Neidio i'r cynnwys

Wat Emwnt/Yr Ornest

Oddi ar Wicidestun
Mynd i'r Plough Wat Emwnt

gan Lewis Davies, y Cymer

Dysgu Darllen



PENNOD VIII.
Yr Ornest.

AR y gair bu tawelwch am ennyd, ond, ar ysgwyd llaw o berchenogion yr adar, a gollwng y ddau geiliog yn rhydd ar y bwrdd, rhedodd ton lafar o edmygedd o gylch yr ystafell. Amlwg oedd fod Cymry, ymron i gyd, ar ochr Wat, ond y Fforesters, yn ddieithriad, gydag ambell Gymro (megis yr un y lladdodd Beauty ei aderyn ef ar Fanwen Byrddin) o blaid ei wrthwynebydd.

Ond dacw'r ddau aderyn yn crychu plu eu gyddfau ac yn wynebu ei gilydd yn ffyrnig. Aden a choes, coes ag aden, y bu hi am ryw ysbaid, gyda gwylio manwl gan y naill am wendid y llall, a'r ddau yn hynod gyfartal. Gweithio'n ol a blaen ar hyd y bwrdd mawr ac eto frathu â'r ysbardun, a thariannu â'r aden, drachefn a thrachefn.

Daliai Dai ei sylw ar ei gyfaill yn hyn oll, ac o bu ias y frwydr mewn llygad dynol erioed, yn nhrem Wat yr oedd y pryd hwnnw. Tua diwedd yr ymosodiad cyntaf dechreuodd y rhegfeydd a'r Ilwon ddyfod i'r amlwg, yn Saesneg ac yn Gymraeg, a'r dorf yn ymysgwyd y ffordd hon a'r ffordd arall, gan ddilyn ffawd yr ymladd yn anymwybodol yn eu hystum corff eu hun.

Ar darawiad chwibanwyd yn uchel gan feistr y chware, cydiwyd yn y ddau aderyn gan y swyddogion a benodwyd i hynny ac yr oedd yr ymgyrch cyntaf ar ben. Trodd pob gŵr at ei beint ar yr astell, yfwyd dracht helaeth ohono, a bu siarad uchel cyn dechreu o'r ail chware.

Ati eto—y ddau geiliog wedi eu hadnerthu yn y seibiant, ac wedi eu hail-gynddeiriogi gan boen yr ergydion blaenorol. Nid oedd y dorf mor dawel yn yr ail-ymosodiad hwn. Clywid " 'Nawr Beauty bach!"a "Go it Lydney Boy!" o wahanol fannau, ond Wat ni ynganai air, mwy na'r Fforestwr gyferbyn ag ef, am y tybid hi'n doriad ar foesau'r pit i'r perchennog ddatgan ei deimlad un ffordd neu'r llall.

Ond nid oedd yr unrhyw atalfa ar y gweddill o'r cwmni, a gwelodd Dai lawer dwrn yn cau o dan rym dylanwad yr ymdrech.

Cyfartal iawn ydoedd hi y waith hon eto, a llamodd calon y llanc i'w wddf o weled unwaith ysbardun milain y Lydney Boy yn sefyll allan rhwng plu gwddf y Beauty. Ond brathu'r plu yn unig a wnaeth, ac ymladdwyd i ben yr ail ymosodiad yn chwyrn i'w ryfeddu.

Gwelodd Dai oleu newydd yn llygad Wat tua'r amser hwnnw, ac amlwg hyd yn oed i'r llanc dibrofiad ei hun, oedd arwyddion o wanhau'r Lydney Boy pan seiniwyd y chwibanogl unwaith yn rhagor. Erbyn hyn yr oedd pobl y tafarn yn dechreu ail lenwi'r llestri ar yr astell, a chwyddai'r twrw yn fwyfwy fyth.

"To the Pit," ebe'r llais am y drydedd waith, ac wele eto y ddau aderyn yn wynebu ei gilydd gyda'r un dicter ag o'r blaen. Ymladdodd y Lydney Boy mor wrol ag erioed, ond nid oedd yr un grym yn ei ergydion na'r un chwimder i'w amddiffyn ei hun, â'i aden. Ar y llaw arall daliai'r Beauty ati fel pe yn ffres i'r frwydr. Nid oedd ond un terfyn, namyn o ddamwain, i'r fath ymladd, a gwelid hynny'n eglur ddigon yn lleferydd ac osgo'r Foresters a'u cyfeillion Cymreig. Yn ebrwydd daeth y diwedd gydag ysbardun dur Beauty'r Bannau yn ymennydd y Lydney Boy.

Trodd Dai ei olwg at Wat i weld sut yr ymagweddai yn awr ei fuddugoliaeth, ond y cwbl a ganfu ef oedd gweled ei hen gyfaill yn taro un llaw yn y llall ac yn codi a nesu at feistr y chware. Yn ymyl hwnnw oedd y ddau ddyn ieuainc y soniwyd am danynt yn nechreu'r ymgyrch.

