er maint a waries yma'n llym,
Ni chawn i ddim heb ddime.

Ac a weriwch chwi, ffylied garw,
Eich arian i garpie chwerw?
Bydde'n well gennyf o syched farw'n syth,
Nag y carwn i byth mo'u cwrw.

O! yr oedd diawl i'm dilyn,
Aros yma i hurtio 'nghoryn,
'Ngholledu fy hun, a gwneud niwed caeth,
A 'muchedd yn waeth na mochyn.

Nis gwn i pa sut yr a'i adre,
Gan g'wilydd liw dydd gole;
Mae'r wraig er's meityn, wrantaf fi,
Yn rhyw gyrion yn rhegu'i gore.

[Diflanna Arthur.

[Ymddengys Rhywun.

Rhywun. Dyma finne, Rhywun, mawr ei drueni,
'Does neb yn cael mwy cam na myfi;
'Rwy'n gysgod esgus celwydd llydan,
Fwy o'r hanner na'r diawl ei hunan.


Ar ol i rai wneuthur clwt o stori,
A chodi rhwng cymdogion ddrwg aneiri,
Ni bydd gan gelwyddwr ddim i'w wneyd
Ond rhuo mai Rhywun a glywodd e'n dweyd.

Ac weithie geilw rhai fi'n frân,
Ac a godant yn fy nghysgod gelwydd glân,
Fe dyngiff y llall ynte'r mawr lw,
Mi glywes rywbeth gyda Nhw.

Ac felly'n gysgod celwydde coegfall,
Y Nhw fyddai weithie, Bran waith arall,
Weithie'n Hen-wr gan bawb ohonyn,
Gwaetha rhuad, ac weithie Rhywun.

Ac nid yw'r henwe hyn i gyd,
Ond esgus celwydd 'rhyd y byd,
Abwyd cnawdol am fach Satan,
I safio'r drwg i amlygu ei hunan.

O, chwi wragedd y tê a'r ffortun,
Nid oes ond y celwydd yn eich canlyn;
Ow! beth a wneir, pan ddel mewn pwyll
I'r gwyneb y twyll a'r gwenwyn?

A gwragedd y piseri sy'n rhai o'r siwra,
A'r gof a'r melinydd ddylase fod ymlaena,
A'r holl bobl gerdded sy'u dwad gerllaw,
Drwy gamwedd draw ac yma.

A'r gweinidogion ffals eu dygied
Fydd yn achwyn chwedle i'w meistried,
A'r holl rodreswyr fydd yn dwad ar dro,
I ofalus weneithio am folied.


Ac felly trwy'ch cennad, y gynlleidfa,
Os rhynga'ch bodd i wrando arna',
Mi ganaf gerdd i ddeisyt yn ddygyn
Na roddoch ormod ar gefn Rhywun,—


(Alaw—"SPANISH HAVEN.")

"Pob rhyw ddyfeisgar feddylgar ddyn,
A phob ystraeol wagffol un,
A wnelo hyn ohono ei hun,
I daenu gwŷn a gwenwyn;
A phan ddelo ar ffrwst ryw drwst i droi,
Gwneiff pawb esgusion am le i 'sgoi,
Ac felly'r anair a gaiff ei roi
Ar Rywun.

"Mae'n natur hon yn glynu'n rhwydd,
Pan bechodd Adda sertha swydd,
Rhodd yntau ar Efa, llesga llwydd,
Y bai a'r digwydd dygyn;
Ac ar y sarff y rhoddes hi,
A hyn yw'r nod o'n hanwir ni,
Hoff gennym fyth roi'r euog fry
Ar Rywun.

"Gan hynny gwelwn wraidd ein gwall,
Na byddir nes trwy ddyfes ddall.
Er taflu'r llwyth o'r naill i'r llall,
Mewn coegfall oerwall erwin;
Ni chafodd Adda un lle i ffoi,
Fe ddaeth y drwg heb hir ymdroi,
I'w ben ei hun er ceisio ei roi
Ar Rywun.


"Ac felly ninne, f'alle'n wir,
Drwy'r deyrnas hon ymhob rhyw sir,
Ansiriol siarad holiad hir,
A fftydir gan gyffredin;
Mae'r gair dew lid mewn gwir di lai
Fod ar benaethied amryw fai,
Fel hyn mae barn gan bob rhyw rai
Ar Rywun.

