Wat Emwnt/Glannau'r Afon
← Ranters, Mawr a Bach | Wat Emwnt gan Lewis Davies, y Cymer |
Yr Ysgol a'i Hysgolheigion → |
PENNOD III.
Glannau'r Afon.
ERBYN diwedd y cynhaeaf yr oedd Wat a Dai yn fwy cyfeillgar fyth, ac er yn methu â chytuno ar bwnc pwysig y Ranters, eto â pharch mawr i'w gilydd fel y digwydd yn fynych rhwng pobl a anghytunant mewn un peth.
"Wyt ti'n ffond o bysgota, Dai bach?" ebe Wat wrth ei gydwas un prynhawn ar ddiwedd sgwrs hir.
"Wel, am otw, ma' pawb yn ffond o bysgod, ond be' well wy i o hynny, 'does dim pysgod ar ein bord ni byth. Cawl a lla'th enwyn, lla'th enwyn a chawl yw hi yma'n dragywydd, fel y gwyddoch chi gystal a finna".
"Dai! 'dwyt ti ddim yn arfer bod yn dwp. Ffond o bysgota 'wetes i, nid ffond o bysgod.
"O, 'rwy'n gweld. Wn i yn y byd beth i'w 'weyd, 'rown i'n ffond o bysgota â phin cam yn Llycad Cynon slawer dydd, ond ni fu gwialen reial genny' yrio'd."
Ġwialen ! pwy sy'n sôn am wialen? Pe dwedet ti bawlen ti f'aset yn nes i dy le. Dere ma's genn' i heno i dreio'n lwc!"
"Heno? Shwd bysgod yw y rheiny sy'n ca'l 'u dala yn y nos ?"
"Twp eto, Dai. Ond, 'm bachan—rhwyd a phawlen yn dala naw neu ddeg o'r beauties ar y tro a rheiny'n tampo ar y dorlan fel bantams. Dyna beth yw pysgota, boy, dim o dy bwtio'r dŵr â gwialen fain, ac ymron rhewi drwy'r dydd ar lan yr afon. Dere heno, Dai, iti gael gweld beth yw sbort yn iawn. Ac fe 'weta iti beth arall-naw c'in'og y pownd am danynt i gyd, fach a mawr. Ti gei di dy shâr fel finna'. Dere mlân!"
"Ond ble ma'r bawlen a'r rhwyd, wela's i ddim un yrio'd gyda chi ?"
"Ha! Ha! y gwir a weta'st! Wyt ti'n meddwl mod i'n 'u catw ar y shelf a'r dresser neu'r lein-press? Ti weli di nes ymla'n fod genny' rai petha' erill heblaw pawlen a rhwyd sy' ddim yn y golwg. Dishgw'l yma, Dai, r'wy'n cretu dy fod ti'n true blue, neu wetwn i ddim gair wrthot ti. Ond popeth yn 'i amser 'd iefa? Pysgota heno a mynd â'r sbort i ŵr Tafarn Cryw nos yfory. Dyna ddyn y naw c'in'og, cofia, ac fe gymerai deirgwaith gym'int a ddal'wn ni unrhyw amser."
"Wel, Wat, fe ddwa i heno i lan yr afon ta' beth, ond ddwa i ddim i'r tafarn i werthu'r pysgod."
"Olreit, Ranter bach, pwy ofynnodd iti dd'od i'r tafarn? Nid y fi 'rwy'n siwr. Ond cofia fod yn barod wrth gefan y scupor ar ol bwydo'r cre'duriaid maes law, 'nei di ? Yna fe ddechreuwn wrth Bwll y Ffynnon."
Gwnaethpwyd fel y cytunwyd. Wedi rhoddi ei gyfran i bob creadur ag oedd yn y beudai a'r ystabl, aeth Dai i'r man cyfarfod y tu of i'r ysgubor. Yno yr oedd Wat eisoes yn ei ddisgwyl, ac wedi ei genglu ei hun â rhaff wair am ei ganol, a chyda chapan yn dyn am ei ben. Ar ei ysgwydd, wedi ei thaflu'n llaes drosti, yr oedd ei rwyd, ac ar y llawr yn ei ymyl gorweddai y bawlen y soniwyd cymaint am dani yn ysgwrs y prynhawn."
Cymer hon, a dod hi dros d'ysgwydd," ebe Wat wrth ei gyd-bysgotwr di-brofiad, gan estyn iddo yr un pryd sach a oedd wedi ei phlygu yn bedwran, "fe fydd dipyn yn o'r i ti ar lan y dŵr, a thithe ddim yn gyfarw'dd. Gad i fi ei chlymu i ti ?"
Wedi hynny o orchwyl, a chodi'r bawlen feinhir yn ei law, "Dilyn fi !" ebe ef, ac i lawr dros y waun hir a hwy ill dau hyd at ymyl yr afon.
