Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)/Y Galon Ddrwg

Oddi ar Wicidestun
Olwynion Dwfr Melin Rhuthyn Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)
Corff y llyfr
gan Twm o'r Nant

Corff y llyfr
Pedair Colofn Gwladwriaeth

Y GALON DDRWG.

Gwelwn echrysa golwg,
Gwael iawn ddrych y galon ddrwg:
Calon afradlon o fryd,
Annuwiol heb ei newid:
Calon yw mam pob cilwg,
An-noeth drefn, a nyth y drwg;
Drwg ddi-obaith, draig ddiball,
Pwy edwyn ei gwŷn a'i gwall?

Effaith y cwymp, a'i ffrwyth cas,
A luniodd pob galanas;
Grym pechod yn ymgodi,
A'i chwantau fel llynnau lli;
Glennydd afonydd y fall,
Dengys bob nwydau anghall;
Dîg-ofid yn dygyfor,
Tân a mŵg, fel tonnau môr:
Uffern yw hon, o'i ffwrn hi
Mae bariaeth yma'n berwi:
Ysbyty, llety pob llid,
Gwe gyfan gwae a gofid;
Trigfa pob natur wagfost,
Bwystfilaidd 'nifeilaidd fost:
Treigle a chartref-le trais,
Rhyfeloedd, a phob rhyw falais;
Rhial pob an-wadal wŷn,
Ty ac aelwyd y gelyn.
Meirch, a chwn, a moch annwn,
Sy'n tewhau yn y ty hwn,
Seirff hedegog mewn ogo,
A heigiau dreigiau blin dro.
Pob lleisiau, arw foesau'r fall,
Sy'n dwad i swn deall;

Swn t'ranau, sain trueni,
Swn gofalon greulon gri:
Melin wynt, yn malu'n wâg,
Rhod o agwedd rhedeg-wag;
A'i chocys afaelus fôn,
Yn troi'u gilydd trwy'n galon;
Drylliad, ag ebilliad bach,
Y maen isaf, mae'n hawsach,
Na dryllio, gwir bwyllo i'r bon,
Ceulaidd, drygioni calon,
C'letach a thrawsach ei thrin,
Mewn malais, na maen melin.

Llais hen Saul, a llys hwn sydd,
Fan chwerw, o fewn ei chaerydd.
Ni all telyn a dyn doeth,
Clywn, ennill calon annoeth.

Och! ni byth, achwyn y bo'n,
Wrth goelio, fod fath galon:
Gweddiwn, llefwn rhag llid,
Yn Nuw, am gael ei newid.
Nid oes neb a'i hadnebydd,
Ond gain y Tad, a'i rad rydd;
A'n gair os daw, gwiw-ras dôn,
A dry'r golwg drwy'r galon:
A drwg calon draw cilio,
Amen fyth, mai hynny fo.


Nodiadau[golygu]