"Ond wedi'r cwbl drwbl drud,
O'r chwyrnu a'r barnu sy'n y byd,
Daw'r amser pan grynhoir ynghyd
Bob dirfawr fryd i derfyn;
Pan fo'r gydwybod flin yn cnoi,
'Cheiff esgus ffals un lle i ffoi,
Sait pawb i'w tam, ni wiw ei roi
Ar Rywun.

"Gan hynny holed pawb ei hun,
Mae barn, rhag barn, yn dda i bob un,
Cydwybod oleu, ei llwybre a'i llun,
Sydd oreu i ddyn ei ddilyn;
Gwae lwytho arno ei hun glai tew,
Ni all llewpart newid lliw ei flew,
Pan d'wyno'r haul fe dodda rhew
Dydd Rhywun."
Ni chana'i chwaneg, nosdawch heno,
Dyma gysgod y celwydd yn awr yn cilio,
Rhaid i bawb syfell dan ei faich ei hun,
Ni wiw am Rywun ruo.

[Ymddengys Arthur, yn glaf.

Arthur. Hai, how, heno, 'r cwmni eglur,
Dyma finne dan erthwch, yr hen Arthur,
Yn edrych am le i eistedd i lawr,
Gan fy ngwaew mawr a 'ngwewyr.

Fe'm trawodd rhyw glefyd chwerw,
Yr wy'n ofni y bydda'i marw,
Ow! bobl, bobl, 'does help yn y byd,
I'm tynnu o'r ergyd hwnnw?

'Rwy'n gweled o ben bwy gilydd,
Fy mhechod, a nod annedwydd,
Cydwybod sydd i mi'n traethu 'nawr,
Fy nghastie, mae'n fawr fy nghystudd.

Dacw'r defed a ddyges, mi wn tros ddeugen,
Yn rhedeg 'rhyd y llethr, a dacw'r pec a'r llathen,
Dacw'r ŷd budr yng ngwaelod y sach,
Dacw'r pwyse bach aflawen.

Dacw'r llaeth tene, O! 'r felldith donnog,
Werthasom ganweth ddau chwart am geiniog;
A'r mân-yd yn y brith-yd, sy'n brathu fy nghalon;
Mi wnes gam diawledig â phobl dlodion.

'Rwy'n gweled ar gyfer mewn gofid a chyffro,
Y gweithwyr a'm gweinidogion yn fy melldigo,
Mae'r ofn arna'i bydda'i ar ol mynd o'r byd,
Am bechod o hyd yn beichio.

Ow! oes yma neb a fedr weddio?
Na phregethwr, na doctor, yn hynod actio,

O! nid oes i'm hoedl i fawr o drust,
Ow! physic, 'rwy'i just a phasio.

[Ymddengys y Doctor.

Doctor. O dear heart, you are sick, 'rwy'n cweled!

Arth. O meistr anwyl, ni fu hi erioed cyn erwined!
'Rydwy'i bron marw'n ddigon siwr,
Coeliwch, mewn cyflwr caled!

Doct. Let's feel your wrist, mae pyls chwi cweithio?

Arth. Oes rhywbeth yn ateb bydda'i fyw dipyn eto?

Doct. Yes, yes, I hope you'll come o'r core.

Arth. Iechyd i'r galon, os ca'i fyw tan y gwylie.

Doct. Here's drops for you i lonyddu'ch ysbrydoedd.

Arth. Os bydda'i marw fel 'nifel, 'da'i byth i'r nefoedd.

Doct. Don't be afraid, mae Duw'n trugarog.

Arth. Ni waeth i chwi p'run, 'rwy'n ddiffeth gynddeiriog.


Doct. I'll warrant you'n burion, mi ddof yma'r bore,
To bleed you and bring some more cyffirie,
Cym'rwch a cadwch ddeiet dda,
Yn ddiddychryn hyn yna i ddechre.

[Diflanna'r Doctor.

Arth. Wel, bendith eich mam i chwi, meistr anwyl,
Ond a ddaethum yn well nag oeddwn yn ddisgwyl;
Rhaid gyru at y person i ddwyn ar go',
Am roi gweddi, os bydd eisio, ddywSul.

Os fi geiff hoedl eto'n weddedd,
Mi feddyliaf lawer am fy niwedd,
Ni choelia'i nad ymadawa'i ar frys,
A'm holl afiachus fuchedd.