"Demned fine bird!" ebe'r cyntaf o'r rheiny, ac "It's ten golden guineas I'll give you for him this instant," ebe'r llall.

Ond gan estyn heibio iddynt er cymryd ei aderyn oddiwrth y swyddog, ebe Wat wrthynt yn ei Saesneg hy bratiog, "Me no sell."

Taer oedd y gŵr ieuanc, serch hynny, ac yn y diwedd dywedodd, "At least, give me your address, for you'll surely change your mind and let me make an offer later. Here's my card!"

Dywedodd Wat mai yn Nantmaden, Penderyn, yr oedd ef yn byw, ond pwysleisiodd unwaith eto, "Me no sell."

"Come along, Anthony," ebe'r gŵr ieuanc cyntaf, "and bide your time. He'll be glad of a fiver later on. Demned fine bird all the same!"

Pan gyrhaeddodd Wat y drws yr oedd Dai eisoes wrth ei ochr, ac yn gofyn am gael cario'r Beauty adre. Ofn oedd ar y llanc y byddai i'w hen gyfaill fynd, yn afiaith y fuddugoliaeth, i'r gyfeddach gyda'r mwyafrif o'r cwmni. Ond yn hynny siomwyd ef i'r ochr oreu oblegid, wedi troi o Wat at y gŵr o Fanwen Byrddin a dywedyd rhywbeth wrtho am "bump o'r gloch yfory," dilynodd ef ei gyfaill bach allan i'r awyr agored, ac i waered i'r heol. Cyn mynd nemor o ffordd esboniodd Wat i'w gyfaill y peth a barodd ei ddyfod mor fuan.

Os wy' i'n mynd i ga'l c'il'ocod da rhaid gofalu am dany'n nhw, ac fe fydd isha bwyd mawr ar y Beauty erbyn cyrhaeddwn ni Nantmaden."

Bydd wir," ebe Dai, ac er mai atgas ganddo holl helynt yr ymladd yn y Plough, teimlai ei hun yn cynhesu at ei gydwas o weld ei ofal dros y ceiliog dewr.

Ychydig fu'r siarad ar y ffordd adre namyn unwaith neu ddwy am wrthydri'r Beauty, a'r braw a deimlwyd yn yr ail ymosodiad o weld ysbardun y Lydney Boy drwy blu'r gwddf.

"Dere i'r scupor ucha gyda fi cyn mynd i'r ty, wnei di?" ebe Wat at ddynesu ohonynt at y fferm. Yno tynnwyd yr aderyn allan o'r sach, ac wedi edrych ei niweidiau yn fanwl, torrodd Wat allan mewn dolef mawr, "Bachan! Bachan! dim ond trwch y blewyn oedd hi!"

Yna gwelodd y llanc fod ysbardun y Lydney Boy wedi torri rhych o glwyf yn wddf y Beauty, a phe bâi ond chwarter modfedd yn nes i mewn byddai wedi darfod am dano. Llongyfarchodd Dai ei gyfaill o galon ar y waredigaeth fawr, a cheisiodd yr hen was guddio ei gyffro ei hun trwy frysio i fwydo'r aderyn â'r mângig a baratoisid ar ei gyfer cyn cychwyn i'r Plough.

Ar ol gosod y ceiliog yn ddiogel dros y nos, nid oedd dim ychwaneg i'w wneuthur ond mynd i'r ty a cheisio ymddangos nad oeddynt wedi bod nac yma nac acw, namyn gyda gorchwylion y fferm.

Cyn cyrraedd ohonynt y ty, teimlai Dai ei fod rywfodd wedi bod yn anheyrngar iddo ef ei hun yn holl weithrediadau'r noson honno, ac ebe fe wrth ei gydwas, "Edrychwch yma, Wat. Mae'n bryd i i ni ddeall ein gilydd. 'Rwy' wedi gwneud popeth a addewais i chi ynglŷn â'r wmladd yma, ac fe gatwaf f'addewid eto i ofalu am Beauty pe digwyddai rhwpath i chi. Ond hyn 'rwy'n 'weyd—rhaid i chi b'idio gofyn i fi dd'od i'r Plough nac i unman arall tepig iddo yto, wa'th ddwa i ddim, a 'rwy'n cretu ta' mishtir sy'n iawn, ac nag o's dim da i dd'od o ddoti dou dderyn diniwed i wmladd am 'u bywyd am fod Duw wedi rhoi plwc di-ild'o iddi nhw."

"Fel y mynnot, Ranter bach, ond ma' pawb yn 'i 'neud e, hynny yw pawb ond y Ranters.

"Wel, cyfrifwch chi fi fel Ranter ynte, ac yna fe fydd popeth yn iawn."

O'r gora', fe gofia i beth wyt ti'n 'weyd, ond gad i ni fynd mewn n'awr—fe glywa's Mali yn galw swper' pan o'wn ni'n y scupor ucha."

Nodiadau

[golygu]