Ar dorlan Pwll y Ffynnon eisteddasant am ennyd, ac yna y gwelodd Dai fod i'r rhwyd nifer o gylchau a ymlithrai yn hawdd ar hyd ddeuddeng troedfedd y bawlen. Cylymodd Wat y cylch cyntaf yn ddiogel wrth flaen y meinbren, rhoddodd ys- gydwad i'r rhwyd i'w lledu i'w llawn gwmpas, ac aeth i waered i'r dwfr gan wthio'r bawlen a'r rhwyd a hongiai wrthi, o'i flaen i'r pwll.
Er mwyn i Dai fod a llaw yn y gwaith, yn fwy na dim arall, rhoddwyd y fasged-un fawr, ddofn, o wneuthuriad cartre'—ar ei gefn ef. Pan sicrheid hi yno, gwenodd y llanc am ei helaethrwydd a'i dyfnder, a gofynnodd i Wat os credai y delid ei llond unrhyw amser.
"Wyddo't ti byth dy lwc, machan i," ebe'r gwron hwnnw. Rhan fynycha' mae digon o le'n hawdd ynddi i'r pysgod a ddaw o'r rhwyd iddi, ond cred di fi neu beidio, 'rwy wedi ca'l amsera' nad oedd hi ond hannar digon hala'th. Dyna un i'r rhwyd ishws, a whelpyn lled dda hefyd greta i. Hisht 'nawr, paid â wilia rhacor, neu fe'u tarfwn i gyd."
Tawelwch felly a fu am beth amser hyd nes i Wat ar ol pysgota'r llyn yn llwyr, dynnu ei rwyd i dir yn y man y digwyddai fod Dai yn sefyll arno ar y pryd. Taflwyd y ddalfa i'r dorlan, ac yno oedd y brithyllod (neu y bantams, chwedl y pysgotwr) yn gwingo ac yn llamu ar y glâs. Cydiodd Wat ynddynt bob yn un ac yn un, a chan osod ei fys yn safn pob brithyll yn ei dro, gwasgai y pen yn ol at y cefn fel ag i dorri'r gwddf. Yna wedi dal pob un yn ei law am ennyd fel pe i amcansynied ei bwysau, gosodai ef yng ngwaelod y fasged fawr. Dyma'r whelpyn cynta', mi wna'n llw," ebe fe, gan gymryd a dal pysgodyn neilltuol yn ei law— hanner pownd os yw e' owns, pysgotyn glân digynnig.'
"Ffordd gwyddoch chi mai fe oedd yr un cynta?" mentrodd Dai i ofyn.
"Wrth 'i gic, machan i," oedd yr ateb hynod, "Do's dim fel brithyll hanner pownd am wingo. Mae'r rhai llai yn rhy wan, ti'n gweld, a'r rhai mwy yn rhy bwdwr. Dyna'r s'boniad, medde nhw. Chlywa'st ti mo hynny o'r bla'n, tepig."
"Naddo'n wir !"
Ac fe allai Dai ddywedyd yr un peth am lawer o ddywediadau eraill a glywodd ef y noson ryfedd hon. Oblegid yr oedd esboniad gan Wat ar bopeth.
Wedi dal da mewn ambell i bwll torrai allan yn fuddugoliaethus—"fe wyddwn—shure shot bob tro." Yna am lyn arall, llai ei ysbail, "mae'r gwyddau wedi bod yma o'n blaena', weld di, plâg ar 'u penna' nhw!"
Ac eto, wedi chwarter milltir o bysgota teneu, "wnaiff hi mo'r tro, fe eisteddwn i lawr fan hon, mae'n llwytrewi, ti'n gweld, a 'dyw'r pysgod ddim yn cerad ar y llwytrew. Rhaid inni aros iddi wella tipyn."
Ac ar hyn tynnodd Wat ei getyn allan, ac a'i mwynhaodd gyda blas amlwg. Ond hyn oedd hynod i Dai (er na ynganodd ef air am hynny)—- y foment ag y darfyddodd yr ysmygu, cododd y llwydrew hefyd, a physgotwyd o hynny ymlaen gyda chryn lwyddiant.
Tua hanner nos dychwelwyd i'r ysgubor, gosod- wyd y rhwyd a'r bawlen yn eu lle diogel, ac wedi datgan o Wat fod y ddalfa yn naw pwys yn siwr o fod," dygwyd y pysgod hefyd i le diogel, ac aeth y ddau i fyny i'r ty, pob un i'w wely ei hun.
Nos drannoeth nid oedd Wat i'w weld yn unman am rai oriau, ond wedi ei ddychwelyd gwasgodd dri swllt i law Dai yn dawel, ac a gauodd y dwrn bychan am danynt, heb yngan yr un gair yn y weithred.
"Ond Wat," ebe Dai, fuo i ddim yn y dŵr fel chi."
"Taw â sôn, gyfaill bach," ebe yntau, "fe'th elwas di yn true blue on'd do fe? Wel, paid â chretu'n wahanol am dana' inna' wnei di? gair ymhellach felny mae i fod, Nos Da! Rwy'n rhoi tro am y fuwch dost cyn mynd i'r penllawr."