Mi af i bob cymanfa, lle byddo rhai duwiola,
A rhof elusen i'r tlawd, heb eiriach blawd na bara;
O! hoedl, hoedl eto, i ddarllen a gweddio!
Ow'r amser gwerthfawr rois yn gas, heb geisio gras yn groeso!

Duwioldeb, Duwioldeb, wyneb anwyl!
Tyred i'm dysgu! yr wy'n disgwyl
Y gwnei di fy 'fforddi, mae f' ewyllys yn bur,
'Nol dy archiad, i wneuthur dy orchwyl.

[Ymddengys Madam Duwioldeb Crefydd.

Duwioldeb. Pwy sydd yma, caetha' cwyn,
Yn galw ar dwyn am dana'?



Arth. Hen bechadur heb fod yn iach,
Sydd a'i galon bach yn gwla.

Duwi. Fel hyn bydd llawer hen bechadur,
Pan ddelo clwy' neu ddolur,
Er iddynt son am grefydd sant,
Hwy ant eto wrth chwant eu natur.

Arth. O! Duwioldeb, 'da'i byth i ildio,
Mi ddof i dy ddilyn, pwy bynnag a ddelo;
Ac a wnaf bob rhyw beth a f'och di'n bur,
Drwy gysur, yn ei geisio.

Mi adawaf arian i'r tylodion,
'Rwy'n meddwl fod hynny'n weithred raslon;
Ac mi dderbynia'r pregethwyr gore i'r tŷ,
'Rwy'n bwrw fod hynny'n burion.

Ac mi wna'r peth a fynnir byth yn fwynedd,
Ym mhob rhyw gariad, os ca'i drugaredd;
Gweddied pawb gyda fi hyn o dro
Am iechyd i ymendio 'muchedd.

Duwi. Duw roes glefyd i'th rybuddio,
A barodd i'th gydwybod ddeffro;
Ac yn rhoddi it' dduwiol ras,
Hoff addas i'th hyfforddio.

Arth. Iechyd i'th galon di, Grefydd dyner
'Rwy'n teimlo fy hun wedi gwella llawer.

Duwi. Deui eto'n iachach nag yr wyd,
Am hynny cwyd o'th gader.


Arth. Wel, dyma fi ar fy nhraed yn rhodio.
Y cwmni mwyndeg, 'rwy'n ame gwna'i mendio;
Ni welsoch chwi 'rioed un mor ddi-fai,
Yn ddi ddowt ag fydda'i eto.

Duwi. Gwylia'n odieth ar dy fynediad,
A chymer ofal mawr trwy brofiad;
Os dy ddwylo ar yr aradr a roi fel Paul,
Ni wiw i ti edrych ar dy ol.

Cofia Gain a'i aberth cyndyn
A gwraig Lot a ddarfu gychwyn;
Balam gynt a garodd wobre.
Pob un o'r rhai'n aeth dros y llwybre.

Cofia swydde Saul a Suddas,
Yn rhybudd cymer dymer Demas,
A chofia Agrippa, frenin oerddig,
A ddaeth yn Gristion o fewn 'chydig.

Arth. 'Does dim sy gryfach na duwiol grefydd,
Pe dysgit ti Gaenor, fy ngwraig i, ar gynnydd;
'Rwy'i er's deugen mlynedd 'mynd i 'ngwely 'mlaena',
Ac ni ddywedodd hi weddi erioed, mi dynga.

Mae hi am fynd yn gyfoethog wrth ofalu a gweithio,
Ond ni ddysgodd hi 'rioed na phader na chredo;
Mae gen i fy hun, oni bydda'i'n ddig,
Ryw grap diawledig arno.



Mi fyddwn i erioed yn gweddio rhyw 'chydig,
Wrth fynd trwy ddwr neu ryw ffordd ddychrynedig,
Neu ar fellt a tharane y cofiwn i am Dduw,
Ond bellach byddaf byw'n o bwyllig.

Felly, Duwioldeb, mae gen i rwan
Ryw chwant ac 'wyllys i roi tro tuag allan.

Duwi. Cerddwch, a rhoddwch dro drwy gred,
Cofiwch eich adduned cyfan.

Meddyliwch wrth rodio draw ac yma
Ym mhlith eich pwer mai Duw a'i pia;
Gwyliwch roi'ch calon i garu'ch golud.
Rhag ofn i chwi golli ffordd y bywyd.

