Wat Emwnt/Llythyr Pwysig
← Cydwybod yn mynnu siarad | Wat Emwnt gan Lewis Davies, y Cymer |
Mynd i Aberhonddu → |
PENNOD XI.
Llythyr Pwysig.
YMHEN tridiau ar ol yr ymgom uchod rhwng y ddau was, bu i Wat gryn gyffro, ar ei ddyfodiad i waered o'r mynydd, o glywed gan Mali'r forwyn fod llythyr iddo ar silff y dresser.
"Ifi! wyt ti'n siwr? I mishtir 'rwyt yn feddwl!" Nace, i ti!—MR. Watkin Edmunds, os gwelwch chi fod yn dda!"
Estyn e' i fi, Mali! ma' nhra'd i'n frwnt i fynd i'r room. Ble ma' Dai?"
"'Roedd e' ar y buarth gynna'. 'Dyw e' ddim ym mhell, MISTER Edmunds!"
"Paid shimplo dy well, MISS Mary Jones! Ond dyco Dai, ar 'y ngair i. Fe whilia i a thi wedi i fi dd'od nol, MISS Jones!"
Aeth Wat allan i'r ystabl, ac wedi dangos yr amlen i'r llanc, a chlywed eto fod y llythyr wedi ei gyfeirio i Mr. Watkin Edmunds, Nantmaden, Penderyn, near Hirwain, erchodd i Dai ei agor, a'i ddarllen allan. Hynny a wnaed, ac i'r perwyl canlynol:
"If Mr. Watkin Edmunds of Nantmaden is willing to sell his game cockerel—Beauty of the Beacons, he will find Mr. Anthony Moore, at present of the Castle Hotel, Brecon, ready to come to terms. Should Mr. Edmunds bring his bird any morning to the above hotel, he must inquire for A. Moore, Esq., who trusts that this missive will lead to business."
"Beth yw missive, Dai?—'rwy'n diall y rest i gyd. Mae e'n mo'yn prynu'r Beauty, dybycwn i.'
Oti, ma' hynny'n blaen, ac ystyr missive yw necas 'rwy'n cretu. Be' newch chi? Dyma shawns ichi werthu ta' beth."
"Wn i yn y byd mawr! Ond dyna sy'n od'rwy' ishws wedi gofyn i mishtir am gennad i fynd i'r dre' drennydd i weld Moc 'y nghendar. Fe fydda'n taro i'r dim i fi alw'n y Castle yr un pryd. Wyt ti'n cretu'n 'itha' siwr y bydde'r dandy bach, Mr. Moore yna, yn gretig i'r d'eryn?"
"Wtw i—fe weta's hynny o'r bla'n."
"Do, fe wn, ond bachan! mae e' shwd g'il'og pert,—cha i byth mo'i depig yto."
Ni roddodd Dai un ateb i hyn am nad oedd ofyniad ynddo, ond amlwg iddo fod Wat mewn cyfyng gyngor ynghylch y cynnyg.
Aeth trannoeth heibio ymron yn llwyr heb gyfeiriad pellach at Aberhonddu a'i westy. Yr oedd Wat yn ddwedwst iawn drwy'r dydd, ac ni fynnai Dai er dim dorri'n anystyriol ar ei daw. Ond pan ar fedr mynd i'r ty dros nos mentrodd y llanc gyfeirio'n gynnil at fyned o'i ffrind i ffwrdd y dydd canlynol.
"Welai mo'noch chi 'fory, Wat, tepig."
Na, Dai, fe fyddai i wedi mynd cyn dydd, ond d'wn i yn 'y myw beth a wnaf â'r c'il'og. Fuo i yrio'd m'wn shwd fix naddo, ar f'ened i."
Teimlai Dai oddiwrth y lleferydd ei fod yn dywedyd y gwir, oblegid nid byth y galwai Wat ar ei enaid yn dyst ond ym munudau ei gyffro mwyaf, gwnai "myn asgwrn" i neu "ar fencos i" y tro ar achlysuron llai.
Teimlai Dai mai gwell hefyd a fyddai iddo ef ei hun fod yn dawedog oblegid pe mentrai ef ar gymeradwyo gwerthu'r aderyn priodolid ef ar unwaith i'w gredo fel Ranter a byddai Wat yn sicr o'i wrthod.
Felly aeth y llanc i'w wely heb fod nemor callach am fwriadau perchen yr aderyn am y dydd canlynol, ac ychydig a feddyliai, pan ymadawai ag ef y noson honno mai hwnnw oedd y tro olaf iddynt weled ei gilydd am rai blynyddoedd.
Bore trannoeth yr oedd lle Wat yn wâg wrth y bwrdd. Nid oedd neb yn y ty yn rhyfeddu dim am hynny, am y gwyddid fod yn ei fwriad i gychwyn cyn dydd. Ond fel y tyfai'r diwrnod daeth i feddwl Dai mai hynod o beth oedd na ofynasai Wat iddo am ofalu am yr aderyn, hynny yw, os ei adael ar ol oedd ei fwriad. Rhaid, wedi'r cwbl, ei fod o'r dechreuad yn benderfynol o'i werthu. "Ond mi af," ebe'r llanc wrtho ei hun, "i'r Pwll Canol y prynhawn yma i ga'l bod yn siwr, ta' beth."
Hynny a wnaeth ar ol cinio, ac yn sicr ddigon nid oedd yn y cwt ar y mynydd na cheiliog nac arall. "Diolch am hynny!" ebe Dai, "ond fe boena' i 'rhen walch wedi'i dd'od 'nol, am 'y nghatw i yn y tywyllwch. Ond hen fachan annw'l yw e' wedi'r cwbwl, er 'i fod mor 'styfnig weitha'".