Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)/Dau Fywyd

Oddi ar Wicidestun
Darluniau Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen)
Corff y llyfr
gan Twm o'r Nant

Corff y llyfr
Bonedd a Chyffredin

Twm o'r Nant

DAU FYWYD.

(Alaw—"Rodney.")

Y puraidd Robert Parri,[1]
Maddeuwch imi 'mod
Yn awr yn cynnyg gyrru canu,
I geisio clymu clod
I chwi, sy'n byw mewn llawnder,
A'ch pleser, yn eich Plas,
Gyda'ch meibion yn heddychlon,
Heb unrhyw galon gas;
Teulu ydych hoew wladaidd,
Yn byw'n ddifalch ac yn ddofaidd,
Nid hel "Meistr" ac ymestyn,
A champ-godi a chwympo gwedy'n;
Wrth fyw'n gytun at ddaioni
Fe ddaeth mawrhydi i'ch rhan:
Eigion rhediad ac anrhydedd
Yw'ch mawredd yn eich man;
Mae eich maesydd, wych rymusiant,
A'ch 'nifeiliaid, i chwi'n foliant;
Ychen, defaid, a cheffylau,
A da blithog, laethog lwythau;
Pob angenrheidiau 'n rhadus,
A threfnus yma a thraw,

A Duw'r heddwch, mae'n arwyddo,
'N eu llwyddo dan eich llaw.

Maith yma John a Thomas,
Cyweithas frodyr cu;
A da yw'ch golwg chwi,'r hen geiliog,
Awch talog wrth eich ty:
Mae'n hwythau 'n ddynion ethol,
Naturiol ym mhob taith,
A di ynfydrwydd ill dau'n fedrus,
A gweddus yn eu gwaith;
Felly rhyngoch yn llwyr wingo,
Mawrhydi'ch llwyddiant a'ch holl eiddo,
Nes eich myned, hwylied helaeth,
Yma'n degwch i'ch cym'dogaeth;
A chywaeth tai a chaeau,
Sydd i'ch meddiannau'n ddwys;
Fe dâl eich llawnder, a'ch call undeb,
Drwy burdeb aur da bwys:
Rhyfedd fendith, rhyfedd fwynder,
Sy'n ddymunol dan eich maner;
Rhyfedd rhagor chwi fawrhyged,
A m'fi ac eraill yn fegeried;
Chwi ar led mor lydan,
A'ch arian glân drwy glod—
Minnau'n ffwlyn, dwlyn, diles,
Anghynnes, gwag y 'nghod.

Chwi'n magu anifeiliaid,
Moch, a defaid iawn
Gweirgloddiau, a chauau, tai, a'ch heol,
Sy'n llwyddol ac yn llawn:
Minnau dim fagais
At fantais eto i fyw,

Ond lladd ceffylau, dilyn ffoledd,
Anrhydedd oeredd yw:
A'r hyn a fagais o'm rhywogeth,
Mewn twrr o gwynion, oedd tair geneth;
Mae rhei'ny a'u mam mewn dinam dyniad,
Er fy 'mgeledd lawer galwad
Mae'r merched bawb am orchwyl,
Yn ol eu hwyl eu hun,
Yn troi eu helynt at ryw alwad,
A'u teimlad yn gytun;
Eu mam a minnau sydd yn myned,
Fel rhai eraill, ar i wared;
Tua'r bedd mae gwedd ogwyddiad,
Rhieni'n mynd, a'r plant yn dwad:
Mae treigliad asiad oesau
Fel tonnau miniau môr,
Neu ffrwd gyffredin olwyn melin,
Yn dirwyn yn ddi dor.

A chan nad oes mewn bywyd
Un rhydid yn parhau,
Gwnewch o'ch mammon gyfion gyfaill,
Ceiff eraill eich coflau;
Dadgenir hyn ond odid,
O'ch plegyd chwi a'ch plant,
Pan f'o chwi byddar yn eich beddau,
Tan odlau Twm o'r Nant;
A'r hyn o gysur wy'n ei geisio,
Ni ddymunwn feddu mo'no,
Oni cheir e'n gwbl fodlon,
Heb un gilwg yn y galon;
A'ch rhoddion os cyrhaeddaf,
Cyhoeddaf chwi o hyd;

Ac os y bennod ni dderbynia',
Nis gwn a fyddai'n fud:
Cerdod wlan yw 'nghân a 'nghwynion,
Am hynny gwyliwch dorri'ch calon;
Mae rhagor didwyll rhwng cardode,
A hyn chwi wyddoch, rhowch a wedde':
Ac oni rhowch o'r achos,
Ni wiw mo'r dangos dant,
Fe fu fwy dychryn ar y dechrau,
Na hynny, 'n ochrau'r Nant.

Ond Nant a'i cheunant chwannog,
Sy'n lle afrywiog fri;
Pe rhoech o'ch gog'yd lwyth eich gwagen,
Ni lanwe'i hagen hi;
Pe b'ai ond sych ben sached,
O wyched fydde'i wawr,
Ceid y teulu i gyd at olud,
A'u llwyrfryd i'r droell fawr;
Mi gawn frethyn cryf i'r eithaf,
Imi'n goat erbyn gaeaf;
Gallwn addo i'r wraig mor haw'gar,
Eto fantell at y fentar—
Dull anwar ydyw llunio,
Ag addo o'ch eddo chwi;
Mawrhygu rhoddion cyn y caffon'
Llawenydd cynffon ci;
Pe'ch holl rodd o fodd a fydde'
Ond briwsionyn at bar 'sane',
Mwy fyddai hynny i'w feddu'n foddus
Nag a haeddwn ni'n gyhoeddus:
Ffarwel yn bwyllus bellach,
Fe dderfydd afiach wên,
Gwisgiad gore', gras cyn ange',
I chwi a minne', Amen.


Nodiadau[golygu]

  1. Cerdd a wnaeth T. Edwards, o’r Nant, i Robert Parry Plas yn Green, i ofyn gwlan.