[Diflanna Arthur.

Yn ddrych i bechaduried byd
Cadd hwn ei adel am ryw hyd;
Yn awr mi ganaf bennill dygyn,
I hynod ystyr hyn o destyn,—

(Alaw—"SUNSELIA.")

"Pwy heno'n wahanol, ddull dynol, all ddweyd,
Na ddarfu Duw gynnyg yn unig ei wneyd
Yn ddawnus feddiannol o reol ei ras,
Ond ein bod ni drwy bechod yn gwrthod yn gas;
Trwy glefyd a gloes, a llawer byd croes,
Trwy amryw rybuddion, arwyddion a roes;
Mae'n cynnyg oes gwiw i'r gwaetha sy'n fyw,
Rhyfeddwn ei foddion, mor dirion yw Duw.


"Mae'n cynnyg ymwared er trymed ein trwyth,
Rhag torri neu gospi'r ffigysbren di ffrwyth,
Mae'n erfyn caei blwyddyn er sugyn i'w sail,
Gan gloddio i'w adfywio, ac anturio rhoi tail;
Ac yna os drwg wawr a fydd, er poen mawr,
Y farn a'r gair taeredd yw, Torr ef i lawr!
A hon yw'r farn ffri. O! crynwn mewn cri,
Rhag ofn mai rhai diffrwyth mewn adwyth y'm ni."

[Ymddengys Arthur wedi myned yn iach.

Arthur. O! nid wyf ddim am gynnwys yma dduwiol ganu.
Llawer brafiach clywed lloie'n brefu,
Ac yn lle darllen a gweddio'r nos ar led
Mwyneiddiach gen i weled nyddu.

Duwi. Ow, ddyn truenus, gresynus anian,
Mae'n drist yr awel, a dro'ist ti rwan?

Arth. Beth bynnag a drois, ni chewch chwi'n drwch,
Mo'ch 'wyllys, cerddwch allan.

Duwi. Onid i mi mae'r addewid hynod,
O'r byd sy 'nawr, a'r byd sy i ddyfod?

Arth. Ni ches i o fantes wrth dy drin,
Un difyn, dal dy dafod.

Duwi. Wel, beth a ddarfu i chwi gynne addo?

Arth. Trymder fy nolur bâr im' siarad dan fy nwylo.


Duwi. I b'le 'r eiff eich ened, meddyliwch hynny?

Arth. Mi gaf amser i fyfyrio ar ol y fory.

Duwi. Och! beth a wnei di, ddyn anraslon,
Pan ddel dy ddiwedd, gwannedd gwynion?

Arth. Beth a ga'i? Ond boddloni heb goll
I'r un digwydd a'r holl gymdogion.

Duwi. Gwae, gwae di, bechadur chwerw,
Unweth yn fyw, a dwyweth yn farw;
Ymroi i gysgu ar dy sorod,
'Nol deffro unweth dy gydwybod.

Ti addunedest ger bron Duw,
Gwellhait dy fuchedd os cait fyw,
Yn awr troi 'nol i'th hen ffieidd-dra,
Fel hwch i'r dom, neu'r ci i'w chwydfa.

Y gŵr a gerydder yn fynychol,
Ac a g'leda ei watt annuwiol,
A ddryllir yn ddisymwth ymeth,
Fel na byddo meddyginieth.

[Diflanna Duwioldeb.

Arth. Wel, hawdd ganddi hi brablan a breblian,
Ni wiw i mi wrando pawb yn lolian,
Rhaid i mi bellach flaenllymu'r ddwy big,
A chodi yn o hyllig allan.


Nid oedd ond ffoledd a gofid calon
I mi fynd yn dduwiol ymysg rhyw Iddewon!
Yr ydwy'n meddwl nad oes gan neb fel fi
Gasach llancesi a gweision.

Nhw' dyngan' ac a regan, gan guro ac ymrwygo,
A ddryllio'r gêr o'u cwmpas, yn dawnsio ac yn campio,
A gwych gan eu calonne chware ambell wers,
O cric mi hers a horsio.

O! 'roedd acw helynt drwg anaele,
Tra fum i yn sal er's dyddie,
Hwy wnaethon' hefyd enbyd ŵg,
Mynn Elian, i mi ddrwg anaele.

