Wat Emwnt/Wrth y Cwpwl
← Rhagair | Wat Emwnt gan Lewis Davies, y Cymer |
Ranters, Mawr a Bach → |
WAT EMWNT
—————————————
PENNOD I
Wrth y Cwpwl
"HYFF! Diolch am dipyn o awyr ffres! Y mae'n bo'th ffyrnig i'r lan ar y cwpwl yna! Be' wyr pobol y pentra am waith calad? Ro'wn i'n gweld rhai o nhw trwy dwll y lowsed yn rhodianna gyda glan yr afon gynneu pan o'wn inna' 'mron rhosto o dan y tô. Mae mwy o waith i gywain y gwair i'w le nag y ma' llawar yn 'i feddwl. O's wir, ac fe weta' unpeth arall hefyd,-aiff dim gwybetyn yn rhacor i'r hen gwpwl yna cyn Calan nesa' fe wna'm llw. Ma'r gwair mor dyn o dan y teils ag y gall gwair fyth fod. Aros, funad, Wat, cyn dechra'r cwpwl nesa' i fi ga'l m'anal am dipyn bach, wnei di?"
"Eitha da, machan i, fe wn inna'n iawn beth yw llanw'r cwpwl dan y tô. Gwn, ar fencos i, a hynny pan o'wn i'n grotyn llai na ti, a'r hen Wil Hwlyn yn tawlu'r gwair i'r lan yn ddicon i'm moci. Gwn yn wir, yr hen ffwlcyn di-ened shwd ag oedd e', yn meddwl am neb arall ond i hunan, a chretu y dylsa' pawb fod mor gryf ag o'dd e', yr hen hwrswn! 'Do's tyfedd yn y byd iddo golli'i synhwyra' yn y diwedd-'doedd dim llawer gydag e' yn y dechre'. Ac o sôn am wiped, y mae un peth gyda'r gwair yma sy' lawn galeted gwaith a stwffo'r cwpwl, ac fe ddywi di i wpod 'ny nes ymla'n."
"Beth yw hwnnw, fe garwn i wpod ?"
"Wel, cwnnu cyn pedwar, a lladd chwarter erw ynghanol y gwiped cyn brecwast. Ma' gwiped y bore'n wa'th na gwiped y nos, w'ost."
"Na wn i'n wir!" ma dy gefam di'n rhy fain yto, ond ti ddywi i wpod machan i! dywi-aros di flwyddyn neu ddwy, dyna i gyd! Be sy'n dy law di? Rho weld!"
"Rhwpath a ffeindias ar ben y wal o dan y tylatha', petha' od ond iefa ?"
"Od wir, ia, a mwy nag od. O's gen't ti ryw gynnyg beth y'n nhw ?"
"Dim y lleia.'
"Wel, rho nhw i fi, ac yna fe weta' wrthot ti."
"Cei, am wn i, ma' nhw'n rhwd i gyd ta' beth. Dydy nhw ddim o fawr gwerth i neb, greta i."
"Ddim 'nawr, 'falla', ond bachan! gaflets y'n nhw! ac fe fu rhain yn 'sgleirio fel yr arian un amser; steel spurs r'hen ffashwn ac yn gwneud hafog yn y pwll c'ilocod, tepig. Glywa'st ti mo enw Moc Bla'n Cadlan yrio'd?"
"Wel do, gan 'y nhad a chan 'y mam hefyd o ran hynny. D'o'dd e' ddim llawer o beth."
"Ddim beth, weta'st ti?"
"Dim llawer o beth i sôn am dano."
"O na! ddim yn 'ffeir'ad a gwynab hir ar Ddy' Sul a gwynab arall ar ddydd arall, os hynny wyt ti'n 'i feddwl. Na, dim Ranter 'chwaith yn 'y ngosod i a'm short yn uffern bob tro y gwela' nhw fi. Fe allwn feddwl ta' Press Gang y lle twym y'n nhw ar f'ened i, gan mor barod y'n nhw i ala dyn'on yno! Ond hen fachan piwr o'dd Moc er gwaetha'r ciwradiaid a'r Ranters i gyd. Ffond o wmladd c'ilocod, dyna i gyd. Ac os o'dd hynny'n bechod, barna di! Bachan! 'd'os dim gwell gwaith yn y byd! Wel' di nhw? y ddou dderyn pert yn barod idd 'i gilydd, ac yn gellwng ati! Dyna i ti giem, dyna i ti blwc, y ddou yn wmladd hyd farw. Os creodd y Duw Mawr game cocks pa'm mae hen fenywod o ddyn'on am eu rhwystro i wmladd wn i? A dweyd y gwir wrthot ti'n onest, dyna'r rheswm i fi dd'od yn was i Nantmaden o gwbwl,-'ro'dd Moc hefyd wedi bod yma yn 'i amser e'. Ac 'rwy'n cretu amball waith fod 'i ysbryd e' yma eto. Ond wela's i ddim yn perthyn iddo yrio'd cyn i ti ga'l y gaflets yma. Fe'u catwa i nhw er cof am dano. Diolch! Dai bach, fe wna' i'r cwpwl nesa' os estynni di'r gwair i'r lan. Ond paid a lladd d'hunan, 'rwyt yn rhy ifanc i farw cyn ffair Castall nedd, ha! ha! At y gwaith gocrelyn bach ! fe dyf dy spurs ditha' yn y man!"