Fe aeth dau lo bach i ollwng trwyddyn',
Ddim byd ond o ddiogi edrych atyn',
Ac ni choeliech chwi byth, y cwmni ffraeth,
Mor wachel yr aeth un mochyn.

A bu farw un hesbwrn, yr ydwy'n hysbys,
Mewn mieri yng nghaue Morys,
Ac ni fu wiw 'rwy'n siwr gan Gaenor na Sian
Fynd yno i ymg'leddu na chroen na gwlan.

'Roedd y gweision a'r gweithwyr oll am y gwaetha,
Heb ronyn o fater ond cysgu neu fwyta;
Fe aeth y coffor a'r blawd, Och fi, cyn waced,
A dacw gasgen o ymenyn dest wedi myned.


'Rwy'n ame'n ddigysur y rhoison' hwy gosyn
I'r hen awff hurtedd a fydde'n dweyd ffortun,
Mi a'u clywes yn siarad ac yn cadw syrwrw,
Fod honno'n ymleferydd y byddwn i farw.

Ac nid ydwy'n ame llai mewn difri',
Nad oeddynt hwy'n erfyn i mi farw i 'nghrogi;
Roedd fy nghlocs gan un o'r llancie'n y domen,
A'r llall yn dechre glynu yn yr hen wasgod wlanen.

Ac felly ni choeliech chwi, 'r cwmni enwog,
Hynny o greulon golledion llidiog,
A gefes i tra fum yn sâl,
Fe gostiodd imi dâl cynddeiriog.

Ac mi fum cyn ddyled ag addoli,
A hel pregethwyr acw i floeddio ac i goethi;
A garw'r cwrw a'r bara gwyn cann
A aeth yn rhan y rheiny.

Ac 'roedd gennyf botel frandi,
Fe lyncwyd hwnnw i'w grogi,
A cheirch i'w ceffyle hwy, hyn a hyn,
Onid oeddwn i'n cryn greuloni.

Hwy fwytason' beth anaele,
Rhwng bacwn, biff, ac wŷe;
Siawns ond hynny don' nhw i'n tŷ ni,
I goethi mo'u pregethe.

Yr holl gwmffwrdd calon ges i oddiwrthyn'
Oedd dangos fy nhŷ, a'm stoc, a'm tyddyn,


A llawnder fy ydlan, wiwlan wedd,
'Roedd hynny'n rhyw rinwedd ronyn

Ond ar draws yr holl rinwedde,
'Roedd diawl yn y tylwyth gartre';
Ni choeliech chwi byth, am nonsens ffô!
Hynny ddaeth ar f'ol i o filie.

Fe ddaeth acw fil oddiwrth y siopwr,
Am friws a sena, nutmeg a siwgr,
A bara gwyn, a biscuits, pan oeddwn yn wan.
A gafwyd gan y pobwr.

Ac fe ddaeth acw gyfrif gerwin,
Rhwng raisins, wine a white-wine,
A phob rhyw licier, a syber saig,
Fydde wrth fwriad y wraig a'r forwyn.

Hwy garieut acw'n gywren,
Yn f'enw i'r peth a fynnen';
Hwy'm cym'rent i'n esgus dilys dw',
Ac a lyncent hwnnw'u hunen.

Ni ddyfethes i yn ty nghlefyd,
Erioed gyment ag maent hwy'n ddywedyd;
Ond mi deles lawer yn mhob lle
O achos eu bolie bawlyd.

Ond mae'n debyg fod arna'i eto gyfri',
Gwmpas hanner coron i'r apoticeri,—
'Rwy'n foddlon i dalu hynny fy hun,
Fe wnaeth y dyn beth d'ioni.

[Ymddengys Doctor.

——————————————

MYNWENT YR EGLWYS WEN.
(Darlun gan S. Maurice Jones.)

"Pan fo chwi byddar yn eich beddau,
Tan odlau Twm o'r Nant."

Gwelir croes ar fedd Twm o'r Nant.

——————————————


Doctor. How do, 'rhen corff, daru'ch mendio'n clyfar?

Arth. Yr ydwy'n abl grymusdeg, bendith Huw i chwi, mistar.

Doct. Mae'n ta gen' i'ch cweled ch'i mor hearty.

Arth. Mi fyddwn yn iachach pe cawn dalu ichwi.

Doct. Here's a bill for the whole cost.

Arth. Wel, gobeithio nad ydych chwi ddim yn dôst.

Doct. The total sum one guinea and a half.

Arth. Aroswch, gadewch i mi edrych yn graff!
Y gini a hanner am gyn lleied a hynny?
Ai diawl a welodd etifedd y fagddu!
Dos oddiyma, leidar, gyda dy ledieth,
Onide, mi dala' i ti am dy hudolieth.

Doct. Wel, mae ceny' ffordd i godi'm cyflog,
Mi fynna'i cael nhw ar fyr bob ceiniog.

[Diflanna Doctor.

Arth. Ni chei m'onynt o'm bodd i,
Wyneb ci cynddeiriog.

Nagê, glywsoch chwi 'rioed, fy eneidie,
Y ffasiwn ddigywilydd gole?

Gofyn gini a hanner, â'i safn ar led,
Yn grôg y bo! am gan lleied siwrne.

Ni chefes i o'i ddrugs a'i gelfi dygyn,
Erioed werth deunaw, pe ba'i fo wrth dennyn;
Mi feddylies y buase yn hyn o le,
Hanner cofon o'r gore i'r ceryn.

Yn lle hynny dyma gini a hanner,
Fydd raid imi dalu ar fyrder,
Er i mi wylltio a mynd o'm co',
Mi wranta mynn e' eto'i fater.

Ond ni choelia'i nad â'i tuag adre' bellach,
Mi fydda' o hyn allan am y byd yma'n hyllach;
Mi wna i bawb ganlyn ar eu gwaith,
Mi lainia, ac mi â'n saith greulonach.

[Ymddengys Angau.

Angau. Stop you, old man, you are to be dead.

Arth. Ni fedra'i fawr Saesneg, beth ddywed e', Ned?

Ang. You've refused to take warning, but now you shall see.

Arth. Wel, mae ganddo ryw drwbwl, 'rwy'n meddwl, i mi.

Ang. Now it is too late to prepare yourself.


Arth. 'Rwy'n ofni mai baili mewn difri ydyw'r delff.

Ang. Now in short time to death you are debtor.

Arth. Mi waria ddegpunt cyn talu i'r Doctor.

Ang. Thou shall soon go to eternal life.

Arth. Fydde'n well i'r gwaich coeglyd gym'ryd hynny geiff.

Ang. I'll stay no more to keep you company.

Arth. Wel, garw ydyw'r Saeson am siarad yn sosi.

Ang. I have put my hand through my heart and breast.

Arth. Beth sy fynno'r rôg â fi mwy na'r rest?
O! mae diawl yn ei 'winedd, fe daflodd ei wenwyn,
'Rwy'n clywed fy hun yn crynu bob gronyn.

Ow! dyma fi 'n awr yn fy rhyfyg annuwiol,
Fel wedi cael fy nharo'n farwol!
Ow! Ow! pobl Dduw a ddarfum i ddibrisio,
Ni haeddwn i ond diawlied i fod tan eu dwylo.

O! meddyliwch, ddynion, am eich hir artre,
Fe fu rhai ohonoch chwi mewn clefyd fel finne,

Ac ar ol codi allan, yn pechu'n syth,
Heb deimlo byth mo'r pethe.

Ow'r hen bobl! os yw rhai ieuenc heb wybod,
Fe ddylech chwi feddwl fod eich oes bron a darfod,
Ac fealle lawer gwaith wedi bod yn sâl,
Dyma heno i chwi siampal hynod.

Felly ffarwel i chwi i gyd ar unweth,
Chwi wyddoch nad yw hyn ond rhyw act neu chwar'yddieth:
Ond ni bydd gan Ange ond chware prudd,
Chwi welwch, ddydd marwoleth.

[Diflanna Arthur.

[Ymddengys Rhys.

Rhys. Wel, rhwydd-deb i bawb lle rhodio,
Os bydd meddwl gonest ganddo,
Ni ŵyr llawer un gychwyno'n ddi-rôl,
A ddaw e yn ol ai peidio.

Mae oferedd ymhob rhyw fwriad,
Sydd yn y byd mewn treigliad,
Gwagedd ac oferedd yw cyfoethog a thlawd,
Pan fo diwedd pob cnawd yn dwad.

Rhaid i bob llestr mawr a bychan,
Sefyll yn hynod ar ei waelod ei hunan;
Fe dderfydd y cynnwr' a'r dwndwr dall,
Sy gan y naill ar y llall y rwan.

Er bod bai ar bawb, o frenin i gardotyn,
Ei faich ei hunan geiff pawb o honyn,

Pan fo'r gydwybod yn fyw a'r tafod yn fud,
Ni wiw treio dwedyd Rhywun.

Tyrd dithe'r cerddor, 'rwyt ti'n un corddyn,
Gwych gennyt lechu yng ngbysgod Rhywun,
Fe roed arno lawer sached swrth,
O gelwydd wrth dy ganlyn.

Wel, ni waeth i mi hyn o ffwndro,
Mae rhai wedi blino'n gwrando,
Nid oes gennyf finne, yn ol coethi cy'd,
Fater yn y byd er peidio.

Ond, begio'ch pardwn chwi beidio a chynhyrfu,
Mae eto gân ddiddan, ac yna ddiweddu,
Dymuned ar bawb sy am wrando'n glos,
Yn bresennol aros hynny,—


Y Diwedd-glo, ar "GREECE AND TROY."

"Pob diwyd doeth wrandawydd,
Sy'n profi'n bur bob arwydd,
Gan ddal mewn synwyr dedwydd
Yr hyn sy dda;
Mae lle i gael trwy deimlad,
Fel gwenwyn mewn gwahaniad,
O lysie gwael, heb syniad,
A leshâ!
Doethineb Duw mae'n eglur,
Sy'n dysgu pob creadur,
Yn ol natur yma i wneyd;
Pob peth sydd fel o'r dechre,
'Nghylch cadw eu hen derfyne,
Ond dyn yn ddie, gallwn ddweyd;

Fe wnaeth y doeth Greawdydd
Y byd o bedwar defnydd,
A'i hylwydd law ei hun,
A thrwy ei ragluniaethe,
Mewn rheol ddynol ddonie,
Y byd ordeinie ar bedwar dyn.

"Ac wele'r pedwar penneth,
Bu heno mewn gwahanieth,
Rhyw olwg o'u rheoleth,
Yma'n rhwydd,
Mae rhai'n yn wrthddrych eglur
O bedwar defnydd natur,
Dwfr, Daear, Tân, ac Awyr,
Gywir swydd;
Y Dwfr yw'r elfen hyfryd,
'Roedd Ysbryd Duw'n ymsymud,
O hyd ar wyneb hwn,
A theip o'r dwfr yn gymwys,
Yw gweinidogaeth eglwys
Sy'n tynnu'n hardd-ddwys,
Burddwys bwn;
Y Dwfr yw'r elfen ddiddig,
Sy'n llonni'r rhai sychedig
A'i fendigedig wawr;
Mae'n golchi'n budr aflwydd,
Mae'n cario o wlad bwy gilydd,
Mae'n peri budd i'r byd bob awr.

"A'r gyfraith iawnwaith unig,
Sydd deip o'r Tân llosgedig,
I buro pob llygredig
Oerddig wall,

Yn llosgadwy dân cyfiawnder,
O bob sothach, afiach, ofer,
Dylai'r gyfraith fod trwy burder,
Yn ddi ball;
A'r Brenin llaw alluog,
Sydd deip o'r Awyr wyntog,
Mewn arfog lidiog lef,
Mae'n chwythu tymhestlau heibio,
Mae'n gostwng dynion dano,
A Duw a'i nertho dan y nef!

"Wel, dyma'r ddull oddiallan,
Mae'r pedwar penneth anian
Fel peder elfen gyfan,
Yn eu gwaith;
Yr un gyffelyb arwydd,
Yw'r dyfnion bedwar defnydd,
Yn ngrym Crist'nogol grefydd,
Ufudd iaith';
Corff dyn yw'r Ddaear ddiwad,
A'r Awyr yw'r anadliad.
Cynhyrfiad bywiol nerth.
A'r Tân yw'r gyfraith hynod
Sy'n argyhoeddi o bechod,
A'r Dwfr yw'r Efengyl wiwnod werth;
Gan hynny mae'r gair yn dywedyd,—
'Dewch bawb i'r dyfroedd hyfryd,'
Mae'r bywyd yma ar ben;
Er son am bob helyntion,
Adnabod ffyrdd ein calon,
Sydd reitia' moddion i ni, Amen."


Nodiadau[golygu]